Penodiadau i Banel Cynghori ar Amaethyddiaeth Cymru
Appointments made to Agricultural Advisory Panel for Wales
Heddiw, mae Lesley Griffiths, Gweinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig, wedi cyhoeddi tri phenodiad i Banel Cynghori ar Amaethyddiaeth Cymru.
Penodwyd Nerys Llewellyn Jones yn Gadeirydd y Panel, ac mae Janatha Stout a Steve Hughson wedi cael eu penodi'n aelodau o'r bwrdd.
Mae Panel Cynghori ar Amaethyddiaeth Cymru yn gyfrifol am sicrhau bod cyfraddau tâl isaf a lwfansau amaethyddol yn deg, yn gyfredol ac yn unol â chyfraith cyflogaeth ehangach; maent hefyd yn gweithio i wella datblygu sgiliau, hyfforddiant a dilyniant gyrfa yn y sector amaethyddol yng Nghymru.
Wrth gyhoeddi'r penodiadau dywedodd Lesley Griffiths: "Mae’n bleser mawr gennyf gadarnhau'r penodiadau sy'n cael eu gwneud i Banel Cynghori ar Amaethyddiaeth Cymru ar gyfer y tymor nesaf o bedair blynedd.
"Mae Nerys yn adnabyddus o fewn y sector amaethyddol yng Nghymru a bydd yn dod â llawer iawn o wybodaeth am amaethyddiaeth a'r ddeddfwriaeth gysylltiedig.
"Bydd Janatha yn dod â thoreth o brofiad o'r sectorau amaethyddol ac addysgol, a fydd yn rhoi sail wybodaeth gadarn i'r Panel. Hefyd mae’n bleser mawr gennyf groesawu Steve Hughson yn ôl fel y trydydd aelod annibynnol. Nid yw Steve yn ddieithr i'r diwydiant amaethyddol yng Nghymru. Mae wedi gwasanaethu ar y Panel am dymor yn y gorffennol, a bydd yn cynnig lefel uchel o brofiad a pharhad i weithrediadau'r Panel.
"Hoffwn ddiolch i'r Cadeirydd sy'n ymadael, Dr Lionel Walford, ac Aelod o'r Panel, Peter Rees, am eu hymrwymiad a'u cyfraniadau ers sefydlu'r Panel yn 2016."