English icon English

Partneriaid yn y Gogledd yn gweithio gyda’i gilydd i gefnogi’r rhanbarth

North Wales partners working together to support region

Heddiw, dywedodd Gweinidog yr Economi a Gogledd Cymru fod Llywodraeth Cymru a’i phartneriaid ar draws Gogledd Cymru yn parhau i weithio gyda’i gilydd i gefnogi’r rhanbarth wrth iddo fynd i’r afael ag effaith dybryd y pandemig a chynllunio at y dyfodol.          

Daeth y cyhoeddiad hwn gan y Gweinidog yn dilyn cyfarfod y Pwyllgor Cabinet ar y Gogledd a oedd yn cynnwys arweinwyr chwe awdurdod lleol yn y rhanbarth.

          Dywedodd Ken Skates: “Mae’n amlwg bod gweithio mewn partneriaeth yn gadarn ar draws y Gogledd ac mae’r berthynas honno yn bwysicach bellach nag erioed wrth inni wynebu heriau pandemig y coronafeirws, a diwedd y cyfnod pontio. Gyda’n gilydd yng nghyfarfod y Pwyllgor Cabinet, trafodom sut y gallwn fynd ati ar y cyd i sicrhau bod y rhanbarth yn adfer yn gynaliadwy.

          “Heb un amheuaeth, mae’r sefyllfa yn ddifrifol gyda’r sector gweithgynhyrchu yn benodol wedi’i effeithio yn y Gogledd-ddwyrain a’r diwydiant twristiaeth yn fwy i’r Gorllewin. Byddwn ni fel Llywodraeth Cymru yn gwneud popeth yn ein gallu i gefnogi busnesau yn ystod y cyfnod anodd iawn hwn.

                    “Cytunom yn unfrydol i barhau i weithio gyda’n gilydd ac achub ar bob cyfle i ennyn fwy o hyder ac atgyfnerthu ein hymrwymiad diamheuol i’r rhanbarth. Mae llawer ar waith eisoes gan gynnwys datblygu Bargen Dwf y Gogledd a fydd yn gallu trawsnewid y rhanbarth, a sicrhau buddsoddiadau mewn trafnidiaeth a chanol ein trefi.”

Dywedodd y Cynghorydd Dyfrig Siencyn, Cadeirydd Bwrdd Uchelgais Economaidd Gogledd Cymru ac arweinydd Cyngor Sir Gwynedd: “Roedd arweinwyr ar draws y rhanbarth yn falch o gwrdd â Gweinidogion Llywodraeth Cymru yn ystod y Pwyllgor Cabinet ar y Gogledd.

          “Roedd y cyfarfod yn gyfle i dynnu sylw at sawl her sy’n wynebu’r chwe sir yn y gogledd, gan gynnwys pryder go iawn am ddiweithdra y mae mwy a mwy o bobl wedi’i brofi ers dechrau’r pandemig. Roedd yn galonogol clywed bod y Gweinidogion yn awyddus i drafod prosiectau posibl a allai helpu i ddarparu sgiliau newydd i weithwyr a chefnogi pobl ifanc wrth iddynt ddechrau yn y byd gwaith yn ystod cyfnod anodd. Rwy’n gobeithio y gwelwn ddatblygiadau yn y maes pwysig hwn yn ystod y misoedd nesaf.

                    “Tynnodd yr Arweinwyr sylw hefyd at bwysigrwydd seilwaith cyfalaf i hybu economi’r Gogledd yn y tymor byr wrth inni weithio gyda’n gilydd i ailadeiladu ein heconomi ac rydym yn gobeithio gweld ymrwymiad pellach.

          “Wrth gwrs, mae Brexit yn dal i fod ar yr agenda a phwysleisiwyd yr effaith y byddai ymadael â’r Undeb Ewropeaidd heb gytundeb yn ei chael ar allforion i gwmnïau ar draws y rhanbarth, yn ogystal â’r effeithiau ar yr economi wledig a’r sector amaethyddol sy’n elfen mor bwysig o’n heconomi.”