English icon English

Pobl ifanc wedi cymryd dros 2 miliwn o deithiau bws rhatach, diolch i'r cynllun £1

More than two million cheaper bus journeys taken by young people thanks to £1 scheme

Mae pobl ifanc ledled Cymru wedi cymryd rhagor na 2 miliwn o deithiau bws ers cyflwyno'r cynllun tocyn bws am £1 ym mis Medi y llynedd.

Mae cynllun Llywodraeth Cymru, fydd yn para tan ddiwedd Awst 2026, yn cynnig tocyn unffordd am ddim ond £1 i bobl ifanc rhwng 5-21 oed a thocyn dydd o £3 ar wasanaethau bws sy'n cymryd rhan.

Ar daith bws o Langollen i Wrecsam, dywedodd Ysgrifennydd y Cabinet dros Drafnidiaeth a Gogledd Cymru, Ken Skates:

"Mae'n wych gweld cymaint o bobl ifanc yn manteisio ar y tocynnau bws rhatach.

"Rydym yn gwybod bod cost teithio yn aml yn rhwystr i bobl ifanc, yn enwedig mewn ardaloedd gwledig, felly rwy'n falch iawn bod ein buddsoddiad yn gwneud teithio mor hygyrch a fforddiadwy â phosibl. Mae’r cynllun eisoes yn gwneud gwahaniaeth go iawn i fywydau pobl ifanc ledled Cymru."

Roedd rhai pobl ifanc sydd wedi bod yn defnyddio'r cynllun newydd yn awyddus i rannu eu barn â'r Ysgrifennydd Trafnidiaeth.

Dywedodd Avery Stridgen, 17 oed, o Ogledd Cymru:

"Mae'r cynllun tocyn am £1 wedi agor mwy o gyfleoedd i fi, i greu a chadw cysylltiadau cymdeithasol ac i fynd yn ôl ac ymlaen i'r coleg. Dw i nawr yn defnyddio'r bws yn amlach nag erioed o'r blaen, hynny achos y prisiau rhatach hyn."

Ychwanegodd Liam Lennard, 17 oed, o Brestatyn:

"Mae'r cynllun newydd wedi bod o help mawr i fi fynd i'r gwaith ac yn ôl gan fy mod yn byw ym Mhrestatyn ac yn gweithio yn y Rhyl. Dwi'n defnyddio mwy ar fysiau o achos y cynllun hwn, a dwi'n  gobeithio y daw'n rhywbeth parhaol."

Mae manylion llawn y cynllun a'r gwasanaethau bysiau sy'n cymryd rhan ar gael ar wefan Trafnidiaeth Cymru.

Nodiadau i olygyddion

Nodiadau i olygyddion


Mae nifer y teithiau a gofnodwyd gan yr holl weithredwyr bysiau sy'n cymryd rhan yn cael eu rhoi i Trafnidiaeth Cymru sy'n rhedeg y cynllun.

Mae'r cynllun llawn yn rhedeg am 12 mis dros ddwy flwyddyn ariannol (Medi 2025-Awst 2026).

Mae Llywodraeth Cymru wedi darparu cyfanswm o £22 miliwn dros ddwy flwyddyn ariannol (2025-26 a 2026-27) i gefnogi prisiau tocynnau bws £1 i bob plentyn 5–21 oed, sy'n cynnwys £15 miliwn a sicrhawyd trwy'r cytundeb Cyllideb gydag Arweinydd y Democratiaid Rhyddfrydol Cymru, Jane Dodds.