Penodi Johanna Robinson yn Gynghorydd Cenedlaethol i fynd i'r afael â thrais yn erbyn menywod
Johanna Robinson appointed as National Adviser to tackle violence against women
Mae awdurdod blaenllaw ar fynd i'r afael â thrais yn erbyn menywod wedi cael ei hailbenodi i rôl allweddol gan Lywodraeth Cymru fel Cynghorydd Cenedlaethol ar gyfer Trais yn erbyn Menywod, Cam-drin Domestig a Thrais Rhywiol (VAWDASV), yn dilyn proses recriwtio drylwyr.
Mae Johanna Robinson yn dod â dros 25 mlynedd o brofiad hanfodol i'r swydd, ar ôl gwasanaethu fel Pennaeth Strategaeth yn swyddfa Comisiynydd yr Heddlu a Throseddu Gwent ac arwain Connect Gwent, y ganolfan arloesol i dioddefwyr yng ngofal Heddlu Gwent.
Fel goroeswr trais rhywiol, mae Johanna yn dod â phrofiad bywyd amhrisiadwy i'w rôl fel Cynghorydd Cenedlaethol VAWDASV. Yn ystod ei thymor cyntaf, trawsnewidiodd y ffordd y mae lleisiau goroeswyr yn gymorth i lunio polisi trwy sefydlu'r Panel Craffu Llais Goroeswyr Cenedlaethol. Cryfhaodd hefyd y ffordd y mae'r sector yn cydweithio trwy greu Grŵp Cyfeirio Arbenigol Trais yn erbyn Menywod, Cam-drin Domestig a Thrais Rhywiol, gan sicrhau bod gwasanaethau arbenigol yn llywio penderfyniadau strategol yn uniongyrchol.
Dywedodd Johanna Robinson: "Mae'n anrhydedd enfawr gallu parhau yn y rôl bwysig hon. Rwy'n parhau i fod yn gwbl ymrwymedig i gryfhau lleisiau goroeswyr a sicrhau bod gwasanaethau ar gael iddynt pan fydd eu hangen arnynt."
Ar hyn o bryd mae rôl y Cynghorydd Cenedlaethol yn cael ei dal ar y cyd gan Johanna a Yasmin Khan mewn trefniant rhannu swydd. Bydd Yasmin yn camu o'r neilltu ar 31 Hydref 2025, yn dilyn dau dymor llwyddiannus yn y swydd.
Dywedodd Jane Hutt, Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyfiawnder Cymdeithasol: "Rwy'n croesawu penodi Johanna Robinson i'r rôl hanfodol hon, gan ddod â'i chyfoeth o brofiad ac arbenigedd i'n gwaith i roi terfyn ar drais yn erbyn menywod yng Nghymru.
"Fel llywodraeth, rydym wedi ymrwymo i sicrhau bod pob menyw yn gallu byw heb ofn, trais a chamfanteisio. Nid yw'r math hwn o drais yn anochel - mae modd ei atal. Mae ein strategaeth Trais yn erbyn Menywod, Cam-drin Domestig a Thrais Rhywiol yn blaenoriaethu ymyrraeth gynnar ac atal, gyda phrofiadau goroeswyr yn greiddiol iddi.
"Bydd arweinyddiaeth barhaus Johanna yn sicrhau bod y lleisiau hyn yn parhau i fod yn ganolog i'n dull ac yn ysgogi newid ystyrlon, parhaol.
"Rwy'n estyn fy niolch diffuant i Yasmin Khan am ei gwasanaeth ymroddedig ar draws dau dymor llwyddiannus, yn enwedig am ei gwaith ar y Dull System Gyfan Cynaliadwy a'i hymdrechion i gryfhau lleisiau goroeswyr."