English icon English

Pecynnau cyfarpar diogelu personol am ddim i yrwyr tacsis

Free PPE packs for taxi drivers

Bydd gyrwyr tacsis a gyrwyr cerbydau hurio preifat yng Nghymru yn medru hawlio pecyn am ddim o gyfarpar diogelu personol ansawdd uchel a deunyddiau glanhau cerbyd, wedi’i ariannu gan Lywodraeth Cymru.

Bwriad y cynllun yw magu hyder gyrwyr a theithwyr wrth deithio’n ddiogel.

Mae’r pecyn yn cynnwys gorchuddion wyneb amldro a hylif diheintio dwylo o safon feddygol.  Bydd y pecyn hefyd yn cynnwys hylif diheintio amlbwrpas, cadachau, clytiau diheintio a menyg i lanhau cerbydau’n effeithiol rhwng teithwyr.  Er mwyn rhoi gwell amddiffyniad i ddefnyddwyr dewiswyd gorchuddion wyneb o safon feddygol yn hytrach na gorchuddion safonol.

Mae Llywodraeth Cymru yn argymell yn gryf fod gyrwyr yn gwisgo gorchuddion wyneb wrth gludo teithwyr, heblaw bod hynny’n ymyrryd â’u gallu i yrru’n ddiogel.  Y bwriad yw bod modd gwisgo’r gorchuddion wyneb a ddewiswyd yn gyfforddus am gyfnodau hir.  Mae gofyniad cyfreithiol yn parhau fod teithwyr yn gorfod gwisgo gorchudd wyneb.

Bydd gyrwyr yn medru gwneud cais am becyn ar wefan Lyreco.  Bydd y pecyn yn cael ei ddosbarthu’n rhad ac am ddim.

Dywedodd Ken Skates, Gweinidog yr Economi, Trafnidiaeth a Gogledd Cymru:

“Mae tacsis a cherbydau hurio preifat yn rhan hanfodol o’n rhwydwaith trafnidiaeth gyhoeddus.  Rydyn ni’n gwerthfawrogi’r rôl hanfodol mae gyrwyr wedi ei chwarae fel gweithwyr rheng flaen yn ystod y pandemig hwn.

“Cydnabyddwn fod gyrwyr yn awyddus i sicrhau bod eu cerbydau mor ddiogel a glân â phosibl.  Bydd y pecynnau hyn yn cyfrannu tuag at yr ymdrechion sydd eisoes yn cael eu gwneud ganddynt.  Rydyn ni wedi cydweithio’n agos gyda Lyreco a Chymdeithas Llywodraeth Leol Cymru i ddatblygu’r fenter hon a diolchwn iddyn nhw am eu hymdrechion.”