
Presgripsiynau am ddim yng Nghymru 'wedi estyn fy oes'
Free prescriptions in Wales ‘extended my life’
Wrth i Gymru nodi deunaw mlynedd fel y genedl gyntaf yn y DU i gael gwared â thâl am bresgripsiynau, mae Ryan Perrot, sy'n bedwar deg pedwar oed ac yn byw gydag asthma difrifol yn rhannu sut y gwnaeth y polisi helpu i newid ei fywyd.
Ers 2007, mae fferyllfeydd Cymru wedi cyflenwi mwy na biliwn o eitemau, gan helpu miliynau o bobl i reoli eu cyflyrau iechyd yn effeithiol ac yn rhad ac am ddim.
Cafodd y ffioedd eu diddymu gan fod costau yn atal traean o bobl rhag cael eu meddyginiaeth ar bresgripsiwn.
Roedd pobl â chyflyrau cronig yn gwario llai ar fwyd a biliau i allu fforddio meddyginiaeth, a oedd yn gwaethygu eu hiechyd ac yn arwain at fwy o ymweliadau â meddygon teulu a derbyniadau i'r ysbyty.
Yn ôl ffeithiau allweddol:
- Mae mwy na 313,000 o eitemau'n cael eu rhoi ar bresgripsiwn gan feddygon teulu a'u cyflenwi gan fferyllfeydd yn rhad ac am ddim bob diwrnod gwaith
- Mae presgripsiynau am ddim yn helpu miloedd o bobl â chyflyrau cronig, fel asthma, clefyd Parkinson a cholitis briwiol, i gael mynediad at y meddyginiaethau sydd eu hangen arnyn nhw bob blwyddyn
- Mae trigolion Cymru yn arbed bron i £10 am bob eitem ar bresgripsiwn y maen nhw'n ei chael yng Nghymru
Mae Ryan Perrot o Aberhonddu yn gwirfoddoli gydag Asthma & Lung UK Cymru. Mae’n byw ag asthma cronig difrifol ers ei fod yn dair oed ac roedd yn arfer gwario dros £1000 bob blwyddyn ar feddyginiaeth.
Wrth siarad am yr effaith y mae presgripsiynau am ddim wedi'i chael arno, dywedodd Ryan:
"Mae presgripsiynau am ddim nid yn unig wedi arbed arian imi, ond maen nhw hefyd wedi estyn fy oes.
"O'r blaen, byddwn i'n gorfod mynd i'r ysbyty, gan golli gwaith a chyfyngu ar faint o arian fyddwn i'n ei wario ar siopa bwyd, am nad oeddwn i'n gallu fforddio fy meddyginiaeth. Nawr, rwy'n gallu rheoli fy nghyflwr yn well, ac rwy'n cymryd tabledi ac anadlyddion bob dydd heb orfod poeni am ddewis rhwng anadlu a bwyta.
"Mae wedi fy ngalluogi i weithio a mwynhau hobïau ac yn fwy gwerthfawr na dim, i chwarae gyda fy ŵyr, rhywbeth roeddwn i'n meddwl na fyddwn i yma i'w wneud.
"Ni ddylai pobl â chyflyrau cronig orfod talu i anadlu – rhywbeth mor sylfaenol y mae'r rhan fwyaf yn ei gymryd yn ganiataol."
Drwy gael gwared â rhwystrau o ran cost, mae pobl sydd angen meddyginiaeth reolaidd yn fwy tebygol o gael a chymryd y feddyginiaeth sydd ei hangen arnyn nhw, gan gyfrannu at ganlyniadau iechyd gwell.
Dywedodd Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gofal Cymdeithasol, Jeremy Miles:
"Mae presgripsiynau am ddim yn un o lwyddiannau mwyaf Cymru yn y maes gofal iechyd hyd yn hyn.
"Rwy'n falch ein bod wedi arwain y gad yn y Deyrnas Unedig wrth gymryd y cam beiddgar hwn, gan sicrhau bod pawb, waeth beth fo'u hamgylchiadau ariannol, yn gallu cael y feddyginiaeth sydd ei hangen arnyn nhw.
"Dros ddeunaw mlynedd, mae'r polisi hwn wedi trawsnewid bywydau cymaint o bobl, wedi helpu miloedd i reoli eu cyflyrau'n effeithiol, ac wedi atal derbyniadau diangen i'r ysbyty. Dylai gofal iechyd fod yn seiliedig ar angen clinigol, a dyna yw diben presgripsiynau am ddim.
"Wrth inni edrych tua'r dyfodol, ry'n ni wedi ymrwymo i'r egwyddor hon, sydd wedi bod o fudd mawr i bobl Cymru."
Nodiadau i olygyddion
- Chief Pharmaceutical Officer for Wales, Andrew Evans, will be available for interviews. Please contact hss-pressteam@gov.wales for information.
- Anyone registered with a Welsh GP who gets their prescription dispensed in Wales receives their medication without charge.
- Research by the Prescription Charges Coalition found 33% of people (1,386 of 4,264 people surveyed) with long-term conditions who pay for their prescriptions stated that they had previously not collected a prescription from the pharmacy due to the cost. Source: Still-Paying-the-Price-June-2017-online.pdf
- Responses to a 2013 survey conducted by the Prescription Charges Coalition identified that the cost of prescriptions has a significant impact on general wellbeing, with many respondents reporting doing without essentials such as food, clothing, rent and utility bills. Source: Layout 1