Pedair gwlad y DU yn cytuno ar reolau newydd ar gyfer cyfnod yr ŵyl
Four UK nations agree new rules for the festive period
Mae llywodraethau pedair gwlad y DU wedi cytuno ar gyfres eang o fesurau ar gyfer y DU gyfan i helpu pobl i ddod at ei gilydd gyda'u hanwyliaid yn ystod cyfnod yr ŵyl, mewn ffordd sydd mor ddiogel â phosibl.
Wrth siarad ar ôl cyfarfod ar gyfer y pedair llywodraeth, dywedodd Prif Weinidog Cymru, Mark Drakeford:
"Mae hon wedi bod yn flwyddyn hir ac anodd iawn i bawb. Mae ein bywydau ni i gyd wedi cael eu troi wyneb i waered gan bandemig y coronafeirws.
"Mae pawb wedi gwneud cymaint i helpu i reoli lledaeniad y feirws ac i achub bywydau. Ond mae hynny wedi golygu llawer o aberth, gan gynnwys peidio â gweld teulu a ffrindiau agos. Rydyn ni i gyd yn edrych ymlaen at y Nadolig a chael cyfle i dreulio amser gyda phawb sy’n annwyl i ni.
"Heddiw, bues i mewn cyfarfod â Phrif Weinidogion yr Alban a Gogledd Iwerddon, a Michael Gove, o Lywodraeth y DU, ac rwy'n falch ein bod ni wedi gallu cytuno ar gynllun cyffredin i’r pedair gwlad ar gyfer cyfnod yr ŵyl."
Testun datganiad ar y cyd a gyhoeddwyd gan bedair llywodraeth y DU:
Wrth i 2020 ddirwyn i ben, rydym yn cydnabod ei bod wedi bod yn flwyddyn eithriadol o anodd i ni i gyd. Bu'n rhaid i bob un ohonom wneud aberth sylweddol yn ein bywydau bob dydd, ac mae llawer o grwpiau crefyddol a chymunedol eisoes wedi gorfod newid neu anghofio eu dathliadau arferol i arafu lledaeniad y coronafeirws ac achub bywydau.
Ni all hwn fod yn Nadolig 'normal'. Ond wrth i ni nesáu at gyfnod yr ŵyl, rydym wedi bod yn cydweithio'n agos i ddod o hyd i ffordd i deuluoedd a ffrindiau weld ei gilydd, hyd yn oed os hynny yw am gyfnod byr – gan gydnabod bod yn rhaid bod yn ofalus a chadw at gyfyngiadau. Hyd yn oed os yw’r rheolau’n cael eu dilyn, bydd cyfarfod â ffrindiau a’r teulu dros y Nadolig yn gyfrifoldeb personol i unigolion ei gymryd, gan gofio'r risgiau iddynt hwy eu hunain ac eraill, yn enwedig y rhai sy'n agored i niwed. Rydym angen i bawb feddwl yn ofalus am yr hyn y maent yn ei wneud yn ystod y cyfnod hwn, gan gydbwyso rhywfaint mwy o gyswllt cymdeithasol â'r angen i gadw'r risg o drosglwyddo'r feirws mor isel â phosibl. Mae hyn yn arbennig o bwysig wrth ystyried y rhai sy'n agored i niwed. Cyn penderfynu dod ynghyd dros gyfnod yr ŵyl rydym yn eich annog i ystyried ffyrdd eraill o ddathlu gyda’ch gilydd, fel defnyddio technoleg neu gyfarfod yn yr awyr agored.
Yn y cyswllt hwn, mae’r pedair gweinyddiaeth wedi dod i gytundeb ar un set o fesurau ar gyfer y DU gyfan i helpu pobl i ddod at ei gilydd gyda'u hanwyliaid mewn ffordd sydd mor ddiogel â phosibl.
Heddiw rydym wedi cytuno ar y canlynol:
- Bydd cyfyngiadau teithio ar draws y pedair gweinyddiaeth a rhwng yr haenau yn cael eu codi i ddarparu ffenestr benodol i aelwydydd ddod at ei gilydd rhwng 23 a 27 Rhagfyr.
- Gall hyd at dair aelwyd ffurfio 'swigen' Nadolig’ unigryw i gyfarfod gartref yn ystod y cyfnod hwn. Ar ôl ffurfio swigen, mae’n sefydlog, ac ni ddylid ei newid nac ychwanegu aelwyd arall ati ar unrhyw adeg.
- Gall pob swigen Nadolig gyfarfod gartref, mewn man addoli neu mewn man cyhoeddus yn yr awyr agored, ond bydd y rheolau mwy cyfyngol presennol ar gyfer lletygarwch a chyfarfod mewn lleoliadau eraill yn parhau drwy gydol y cyfnod hwn.
Mae'n bwysig bod pawb yn parchu ac yn cadw at reolau pob gwlad, ble bynnag y maent yn dewis treulio cyfnod yr ŵyl. Os bydd unrhyw amrywiadau yn y ffordd yr ydym am weithredu, caiff y rhain eu cyfleu gan bob gweinyddiaeth yn unol â hynny. A bydd canllawiau pellach yn cael eu darparu maes o law.
Amser i’r teulu a ffrindiau ddod ynghyd yw cyfnod gwyliau'r gaeaf yn aml. Mae ysgolion a swyddfeydd yn cau a phobl yn teithio dros wyliau'r banc. Mae llawer eisoes wedi dechrau gwneud eu trefniadau. Felly rydym am sicrhau eglurder heddiw i helpu pobl i wneud y dewisiadau iawn er mwyn iddynt allu mwynhau amser gyda'r rhai sydd agosaf atynt, a chadw at y rheolau i ddiogelu pawb.