
Paratoi'r ffordd at gael cymorth yr un diwrnod ar gyfer iechyd meddwl
New vision for mental health in Wales paves the way for same-day support
Bydd pobl sydd angen cymorth iechyd meddwl yn gallu troi fwyfwy at wasanaethau yr un diwrnod, yn sgil cynllun uchelgeisiol i wella gofal ymhellach ledled Cymru.
Mae’r Strategaeth Iechyd Meddwl a Llesiant Meddyliol 10 mlynedd newydd yn rhoi pwyslais ar atal ac ymyrryd yn gynnar, canolbwyntio ar yr unigolyn a sicrhau bod pobl yn cael eu cyfeirio at y math mwyaf priodol o gymorth ar yr adeg gywir, heb oedi.
Rhan allweddol o'r gwaith o drawsnewid gofal iechyd meddwl fydd gwasanaethau mynediad agored, fydd yn golygu bod pobl yn cael cymorth yr un diwrnod heb fod angen atgyfeiriad.
Mae'r newid eisoes wedi dechrau wrth i wasanaeth 111 pwyso 2 ar gyfer gofal iechyd meddwl brys gael ei gyflwyno drwy Gymru.
Bydd hwn yn cael ei ddatblygu ymhellach drwy fodel fesul cam, fydd yn darparu cymorth priodol ar bob lefel. Dim ond os oes angen, a phan fo angen, y bydd pobl yn cael eu hatgyfeirio at gymorth dwysach.
Mae'r Strategaeth Iechyd Meddwl a Llesiant Meddyliol wedi'i siapio gan leisiau’r bobl y mae wedi'i chynllunio i'w cefnogi. Mae'n sicrhau bod y blociau adeiladu ar waith i gefnogi iechyd meddwl da ac y gellir helpu pobl i amddiffyn eu hiechyd meddwl a'u llesiant meddyliol eu hunain.
Dywedodd y Gweinidog Iechyd Meddwl a Llesiant, Sarah Murphy: "Mae'r strategaeth hon yn golygu newid mawr yn y ffordd ry’n ni’n ymdrin ag iechyd meddwl a llesiant yng Nghymru.
"Trwy ganolbwyntio ar atal ac ymyrryd yn gynnar, gan sicrhau hefyd bod cymorth ar gael yn rhwydd pan fo angen, ry’n ni’n gweithio i greu gwlad lle gall pawb ffynnu.
"Ry’n ni’n gwybod bod iechyd meddwl da yn dibynnu ar lawer mwy na gofal iechyd yn unig.
"Dyna pam ry’n ni’n gweithio i fynd i'r afael â'r holl ffactorau sy'n effeithio ar lesiant – o dai a chyflogaeth i daclo unigrwydd ac adeiladu cymunedau cryfach."
Yn ogystal â gwella mynediad at gymorth iechyd meddwl, mae'r strategaeth yn rhoi sylw i ddatblygu gwell cysylltiadau rhwng gwasanaethau i gefnogi pobl pan fydd ei angen arnynt.
Bydd y dull hwn, sy'n canolbwyntio ar yr unigolyn, yn cynnwys cysylltu pobl â chymorth cymunedol, anghlinigol, drwy broses ‘presgripsiynu cymdeithasol’.
Mae Living Streets Cymru yn trefnu teithiau cerdded wythnosol ac yn ymgyrchu dros well seilwaith ar gyfer cerdded. Mae eu rhaglen, Cyfeillion Cerdded Cymru, wedi elwa ar gymorth Llywodraeth Cymru yn y gorffennol ac mae'n cefnogi pobl hŷn sydd mewn perygl o fod yn unig neu’n ynysig yn gymdeithasol.
Dywedodd Ruth Billingham o Living Streets Cymru: "Mae cerdded yn cynnig manteision enfawr o ran iechyd y meddwl a’r corff. Mae ymuno â grŵp cerdded yn wych hefyd i fagu hunanhyder a lleihau unigrwydd.
"Mae ein grwpiau lleol yn dod â phobl at ei gilydd i drefnu teithiau cerdded, creu cysylltiadau newydd ac ymgyrchu dros newidiadau i'w hamgylchedd cerdded lleol. Maen nhw'n dweud wrthyn ni bod cerdded a siarad yn eu helpu i ddelio â theimladau o unigrwydd, gorbryder a thristwch."
Nodiadau i olygyddion
About Living Streets Cymru
We are Living Streets Cymru, part of the UK charity for everyday walking and the people behind the UK’s biggest walk to school campaign. We want to create a nation where walking is the natural choice for everyday, local journeys; free from congested roads and pollution, reducing the risk of preventable illnesses and social isolation. We want to achieve a better walking environment and to inspire people of all generations to enjoy the benefits the simple act of walking brings.
For more than 90 years we’ve been a beacon for walking. In our early days our campaigning led to the UK’s first zebra crossings and speed limits. Now our campaigns and local projects deliver real change to overcome barriers to walking and our groundbreaking initiatives such as the world’s biggest Walk to School campaign encourage millions of people to walk.