English icon English
Money-3

Pecyn ariannu gwerth £6.2 miliwn wedi’i gyhoeddi ar gyfer Llyfrgell Genedlaethol Cymru ac Amgueddfa Cymru

£6.2 Million funding package announced for the National Library of Wales and Amgueddfa Cymru

Heddiw, mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi pecyn ariannu newydd ar gyfer Llyfrgell Genedlaethol Cymru ac Amgueddfa Cymru.

Mae'r pecyn yn cynnwys £6.2m dros flynyddoedd ariannol 2020-21 a 2021-22, gan roi £2.25m i'r Llyfrgell a £3.95m i’r Amgueddfa i ddiogelu swyddi a chyflawni blaenoriaethau strategol newydd. Mae'r cyllid ar gyfer y Llyfrgell hefyd yn cynnwys £0.75m i gyflymu'r broses o weithredu canfyddiadau'r Adolygiad Teilwredig a gynhaliwyd yn ddiweddar.

Dywedodd y Dirprwy Weinidog Diwylliant, Chwaraeon a Thwristiaeth, yr Arglwydd Elis-Thomas: "Mae'n bleser gen i gyhoeddi'r cyllid hwn a fydd yn diogelu ac yn cefnogi dau o'n sefydliadau diwylliannol pwysicaf yn ystod y cyfnod heriol iawn yma. Rydym wedi bod mewn cysylltiad parhaus â'r Llyfrgell a gydag Amgueddfa Cymru ers peth amser, ac rydym yn cymryd camau i ddiogelu swyddi ac i sicrhau cynaliadwyedd y cyrff hyn, sy'n gyfrifol am ofalu am ein casgliadau cenedlaethol ar ran pobl Cymru.

"Ers cyhoeddi canfyddiadau'r Adolygiad Teilwredig ym mis Tachwedd 2020, mae'r Llyfrgell wedi symud ymlaen yn sylweddol gyda'r cynllun i weithredu argymhellion yr Adolygiad – mae'r momentwm hwn a ffocws ar yr hyn sydd angen ei wneud wedi ein galluogi i ddatblygu'r gyllideb weithredu angenrheidiol."

Dywedodd Rebecca Evans AS, y Gweinidog Cyllid a’r Trefnydd: "Rwy'n falch o gadarnhau'r gefnogaeth hon er gwaethaf un o’r setliadau cyllideb mwyaf heriol i Gymru ei wynebu. Bydd y pecyn hwn yn mynd i'r afael â heriau uniongyrchol ac yn rhoi amser a lle i Amgueddfa Cymru a'r Llyfrgell Genedlaethol ddatblygu cynlluniau newydd i sicrhau mwy o sefydlogrwydd ar gyfer y tymor hir. Bydd hyn yn cynnwys cynnydd o ran cynaliadwyedd, trawsnewid digidol a gweithgarwch allgymorth ac ymgysylltu ehangach gyda chymunedau Cymru."

Dywedodd Roger Lewis, Llywydd Amgueddfa Cymru:  "Rydym yn croesawu'n fawr y cynnydd hwn mewn cyllid a chefnogaeth gan Lywodraeth Cymru yn ystod y cyfnod anodd yma. Mae effaith COVID-19 wedi achosi heriau digynsail i lawer o sefydliadau a busnesau yng Nghymru, ac nid yw Amgueddfa Cymru yn eithriad. Mae'r arian ychwanegol hwn yn ein rhoi ni mewn sefyllfa gryfach i wynebu'r heriau hyn, gan sicrhau y gall Amgueddfa Cymru fynd ati’n ddiwyd i gefnogi'r gwaith o wella ac ailadeiladu cymunedau Cymru. Diolchwn yn ddiffuant i Lywodraeth Cymru am gydnabod a chefnogi rôl hanfodol ein sefydliadau diwylliannol wrth greu Cymru well i bawb." 

Meddai Meri Huws, Llywydd, Llyfrgell Genedlaethol Cymru: “Rwy’n croesawu penderfynaid Llywodraeth Cymru i ddarparu’r cyllid ychwanegol hwn i’r Llyfrgell, sy’n golygu y byddwn ni’n gallu mynd i’r afael â phrif argymhellion yr Adolygiad Teirwriedig yn ogystal â rhoi ein Cynllun Strategol newydd a chyffrous ar waith.”