English icon English

Penodi Aelodau Newydd i Fwrdd Hybu Cig Cymru

New Board Appointments for Hybu Cig Cymru

Cyhoeddodd Lesley Griffiths, Gweinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig, fod dau gyfarwyddwr newydd wedi eu penodi i Fwrdd Hybu Cig Cymru (HCC), y corff ardoll statudol sy'n gyfrifol am hyrwyddo a datblygu'r sectorau cig oen, cig eidion a phorc.

Bydd Emlyn Roberts a Jack Evershed yn dechrau yn eu swyddi ar 1 Ebrill, sy’n golygu y bydd gan y Bwrdd ddeg aelod yn ychwanegol at y Cadeirydd newydd, Catherine Smith, y cyhoeddwyd ei phenodiad ym mis Chwefror.

Mae Emlyn a Jack yn ffermwyr gweithredol sydd â chyfoeth o arbenigedd mewn amaethyddiaeth a thu hwnt, ac maen nhw’n rhannu diddordeb mewn ffermio arloesol a chynaliadwy a'r economi wledig.

Emlyn Roberts yw pedwaredd cenhedlaeth ei deulu i ffermio yn Esgair-gawr ger Dolgellau, sef fferm tir uchel sy’n magu defaid, gwartheg cig eidion a gwartheg sugno. Bu’n aelod o sawl sefydliad amaethyddol yng Nghymru, yn ogystal â chymryd rhan mewn nifer o brosiectau gwella ffermydd – edrych ar fridio, iechyd anifeiliaid a mesur olion traed carbon - ac arallgyfeirio i gynhyrchu ynni adnewyddadwy.

Bu Jack Evershed yn gweithio yn y diwydiant cyflenwi amaethyddol cyn dychwelyd i gymryd drosodd ei fferm deuluol yn Wallog ger Aberystwyth, lle mae'n rhedeg system ddefaid wedi'i seilio ar borthiant. Enillodd radd Meistr mewn Gweinyddu Busnes, a gwasanaethodd ar sawl corff yn datblygu a darparu gwasanaethau i bobl mewn ardaloedd gwledig a hyrwyddo lles amgylcheddol, diwylliannol ac economaidd cefn gwlad Cymru.

Dywedodd Lesley Griffiths, Gweinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig: “Rwy’n falch iawn o benodi Emlyn Roberts a Jack Evershed i gryfhau Bwrdd Hybu Cig Cymru ymhellach wrth i’r sefydliad ddechrau ar gyfnod cyffrous o dan arweinyddiaeth Catherine Smith.

“Gyda’u profiad helaeth o ffermio, economi cefn gwlad Cymru a chynaliadwyedd, gall Emlyn a Jack gyfrannu’n fawr at waith HCC wrth ddatblygu’r diwydiant ac adeiladu ein brandiau cig coch eiconig gartref a thramor.”