English icon English

Pobl ifanc i ofyn y cwestiynau yng nghynhadledd i’r wasg Llywodraeth Cymru

Young people to ask the questions in Welsh Government press conference

Heddiw, bydd plant a phobl ifanc yn gofyn y cwestiynau agoriadol i'r Gweinidog Addysg, Kirsty Williams yng nghynhadledd i’r wasg ddyddiol Llywodraeth Cymru.

Mae pobl ifanc Cymru wedi cyflwyno cwestiynau mewn ymateb i wahoddiad gan Gomisiynydd Plant Cymru, yr Athro Sally Holland.

Bob dydd o'r wythnos am 12:30pm, mae Llywodraeth Cymru yn cynnal cynhadledd i'r wasg ddyddiol ar gyfer y cyfryngau, gan ganolbwyntio ar faterion yn ymwneud â'r coronafeirws. Y Gweinidog Addysg fydd yn cynnal y gynhadledd heddiw, cyn i ysgolion ledled Cymru ddechrau croesawu disgyblion yn ôl dydd Llun nesaf i 'ailgydio, dal i fyny, a pharatoi’ ar gyfer yr haf a mis Medi.

Bydd cwestiynau'r newyddiadurwyr yn dilyn cwestiynau'r plant.

Dywedodd Kirsty Williams:

"Mae’n adeg hollbwysig i blant a phobl ifanc Cymru, wrth i ddisgyblion ddychwelyd yr wythnos nesaf i ddal i fyny gyda'u cyd-ddisgyblion a'u hathrawon. Dyma fydd y tro cyntaf i sawl un weld ei gilydd ers mis Mawrth.

"Fel arfer, drwy gydol y flwyddyn ysgol rwy’n cael cyfle i deithio i ysgolion ledled Cymru a chwrdd â disgyblion a staff wyneb yn wyneb, i glywed yn uniongyrchol am y materion sy'n effeithio arnyn nhw a'u haddysg.

"Mae'n siom nad ydw i wedi gallu gwneud hynny yn ddiweddar, felly rwy'n falch iawn o gael ateb cwestiynau gan rai o newyddiadurwyr ifanc addawol Cymru!"

Dywedodd yr Athro Holland:

"Yn gynharach y mis hwn, cyhoeddais ganlyniadau fy arolwg Coronafeirws a Fi, lle rhannodd bron i 24,000 o blant a phobl ifanc eu barn am fyw drwy'r pandemig. Dangosodd canfyddiadau'r adroddiad hwnnw i mi fod angen i blant gael gwrandawiad gan y rhai sy'n gweithio iddynt, yn awr yn fwy nag erioed o'r blaen.

"Rwy'n falch bod Llywodraeth Cymru wedi cymryd camau pendant i alluogi plant a phobl ifanc o bob rhan o Gymru i'w dwyn i gyfrif yn ystod y cyfnod hollbwysig hwn. Rwy'n gobeithio y bydd plant a phobl ifanc yn gallu gweld bod eu barn yn hanfodol wrth lunio sut y bydd Cymru'n cymryd ei chamau gofalus nesaf.”