English icon English

Penodi Swyddogion Canlyniadau Rhanbarthol

Appointments of Regional Returning Officers

Heddiw [DYDDIAD], cyhoeddodd y Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol enwau’r Swyddogion Canlyniadau Rhanbarthol sydd wedi eu penodi ar gyfer etholiadau Senedd Cymru 2021.

Mae Swyddogion Canlyniadau Rhanbarthol yn gyfrifol am y gwaith cyffredinol o reoli’r etholiad ac am gydgysylltu trefniadau’r bleidlais ranbarthol ar gyfer y Senedd.

Dyma’r Swyddogion Canlyniadau Rhanbarthol ar gyfer Cymru:

  • Canolbarth a Gorllewin Cymru – Eifion Evans, y swyddog canlyniadau ar gyfer Cyngor Sir Ceredigion
  • Gogledd Cymru – Colin Everett, y swyddog canlyniadau ar gyfer Cyngor Sir y Fflint
  • Gorllewin De Cymru – Phil Roberts, y swyddog canlyniadau ar gyfer Dinas a Sir Abertawe
  • Canol De Cymru – Debbie Marles, y swyddog canlyniadau ar gyfer Bro Morgannwg
  • Dwyrain De Cymru – Michelle Morris, y swyddog canlyniadau ar gyfer Cyngor Bwrdeistref Sirol Blaenau Gwent

Dywedodd y Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol, Julie James:

 “Hoffwn ddiolch i’r rheini sydd wedi cytuno i gyflawni rôl y Swyddogion Canlyniadau Rhanbarthol ar gyfer etholiadau Senedd Cymru  eleni. Bydd yr etholiadau hyn yn rhai heriol iawn gan eu bod yn cael eu cyfuno ag etholiadau’r Comisiynwyr Heddlu a Throseddu, ac yn bwysicaf na hynny, dyma fydd y tro cyntaf i’r gwladolion tramor cymwys a’r bobl ifanc sydd newydd gael yr hawl i bleidleisio gymryd rhan ynddynt. Hefyd, bydd her ychwanegol o ran sicrhau bod yr etholiadau’n cael eu cynnal mewn modd diogel yn wyneb y pandemig. Mae hyn yn gofyn am ymrwymiad personol sylweddol gan y rheini sydd wedi cytuno i gyflawni’r rôl hon, a dw i’n ddiolchgar y byddwn ni’n cael elwa ar eu gwybodaeth a’u profiad.”

Eu gwaith pennaf fydd derbyn yr enwebiadau ar gyfer y rhanbarth etholiadol; cyhoeddi canlyniadau’r bleidlais ranbarthol; a gweithio gyda swyddogion canlyniadau etholaethau’r Senedd yn eu rhanbarth, er mwyn sicrhau bod yr etholiad ar gyfer y Senedd yn cael ei weinyddu mewn modd cyson ar draws eu rhanbarth.   

DIWEDD