Pecyn cyllid gwerth £14 miliwn ar gyfer sector chwaraeon a hamdden Cymru
£14m funding package for Wales’ sport and leisure sector.
Mae’r Dirprwy Weinidog Diwylliant, Chwaraeon a Thwristiaeth wedi cyhoeddi pecyn cyllid heddiw [dydd Iau 17 Medi] i gefnogi sector chwaraeon a hamdden Cymru.
Bydd y ‘Gronfa Adfer Chwaraeon a Hamdden’ yn cefnogi’r sector gyda’r heriau parhaus sydd wedi deillio o bandemig COVID-19 ac yn sicrhau cynaliadwyedd yn y tymor hwy.
Nod y gronfa yw darparu cymorth hanfodol i glybiau a sefydliadau chwaraeon, darparwyr annibynnol a digwyddiadau chwaraeon sydd wedi wynebu heriau sylweddol yn ystod yr argyfwng ac sy’n parhau i ddioddef effeithiau difrifol. Bydd y gronfa'n helpu i ysgogi arloesedd mewn ganolfannau hamdden awdurdodau lleol ac ymddiriedolaethau hamdden ac yn ychwanegu ac y gronfa caledi ar gyfer llywodraeth leol.
Dywedodd y Dirprwy Weinidog Diwylliant, Chwaraeon a Thwristiaeth: “Rwy'n falch ein bod yn gallu arwain y ffordd yng Nghymru wrth ddiogelu a chynnal y rhan bwysig iawn hon o’n cymdeithas drwy ddarparu’r pecyn cymorth hwn wedi’i dargedu.
“Daeth chwaraeon ledled Cymru i ben yn gwta ledled Cymru ar ddechrau’r argyfwng, a gwelwyd yr effeithiau ar unwaith. Rydym hefyd yn cydnabod bod y sector yn wynebu heriau sylweddol yn y tymor hwy – sy’n gysylltiedig ag ailagor yn raddol a chapasiti isel. Dw i’n gobeithio y bydd y gronfa hon yn helpu gyda chynllunio ar gyfer y tymor hir a chynaliadwyedd yn y sector chwaraeon a hamdden – sector sy’n chwarae rhan hanfodol yn y gwaith o sicrhau cenedl iach a chorfforol weithgar.”
Dyrennir y pecyn cyllid i Chwaraeon Cymru, a fydd yn ei reoli ar ran Llywodraeth Cymru.
Dywedodd Sarah Powell, Prif Weithredwr Chwaraeon Cymru: "Ar ran y sector hoffwn ddiolch i Lywodraeth Cymru - mae hwn yn becyn o gymorth ariannol hanfodol sydd i'w groesawu'n fawr. Mae'n atgyfnerthu'r rôl bwysig y mae chwaraeon a gweithgarwch corfforol yn ei chwarae wrth helpu i ddatblygu poblogaeth fwy iach ac actif. Roedd gweithgarwch corfforol yn achubiaeth i lawer yn ystod y pandemig ac mae'r sector wedi bod yn gweithio'n eithriadol o galed dros y chwe mis diwethaf, gan ddefnyddio cyllid a gynlluniwyd i helpu'r clybiau, y grwpiau a'r sefydliadau a fu'n bennaf gyfrifol am alluogi cymunedau ledled Cymru i fwynhau bod yn egnïol yn ddiogel. Mae'r her o ddiogelu sefydliadau, cyfleusterau a swyddi yn parhau i fod yn hollbwysig ac rydym wrth ein bodd y gellir darparu cymorth ychwanegol yn fuan drwy'r Pecyn Achub Chwaraeon a Hamdden.
“Mae’n bwysig cofio, nid yw pawb yng Nghymru yn cael yr un cyfle i gael chwaraeon a gweithgarwch corfforol. Yn anffodus, mae'r pandemig wedi dangos bod llawer o'r anghydraddoldebau a oedd eisoes yn bodoli o ran cyfranogiad mewn chwaraeon wedi'u dwysáu, gyda llawer gormod o bobl yn colli allan ar y manteision y gall bod yn egnïol eu cynnig. Rhaid i fynd i'r afael â hyn, a gwneud yn siwr fod yn hyn flaenoriaeth i bawb sy'n ymwneud â chwaraeon. Bydd y pecyn yma hefyd yn canolbwyntio ar y partneriaid a'r darparwyr hynny sy'n datblygu ffyrdd arloesol o oresgyn y rhwystrau i chwaraeon sy'n bodoli ar hyn o bryd i gymunedau ledled Cymru.
“Ar gyfer clybiau a grwpiau sy'n chwilio am gymorth ar unwaith, byddwn yn eu hannog i ystyried Cronfa Cymru Actif sydd eisoes wedi diogelu cannoedd o glybiau ac sy'n eu helpu i baratoi ar gyfer dychwelyd i chwaraeon yn ddiogel ac yn gyfrifol. Byddwn yn awr yn gweithio'n gyflym gyda phartneriaid a Llywodraeth Cymru i sicrhau bod y cyllid yn cael ei ddosbarthu'n effeithlon ac yn effeithiol i gyrraedd y rhai sydd â'r angen mwyaf."