Adam Price MS Cabinet Minister for Enterprise, Connectivity and Energy-2 cropped

Penodi arbenigwyr busnes blaenllaw i greu asiantaeth ddatblygu newydd i Gymru

Top business experts appointed to create new development agency for Wales

Mae 11 o arbenigwyr busnes blaenllaw wedi’u penodi i arwain y gwaith o sefydlu asiantaeth newydd ar gyfer datblygu economaidd ac arloesedd yng Nghymru. 

Bydd yr asiantaeth yn chwarae rhan bwysig wrth gyflawni nod uchelgeisiol Llywodraeth Cymru i haneru’r bwlch cynhyrchiant rhwng Cymru a gweddill y DU o fewn deng mlynedd. 

Dan arweiniad y Cadeirydd Jonathan Lewis, sydd â phrofiad helaeth o fusnes ac arweinyddiaeth ledled y byd, bydd y panel yn cynghori Gweinidog Cabinet dros Fenter, Cysylltedd ac Ynni, Adam Price, ar ffurf a swyddogaeth yr asiantaeth newydd. 

Dywedodd yr Ysgrifennydd Cabinet:

“Dros y ddau fis diwethaf, rydym wedi treulio amser yn targedu ac yn sicrhau cefnogaeth tîm talentog o arbenigwyr busnes. Mae pob un ohonynt yn dod â phrofiadau gwahanol, ond mae ganddynt i gyd angerdd a pharodrwydd i gefnogi Cymru i wneud busnes ac i’n cynghori ar gynllun yr asiantaeth ddatblygu newydd. 

Bydd pob un yn dod â’u harbenigedd eu hunain i’n helpu i ddatblygu cylch gwaith a swyddogaethau manwl yr asiantaeth. Bydd hyn yn ein helpu i greu sefydliad sy’n cefnogi twf economi Cymru yn gyflym ac sy’n dod yn sbardun allweddol i’n cenhadaeth genedlaethol ar gynhyrchiant: sef haneru bwlch cynhyrchiant Cymru â’r DU o fewn 10 mlynedd. 

Bydd gwella cynhyrchiant yn arwain yn uniongyrchol at greu swyddi gwell i bobl, gan roi mwy o arian yn eu pocedi a chodi safonau byw. 

Mae aelodau’r Panel yn gwneud y gwaith yn ddi-dâl, a hoffwn ddiolch iddynt am eu brwdfrydedd a’u parodrwydd i gefnogi’r Llywodraeth yn y gwaith pwysig hwn wrth inni geisio gwneud Cymru y lle gorau yn y Deyrnas Unedig i ddechrau, tyfu a buddsoddi mewn busnes.” 

Bydd y panel yn ymgysylltu’n eang er mwyn sicrhau bod amrywiaeth o leisiau o bob rhan o economi Cymru yn cael eu clywed. 

Aelodau’r Panel yw: 

Jonathan Lewis – Cadeirydd Associated British Ports. Cyn Brif Weithredwr Capita plc ac AmecFosterWheeler plc - Cadeirydd 

Sarah Williams-Gardener OBE (Is-gadeirydd) – Un o sylfaenwyr Starling Bank a Chadeirydd FinTech Wales - arloesi, denu buddsoddiad a datblygu ecosystem busnes

John Evans – Cyn Brif Weithredwr Subsea7 – y sector ynni a phrosiectau seilwaith mawr

Gerald Holtham – Athro Gwadd mewn Economi Ranbarthol ym Mhrifysgol Metropolitan Caerdydd, a Phartner Rheoli yn Cadwyn Capital LLP – economeg ranbarthol, polisi cyhoeddus, cyllid a buddsoddiad, gyda dealltwriaeth awdurdodol o sefyllfa ariannol ac economaidd Cymru

Beren Kayali – Cyd-sylfaenydd a Phrif Swyddog Technoleg Deploy Tech – arloesi dan arweiniad peirianneg, masnacheiddio technoleg carbon isel a thyfu busnesau newydd

Alison Lea-Wilson MBE – Cyd-sylfaenydd Halen Môn – twristiaeth, dechrau busnes, tyfu busnes, gwerthu, allforio, datblygu cynnyrch sy’n seiliedig ar le, ac adeiladu brand rhyngwladol llwyddiannus

La-Chun Lindsay OBE – Cyn Reolwr Gyfarwyddwr GE Aviation Wales – arwain gweithrediadau rhyngwladol cymhleth ar draws diwydiannau

Nigel Morris – Cyd-sylfaenydd Capital One a Phartner Rheoli QED Investors – cyfalaf menter a thyfu busnesau technoleg twf uchel ledled y byd

Gareth Noyes – Wedi dal nifer o swyddi uwch yn Wind River Systems – strategaeth dechnoleg, arloesi, trawsnewid digidol a thyfu busnesau twf uchel

Oriel Petry – Uwch Is-lywydd, Airbus UK – strategaeth ddiwydiannol, buddsoddiad rhyngwladol a gweithgynhyrchu uwch

Laura Doel - Ysgrifennydd Cyffredinol TUC Cymru - datblygu’r gweithlu, sgiliau, partneriaeth gymdeithasol, gwaith teg a safbwyntiau gweithwyr