Prif Swyddog Meddygol Cymru yn cadarnhau pedwar achos newydd o goronafeirws (COVID-19)
Chief Medical Officer for Wales confirms four new cases of coronavirus (COVID-19)
Mae’r Prif Swyddog Meddygol ar gyfer Cymru, Dr Frank Atherton, wedi cadarnhau bod pedwar claf arall yng Nghymru wedi profi’n bositif am goronafeirws (COVID -19).
Roedd tri o'r achosion newydd ddychwelyd i Gymru o ogledd yr Eidal. Mae dau o'r rheini yn drigolion yn ardal awdurdod lleol Powys, ac mae'r llall yn byw yn ardal awdurdod lleol Abertawe.
Nid oes gan yr achos newydd arall, sy'n preswylio yn ardal awdurdod lleol Caerffili, unrhyw hanes o deithio i wlad lle mae'r firws yn cylchredeg, ac nid yw'n hysbys ei fod wedi bod mewn cysylltiad ag achos arall a gadarnhawyd.
Dywedodd Dr Atherton: “Gallaf gadarnhau bod pedwar unigolyn ychwanegol yng Nghymru wedi profi’n bositif am goronafeirws (COVID-19), gan wneud cyfanswm yr achosion positif yng Nghymru yn 19.
“Mae’r holl unigolion yn cael eu rheoli mewn lleoliadau clinigol addas. Mae’r holl gamau priodol yn cael eu cymryd i ofalu am yr unigolion ac i leihau’r risg o drosglwyddo’r feirws i eraill.
“Rydyn ni wastad wedi bod yn glir ein bod ni wedi disgwyl i nifer yr achosion positif gynyddu, sydd yn unol â’r hyn sydd wedi digwydd mewn rhannau eraill o’r byd.
“Mae canfod y saith unigolyn yn gysylltiedig â’r unigolyn gyda choronafeirws sy’n byw yng Nghastell-nedd Port Talbot yn dangos bod yr olrhain cysylltiadau a’r profi cymunedol sy’n cael eu cynnal gan Iechyd Cyhoeddus Cymru yn gweithio fel y dylent.
“Hoffwn fanteisio ar y cyfle hwn i sicrhau’r cyhoedd bod Cymru a’r Deyrnas Unedig gyfan yn barod ar gyfer digwyddiadau o’r math hyn. Gan weithio gyda’n partneriaid yng Nghymru a’r Deyrnas Unedig, rydym wedi gweithredu’r ymateb a baratowyd gennym, gan roi mesurau rheoli haint cadarn ar waith i ddiogelu iechyd y cyhoedd.”
Er mwyn gwarchod cyfrinachedd y cleifion, ni fydd unrhyw fanylion pellach am yr unigolion yn cael eu rhyddhau.
Nodiadau i olygyddion
I gael yr wybodaeth ddiweddaraf am y Coronafeirws (COVID-19) ewch i wefan Iechyd Cyhoeddus Cymru.