English icon English

Prif Swyddog Meddygol Cymru yn cyhoeddi bod y claf cyntaf yng Nghymru wedi marw ar ôl dal COVID-19

Chief Medical Officer for Wales announces death of first COVID-19 patient in Wales

Mae Dr Frank Atherton wedi cyhoeddi bod y claf cyntaf yng Nghymru wedi marw ar ôl dal COVID-19.

Dywedodd Dr Frank Atherton, Prif Swyddog Meddygol Cymru:

“Mae’n ddrwg iawn gennyf orfod cadarnhau heddiw y newyddion trist bod y claf cyntaf yng Nghymru wedi marw ar ôl dal COVID-19. Hoffwn estyn fy nghydymdeimlad dwysaf i deulu a ffrindiau’r unigolyn a gofynnaf i’w dymuniad nhw am breifatrwydd gael ei barchu. 

“Roedd gan y claf gyflyrau iechyd eisoes. Roedd yn 68 oed ac roedd yr unigolyn yn cael drin yn Ysbyty Maelor Wrecsam.”

Nodiadau i olygyddion

Nid oedd gan y claf unrhyw hanes o deithio, ac roedd wedi bod yn byw gartref cyn cael ei derbyn i’r ysbyty.