Penodi Prif Weithredwr newydd GIG Cymru
New NHS Wales Chief Executive appointed
Prif Weithredwr nesaf y GIG yng Nghymru fydd Jacqueline Totterdell, sydd ar hyn o bryd yn Brif Swyddog Gweithredol Grŵp Iechyd ac Ysbytai Prifysgol St George, Epsom a St Helier.
Bydd Jacqueline yn olynu'r Prif Weithredwr presennol, Judith Paget, sy'n ymgymryd â rôl newydd fel Cyfarwyddwr Cyffredinol Strategaeth Llywodraeth Cymru i gryfhau gweithgarwch cynllunio a chyflawni strategol wrth i'r sefydliad wynebu cyfnod o newid sylweddol.
Dywedodd yr Ysgrifennydd Iechyd, Jeremy Miles:
"Hoffwn ddiolch i Judith am ei phedair blynedd yn Brif Weithredwr y Gwasanaeth Iechyd yng Nghymru ac am yr arweinyddiaeth y mae hi wedi'i darparu i'r Gwasanaeth ac Adran Iechyd, Gofal Cymdeithasol a'r Blynyddoedd Cynnar Llywodraeth Cymru drwy'r pandemig a'i effeithiau. Mae Judith wedi bod wrth y llyw yn ystod cyfnod eithriadol i'r Gwasanaeth Iechyd, ac rwy'n dymuno'r gorau iddi ar gyfer ei rôl newydd.
"Rwy'n falch iawn y bydd Jacqueline Totterdell yn ymuno â ni. Bydd hi'n dod â chyfoeth o brofiad yn y sector gofal iechyd a hanes o lwyddo yn St George.
"Rwy'n edrych ymlaen at weithio gyda Jacqueline wrth inni ganolbwyntio ar gyflawni a gwella, a helpu'r Gwasanaeth Iechyd i addasu ar gyfer y dyfodol. Mae hyn yn cynnwys adeiladu ar y cynnydd rydyn ni'n ei wneud yng Nghymru o ran amseroedd aros, a mynd ymhellach, i ddarparu'r mynediad cyflymach at driniaeth y mae pobl yng Nghymru ei eisiau."
Dywedodd Jacqueline:
"Ar ôl gyrfa hir yn y Gwasanaeth Iechyd, mae cael y cyfle i arwain gwasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol yng Nghymru yn rhywbeth arbennig iawn. Mae gwasanaethau cydgysylltiedig sy'n cyflawni canlyniadau gwell i'r dinasyddion a'r cymunedau rydyn ni'n eu gwasanaethu yn weledigaeth y mae'r rhan fwyaf ohonom sy'n gweithio yn y sector cyhoeddus yn anelu ati. Gallu gwella gwasanaethau ledled y wlad yw'r hyn a wnaeth fy nenu i'r rôl hon, ac rwy'n edrych ymlaen yn fawr at weithio gyda phawb i wneud gwahaniaeth gwirioneddol i bobl yng Nghymru."