English icon English

Partneriaeth newydd i wella gwasanaethau bysiau er lles y cyhoedd

New partnership will shape bus travel in the public interest

Mae cynrychiolwyr blaenllaw’r sector cyhoeddus a’r diwydiant bysiau wedi arwyddo cytundeb newydd fydd yn gwella gwasanaethau bysiau ac yn helpu i wireddu’r nod o integreiddio’r system drafnidiaeth.

Yn gynwysedig gyda'r cytundeb hwn mae £ 37.2m ychwanegol o gyllid i barhau i gefnogi'r diwydiant bysiau yn y flwyddyn ariannol sydd i ddod. Bydd hyn yn rhoi sicrwydd pellach i weithredwyr, gan eu galluogi i gynllunio ar gyfer y dyfodol.

Arwyddwyd y cytundeb gan gwmnïau bysiau, awdurdodau lleol, Trafnidiaeth Cymru a Llywodraeth Cymru.

Dywedodd Ken Skates, Gweinidog yr Economi, Trafnidiaeth a’r Gogledd:

“Mae’r cytundeb hwn yn sicrhau mai lles y cyhoedd yw hanfod ein rhwydwaith bysiau.  Trwy weithio’n fwy clos, gallwn ddiwygio sylfeini’n gwasanaethau bws lleol, i ateb anghenion teithwyr yn well.

“Mae heriau’r coronafeirws, hinsawdd sy’n newid a phatrymau gwaith cyfnewidiol yn golygu bod rhaid gwneud pethau’n wahanol. Rydym wedi ymrwymo arian cyhoeddus sylweddol i gefnogi gwasanaethau bws ac mae ond yn deg i hynny arwain at welliannau i deithwyr.

“Mae hi wedi bod yn dda gweld ymateb positif y diwydiant hyd yma ac rwy’n disgwyl ymlaen at gydweithio â nhw i greu rhagor o lwybrau a gwasanaethau hygyrch. Mae dyfodol cynaliadwy i’n rhwydwaith trafnidiaeth yn golygu gwneud trafnidiaeth gyhoeddus yn ddewis cyfleus i ragor o bobl wrth i ni ddatblygu dewisiadau amgen i ddefnyddio ceir.”

O dan delerau’r cytundeb, bydd gofyn i gwmnïau ddarparu gwasanaethau bws sy’n diwallu anghenion lleol. Bydd yn sicrhau bod pawb yn gweithio gyda’u gilydd i gefnogi adferiad y rhwydwaith cyfan.  Bydd ei flaenoriaethau’n cynnwys cefnogi teithiau dysgwyr i ysgolion, cynyddu gwasanaethau pan fydd y galw’n fwy na’r capasiti a helpu’r economi i ymadfer.

Bydd y cytundeb yn cefnogi hefyd integreiddio’r holl ddulliau trafnidiaeth trwy bethau fel tocynnau clyfar ac amserlenni integredig. Bydd yn fframwaith ar gyfer cydweithio gwell rhwng y sector cyhoeddus a chwmnïau bysiau.

Dywedodd Scott Pearson, Cadeirydd CaBAC – Gweithredwyr Coetsys a Bysiau Cymru, sy’n cynrychioli cwmnïau bysiau bach a chanolig:

“Roeddem yn falch o fod wedi cymryd rhan lawn yn y drafodaeth am ddyfodol y diwydiant bysiau yng Nghymru a arweiniodd at lunio’r cytundeb hwn. Gan gydnabod yr help rydym wedi’i gael gan y Llywodraeth dros y deuddeng mis diwethaf, bydd ein haelodau am gydweithio nawr â’n partneriaid yn y Llywodraeth, Trafnidiaeth Cymru a’r Awdurdodau Lleol i ddiogelu a gwella gwasanaethau i deithwyr ledled Cymru.”

Dywedodd Joshua Miles, Cyfarwyddwr CPT Cymru:

“Mae partneriaeth y Cynllun Brys ar gyfer y Sector Bysiau yn newyddion da i deithwyr bysiau ledled Cymru. Mae'n sefydlu mecanwaith clir lle bydd partneriaid y Cynllun Brys ar gyfer y Sector Bysiau yn cefnogi teithwyr yn ôl i drafnidiaeth gyhoeddus yn hyderus wrth i'r cyfyngiadau gael eu codi.

Trwy’r Cynllun Bysiau Brys gall pob partner nawr weithio'n agos gyda'i gilydd i adeiladu'n ôl yn well ar gyfer y dyfodol. Bydd yr ymrwymiad tuag at ddatblygu mesurau blaenoriaeth bysiau, datrysiadau tocynnau gwell a mentrau cerbydau yn hanfodol wrth leihau tagfeydd a'r trawsnewidiad tuag at gerbydau allyriadau sero.

Mae teithio ar fws yn rhan bwysig o gael ein bywydau yn ôl i normalrwydd. Bydd partneriaeth Cynllun Bysiau Brys yn helpu'r genedl i adfywio ar ôl Covid-19 a gyrru gwelliannau pellach i deithwyr bysiau yng Nghymru.”

Dywedodd y Cynghorydd Andrew Morgan, Arweinydd Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru:

“Mae Llywodraeth Cymru, Trafnidiaeth Cymru, awdurdodau lleol a gweithredwyr bysiau wedi bod yn cydweithio’n adeiladol i gynnal lefel o wasanaeth trwy gydol y pandemig. Mae'r cytundeb hwn yn deillio o'r gwaith partneriaeth agos hwn. Mae nawr yn darparu sylfaen i ni i gyd wrth geisio ail-adeiladu nawdd, gan annog niferoedd cynyddol i ddefnyddio trafnidiaeth gyhoeddus dros amser ar gyfer ystod eang o deithiau, fel y mae'r amodau'n caniatáu.”