English icon English

Penodi aelodau newydd i Gorff Llais y Dinesydd ar Iechyd a Gofal Cymdeithasol

New members appointed to the Citizen Voice Body for Health and Social Care appointed.

Mae dirprwy gadeirydd newydd a chwech aelod anweithredol newydd wedi cael eu penodi i gorff newydd, sef Corff Llais y Dinesydd ar Iechyd a Gofal Cymdeithasol.

Yr aelodau anweithredol yw Bamidele Adenipekun, Jason Smith, Barbara Harrington, Karen Lewis, Rajan Madhok a Jack Evershed.

Grace Quantock yw dirprwy gadeirydd y corff newydd.   

Bydd Corff Llais y Dinesydd yn cael ei gadeirio gan yr Athro Medwin Hughes a bydd y sefydliad annibynnol newydd hwn yn cynrychioli lleisiau pobl Cymru ym maes materion iechyd a gofal cymdeithasol.

Bydd y bwrdd newydd yn chwarae rôl hanfodol drwy lywio’r corff newydd mewn modd sy’n golygu ei fod yn cyrraedd ac yn cynrychioli cynifer o gymunedau yng Nghymru â phosibl.

Ar ôl penodi’r saith aelod newydd, byddwn nawr yn dechrau ar y broses o recriwtio prif weithredwr.

Dywedodd y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, Eluned Morgan:

“Hoffwn groesawu’r holl aelodau newydd wrth iddyn nhw ddechrau ar eu gwaith, a dw i’n edrych ymlaen at weld sut y byddan nhw’n dylanwadu ar siâp y corff newydd hwn.”

Gan gyfeirio at y penodiadau newydd, dywedodd yr Athro Hughes:

“Dw i’n edrych ymlaen yn fawr at weithio gyda fy nghyd-aelodau i sefydlu Corff Llais y Dinesydd ar Iechyd a Gofal Cymdeithasol.

“Mae hwn yn gyfle mawr – bydd yn bosibl i leisiau pobl Cymru fod wrth wraidd y gwaith o ddatblygu ein system iechyd a gofal cymdeithasol.”

Mae pob un o’r aelodau anweithredol wedi’u penodi am gyfnodau o hyd at 4 blynedd.

Cafodd y penodiadau eu gwneud yn unol â’r Cod Llywodraethiant Penodiadau Cyhoeddus.

Caiff y penodiadau eu gwneud yn unol â’r Cod Llywodraethiant Penodiadau Cyhoeddus. Mae Karen Lewis yn aelod o’r Blaid Lafur.

DIWEDD