English icon English
Jeremy Miles-46

Pobl sy'n aros am lawdriniaeth sy’n sensitif o ran amser yn cael meddyginiaethau colli pwysau ar y GIG

People waiting for time-sensitive surgery get weight loss drugs on NHS

Bydd pobl sydd angen colli pwysau'n gyflym oherwydd bod ganddyn nhw gyflwr meddygol difrifol yn gallu cael gafael ar gyffuriau colli pwysau drwy'r Gwasanaeth Iechyd yng Nghymru.

Bydd pobl sy'n aros am lawdriniaeth neu drawsblaniad organ lle mae amser yn hollbwysig, menywod sydd am gael triniaeth ffrwythlondeb, a phobl sydd â chyflyrau fel asthma difrifol, apnoea cwsg ataliol difrifol, neu ganser lle byddai colli pwysau yn gwella canlyniadau eu triniaeth neu eu gallu i gael therapïau, yn gallu cael gafael ar y cyffur colli pwysau tirsepatid (Mounjaro).

Cyn hyn, dim ond drwy wasanaethau rheoli pwysau arbenigol roedd y feddyginiaeth colli pwysau ar gael drwy'r GIG.

Mae'r trefniadau newydd yn sicrhau bod pobl ag anghenion clinigol brys yn cael y cyfle i gael triniaeth yn gyflymach, tra bydd trefniadau ar gyfer mynediad ehangach yn cael eu datblygu.

Mae'r newid yn dilyn cymeradwyaeth NICE i tirsepatid ym mis Rhagfyr 2024 ar gyfer trin gordewdra mewn oedolion. Amcangyfrifir bod 186,000 o bobl yng Nghymru, o bosibl, yn bodloni'r meini prawf i fod yn gymwys.

Mae Llywodraeth Cymru yn datblygu model newydd cynhwysfawr i ehangu capasiti ar draws lleoliadau arbenigol, gofal sylfaenol a lleoliadau cymunedol. Bydd hyn yn golygu bod modd i tirsepatid a meddyginiaethau colli pwysau eraill fod ar gael yn ehangach, gan sicrhau bod pwyslais hefyd ar fynediad cyfartal, cymorth cynhwysfawr, atal ac ymyrraeth gynnar.

Dywedodd yr Ysgrifennydd Iechyd, Jeremy Miles: "Mae galw sylweddol am wasanaethau rheoli pwysau arbenigol a galw cynyddol am i'r feddyginiaethau hyn fod ar gael drwy'r Gwasanaeth Iechyd.

"Er mwyn helpu i ddiwallu'r galw mewn ffordd gynaliadwy, ry'n ni'n meithrin capasiti a gallu, gan sicrhau hefyd bod pobl â'r angen clinigol mwyaf brys yn gallu cael mynediad at driniaeth heb oedi.

"Mae'r dull gweithredu hwn yn cydnabod bod angen i hyn fod ar gael i rai pobl nawr."

Bydd Gweinidogion Cymru yn gwneud penderfyniadau pellach
ynglŷn â defnyddio meddyginiaethau colli pwysau wrth i'r llwybr clinigol newydd gael ei ddatblygu.

Nodiadau i olygyddion

NICE approval typically requires NHS implementation within two months, but this has been extended by up to 12 years for tirzepatide due to the scale of demand and infrastructure requirements.

Interim exceptions for immediate prescribing include:

  • Pre-cancerous or cancerous conditions where weight loss would improve outcomes
  • Patients requiring urgent weight loss for organ transplant
  • Idiopathic intracranial hypertension with visual compromise
  • Time-sensitive surgery where high BMI is the primary barrier
  • Assisted conception where weight loss would be beneficial
  • Severe obstructive sleep apnoea, obesity hypoventilation syndrome or severe asthma