Perthynas â'r Undeb Ewropeaidd yn y dyfodol yn hollbwysig ar gyfer y diwydiant awyrofod - Prif Weinidog
Future relationship with EU crucial for aerospace industry – First Minister
Bydd perthynas y Deyrnas Unedig (y DU) gyda'r Undeb Ewropeaidd (yr UE) yn y dyfodol yn hollbwysig ar gyfer diwydiant awyrofod Cymru. Dyna oedd neges y Prif Weinidog wrth iddo ymweld ag Airbus.
Gan siarad wrth i'r DU baratoi i ymadael â'r UE, pwysleisiodd Mark Drakeford heddiw ymrwymiad hirdymor Llywodraeth Cymru i'w phartneriaeth ag Airbus yn ystod ymweliad â'r ffatri ym Mrychdyn gyda Gweinidog yr Economi a Gweinidog y Gogledd, Ken Skates.
Mae Airbus yn cyflogi mwy na 6,000 o bobl ar ei safle ym Mrychdyn ac mae £500m yn cael ei wario bob blwyddyn yn y gadwyn gyflenwi yng Nghymru gyda mwy na 100 o gyflenwyr uniongyrchol.
Dywedodd y Prif Weinidog Mark Drakeford: “Rwy'n croesawu ymrwymiad Airbus i weithio gyda Llywodraeth Cymru i ddiogelu dyfodol ei ffatrïoedd adeiladu adenydd ym Mhrydain a dod o hyd i gyfleoedd i ehangu yn y dyfodol.
“Pan fydd y DU yn ymadael â'r UE yn swyddogol yfory, ni fydd ein perthynas economaidd yn y dyfodol gyda’r UE wedi’i phenderfynu. Dim ond dechrau cam nesaf y negodiadau yw hwn.
"Yr hyn sy'n hanfodol yn awr i Airbus, a chyflogwyr, busnesau a diwydiannau eraill yw pa fath o berthynas fydd ein perthynas â'r UE yn y dyfodol.
"Bydd y negodiadau sydd i ddod yn aruthrol o bwysig i Gymru. Rwy'n galw unwaith eto ar i Gymru, ynghyd â'r gweinyddiaethau datganoledig eraill, fod yn rhan lawn o'r broses hon. Ni yn unig fydd yn cefnogi buddiannau Cymru.
"Rydyn ni eisiau i holl fusnesau Cymru gael y mynediad gorau posibl i'r UE fel y gallant fasnachu'n rhydd neb rwystrau na chostau ychwanegol."
Dywedodd Gweinidog yr Economi a Gweinidog y Gogledd, Ken Skates: "Mae Airbus yn gwmni magned yn y Gogledd. Mae ei effaith a'i ddylanwad yn ymestyn ymhell tu hwnt i'r safle yma ym Mrychdyn.
"Byddwn yn parhau i gefnogi Airbus a'r diwydiant awyrofod, sy'n rhan mor allweddol o economi Cymru.
"Rwy'n falch o weld y bydd Airbus yn dal i fod mewn sefyllfa gref ac rwy'n edrych ymlaen at gael parhau i gydweithio ar ddatblygiadau cyffrous ar gyfer y Gogledd, gan gynnwys y Ganolfan Ymchwil Gweithgynhyrchu Uwch gwerth £20m a agorwyd y llynedd ym Mrychdyn."