English icon English

Porthladd Caergybi – y diweddaraf gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Drafnidiaeth a Gogledd Cymru

Holyhead Port – update from Cabinet Secretary for Transport and North Wales

Mae ymdrechion digynsail yn cael eu gwneud i gael pobl adref i Iwerddon cyn y Nadolig yn dilyn cau Porthladd Caergybi dros dro yn ôl Ysgrifennydd y Cabinet dros Drafnidiaeth a Gogledd Cymru, Ken Skates.

 

Mae Llywodraeth Cymru hefyd wedi dweud bod cynlluniau wrth gefn yn eu lle ar gyfer cyfnod y Flwyddyn Newydd i ddelio â chau'r porthladd.

Dros y penwythnos mae llongau ychwanegol wedi hwylio i Iwerddon, er gwaetha’r heriau a achosir gan y gwyntoedd cryfion a rhai cansladau. 

Dywedodd Mr Skates: "Mae'r amodau wedi bod yn hynod heriol ar draws y DU, ond mae Llongau ychwanegol o Gymru ac ardal Mersi wedi hwylio, gan helpu pobl a nwyddau i gyrraedd Iwerddon ar gyfer y Nadolig.  Bydd rhagor o longau’n parhau i hwylio cyn y Nadolig.

"Hoffwn ddiolch i'r cwmnïau fferi am eu hymdrechion i gynnig opsiynau hwylio gwahanol. Byddwn yn annog unrhyw un sy'n teithio i wirio'r trefniadau gyda'u cwmni fferi.

"Mae hon yn her nad ydym erioed wedi'i hwynebu o'r blaen, ond byddwn yn parhau i gydweithio â llywodraethau'r DU ac Iwerddon i achub gobeithion a chynlluniau pobl a busnesau. Byddwn hefyd yn gweithio gyda pherchnogion Porthladd Caergybi i sicrhau eu bod yn gallu ail agor cyn gynted â phosibl, gan ei fod yn borthladd hynod bwysig i Iwerddon a'r DU."