English icon English
Rainbow Bridge 3-2

Pont Enfys yr A55 yn goleuo fel teyrnged i weithwyr allweddol

A55 Rainbow Bridge lights up in tribute to key workers

Mae Pont Enfys eiconig yr A55 wedi ei goleuo i ddweud diolch i’r GIG, staff gofal iechyd a gweithwyr allweddol eraill.

Roedd y tirnod amlwg hwn yn bont enfys mewn wirioneddol nos Fawrth pan oedd wedi ei oleuo yn lliwiau’r enfys gyda neges o ddiolch ar ochr y graig gyfagos.    

Cafodd y deyrnged unigryw yma i staff y sectorau iechyd a gofal a gweithwyr allweddol eraill sy’n gweithio’n ddi-flino yn ystod y pandemig Covid-19, ei threfnu gan Asiant Cefnffyrdd Gogledd a Chanolbarth Cymru. 

Mae’r llwybr dros yr A55, sy’n cael ei alw yn lleol yn Bont Enfys, ar y rhwydwaith ffyrdd strategol y mae yr Asiant Cefnffyrdd yn gyfrifol am ei chynnal a’i reoli ar ran Llywodraeth Cymru.

Er gwaethaf y ffaith ei fod yn un o rannau prysuraf y rhwydwaith, roedd y gostyngiad o 70% yn y traffig yn golygu y gellid cydnabod gweithwyr allweddol yn ddiogel gan darfu cyn lleied â phosibl ar ddefnyddwyr ffyrdd.  Roedd Swyddogion Traffig hefyd gerllaw i gefnogi’r ymdrech ac i sicrhau bod y traffig yn llifo’n rhwydd. 

Bu’r Asiant Cefnffyrdd yn cydweithio’n agos â chontractwyr SPIE i ddarparu arddangosfa haeddiannol.  Yn dilyn galwadau gan y cyhoedd a chynghorwyr lleol i oleuo’r bont, bu Llywodraeth Cymru a’r Asiant Cefnffyrdd yn cydweithio i gynnig y deyrnged hon i bob gweithiwr allweddol. 

Meddai Ken Skates, Gweinidog Gogledd Cymru:  “Mae’r Bont Enfys wedi dod yn symbol o rhywbeth arbennig yn ystod y cynfod anodd hwn.  Dwi’n falch ein bod yn gallu gwireddu dymuniadau y bobl a ofynnodd a fyddai’n bosibl ei goleuo i anrhydeddu y gweithwyr allweddol ledled y wlad sy’n gwneud gwaith mor arbennig. 

“Bydd hyn hefyd yn cynnwys aelodau’r Asiant Cefnffyrdd eu hunain, sy’n cynnal ein rhwydwaith ffyrdd bob dydd, yn cadw teithwyr hanfodol yn ddiogel, gan gynnwys y gwasanaethau brys a chludiant.” 

Ychwanegodd David Cooil,  Pennaeth Gwasanaethau yr Asiant Cefnffyrdd:

“Rydym wedi gweld gostyngiad o 70% yn ddiweddar yn y cerbydau ar draws y rhwydwaith.  Hoffem ddiolch yn fawr iawn i bawb sy’n gwrando ar y canllawiau ac rydyn ni’n pahrau i annog pawb sy’n defnyddio’r ffyrdd ddim ond i deithio pan yn hanfodol i wneud hynny. 

Rydyn ni’n manteisio ar y lleihad yn y traffig drwy fynd ymlaen gyda’r gwaith hanfodol o gynnal a chadw ac adeiladu ar y rhwydwaith, yn ogystal â gwneud ein rhan i dalu teyrnged i’r rhai hynny sydd ar y rheng flaen ac sy’n ymladd yn erbyn y Coronafeirws – o staff y GIG i’n swyddogion ar lawr glwad, ein cadwyni cyflenwi a’n cydweithwyr yn y maes trafnidiaeth.  Maent i gyd yn gwneud gwaith anhygoel ac yn chwarae rhan hollbwyisg i gefnogi ymateb presennol y wlad i’r pandemig Covid-19 a’r ffordd tuag at adferiad.”