English icon English

Penodi’r Arglwydd Lloyd-Jones yn Llywydd Cyngor Cyfraith Cymru

Lord Lloyd-Jones appointed as President of Welsh Law Council

Yr Arglwydd Lloyd-Jones, un o Farnwyr Goruchaf Lys y Deyrnas Unedig, fydd Llywydd cyntaf Cyngor Cyfraith Cymru.

Cafodd y penodiad ei gadarnhau gan Gwnsler Cyffredinol Cymru yn ei araith y bore yma yng Nghynhadledd Cymru’r Gyfraith yng Nghaerdydd. 

Mae Cyngor y Gyfraith yn cael ei sefydlu i hybu addysg a hyfforddiant cyfreithiol ac ymwybyddiaeth o gyfraith Cymru, ac i gefnvogi datblygiad economaidd a chynaliadwyedd y sector cyfreithiol yng Nghymru. Argymhellwyd sefydlu cyngor o’r fath gan y Comisiwn ar Gyfiawnder yng Nghymru, comisiwn annibynnol a gadeiriwyd gan yr Arglwydd Thomas o Gwmgïedd, a arferai fod yn Arglwydd Brif Ustus Cymru a Lloegr. Roedd adroddiad y Comisiwn, a gyhoeddwyd yn 2019, yn un arwyddocaol a oedd yn pennu gweledigaeth ar gyfer cyfiawnder yng Nghymru.    

Mae’r Arglwydd Lloyd-Jones yn Farnwr y Goruchaf Lys ers mis Hydref 2017. Mae’n siarad Cymraeg a chafodd ei eni a’i fagu ym Mhontypridd. Cafodd ei benodi i’r Uchel Lys yn 2005, a bu’n gwasanaethau fel Barnwr Gweinyddol ar Gylchdaith Cymru ac fel Cadeirydd Pwyllgor Sefydlog yr Arglwydd Ganghellor ar yr Iaith Gymraeg o 2008 i 2011. Yn 2012, fe’i penodwyd yn Arglwydd Ustus Apêl ac ef oedd Cadeirydd Comisiwn y Gyfraith o 2012 i 2015.

Dywedodd yr Arglwydd Lloyd-Jones:

"Rwy’n falch iawn bod camau wedi'u cymryd i sefydlu Cyngor y Gyfraith, er mwyn dod â'r sector cyfreithiol ynghyd i helpu i lywio addysg a hyfforddiant cyfreithiol a dyfodol y proffesiynau cyfreithiol yng Nghymru a hyrwyddo’r corff o gyfreithiau Cymreig sy’n tyfu.”

Bydd pwyllgor gwaith Cyngor y Gyfraith yn ymgynnull mewn cyfarfod cychwynnol ym mis Tachwedd, fel cam rhagarweiniol cyn i’r Cyngor gychwyn ar ei waith yn ffurfiol.  

Wrth siarad yn y Gynhadledd, dywedodd Mick Antoniw, Cwnsler Cyffredinol a Gweinidog y Cyfansoddiad Llywodraeth Cymru:

“Bydd sicrhau bod Cyngor y Gyfraith yn bodloni ei amcanion uchelgeisiol yn galw am arweiniad. A phwy well i’w arwain na’r un y gwnaeth ei weledigaeth wreiddiol ar gyfer Sefydliad y Gyfraith i Gymru ysbrydoli Comisiwn Thomas i argymell sefydlu Comisiwn y Gyfraith? Ef hefyd wrth gwrs yw’r barnwr uchaf o Gymru sy’n eistedd ar hyn o bryd. Mae’n bleser mawr gen i ddatgan felly fod yr Arglwydd Lloyd-Jones o Oruchaf Lys y Deyrnas Unedig, yn garedig iawn, wedi cytuno i wasanaethu fel Llywydd cyntaf y Cyngor.”