English icon English

Prif Swyddog Meddygol Cymru yn myfyrio ar y gwersi a ddysgwyd o’r pandemig COVID-19

Chief Medical Officer for Wales sets out lessons learnt from Covid-19 pandemic

Yr angen i fabwysiadu dull unedig o ymateb i faterion iechyd y cyhoedd ac amgylcheddol, i ganolbwyntio mwy ar arloesi a phwysigrwydd buddsoddi mewn trefniadau diogelu iechyd – dyma rai o’r gwersi a ddysgwyd o don gyntaf y pandemig COVID-19 yng Nghymru, yn ôl y Prif Swyddog Meddygol.

Heddiw, mae Dr Frank Atherton wedi cyhoeddi ei adroddiad blynyddol sy’n edrych yn ôl dros ymateb Cymru yn nyddiau cynnar y pandemig – o ddechrau 2020 hyd at ddiwedd yr haf – ac mae’n ystyried pa wersi y gellir eu dysgu.  

Dywedodd Dr Atherton: “Yn yr un modd â gweddill y byd, rydym wedi gorfod ymateb i fygythiad real iawn y pandemig hwn yng Nghymru. Mae’n bygwth iechyd, gofal cymdeithasol a llesiant, cyflogaeth a systemau addysg, yr economi, a phob agwedd ar fywyd a dweud y gwir.

Yng ngoleuni digwyddiadau 2020, rwyf wedi penderfynu llunio adroddiad arbennig yn pwyso ac yn mesur sut rydym ni yng Nghymru wedi wynebu her y pandemig COVID-19 gyda’n gilydd a sut gallwn geisio dod allan o’r sefyllfa ddifrifol hon yn gryfach ac yn fwy parod i fynd i’r afael â rhai o’r heriau roeddem eisoes yn eu hwynebu a’r heriau’r a fydd o’n blaenau yn y dyfodol.

Mae COVID-19 yn ein hatgoffa nad ydym wedi ein hynysu a’i bod yn hawdd iawn i ddigwyddiadau byd-eang effeithio arnom, bron heb rybudd. Mae’n ein hatgoffa ein bod yn rhan annatod o’n hamgylchedd a’n bod wedi plethu â’r rheini sy’n rhannu’r amgylchedd hwnnw â ni.

Rhaid inni felly ddefnyddio’r hyn rydym wedi’i ddysgu i edrych o’r newydd ar ein perthynas â’r blaned ac â’n gilydd a dweud na fyddwn mwyach yn goddef anghydraddoldeb mae modd ei osgoi a chynllunio amgylcheddol tymor byr. Yn sgil yr amgylchiadau trychinebus, efallai y bydd modd inni achub ar gyfle unigryw na welwn mo’i debyg eto.”

Mae’r adroddiad yn gwneud wyth argymhelliad:  

  • Argymhelliad 1 – sy’n canolbwyntio ar fuddsoddi mewn gwasanaethau diogelu iechyd
  • Argymhelliad 2 – sy’n ein hannog i adolygu’n barhaus effeithiolrwydd ein systemau rheoli achosion ac olrhain cysylltiadau
  • Argymhelliad 3 – sy’n awgrymu y dylem ddysgu o’r pandemig hwn a defnyddio’r hyn a ddysgwyd wrth baratoi ar gyfer argyfyngau yn y dyfodol
  • Argymhelliad 4 – sy’n pwysleisio pa mor bwysig yw ymgysylltu’n llawn â’r cyhoedd ynghylch ein hymateb i’r pandemig a’r mesurau sy’n cael eu rhoi ar waith
  • Argymhelliad 5 – sy’n awgrymu, ar sail y trefniadau cydweithio a ddatblygwyd cyn ac yn ystod y pandemig, y dylai Cymru fabwysiadu dull gweithredu ‘Iechyd Cyfunol’ ar gyfer y gymdeithas gyfan fel ymateb i rai materion dyrys, gan gynnwys y newid yn yr hinsawdd, milheintiau ac ymwrthedd i gyffuriau gwrthficrobaidd
  • Argymhelliad 6 – sy’n canolbwyntio ar yr angen i barhau i arloesi a bod yn greadigol wrth ddarparu gwasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol a rhoi blaenoriaeth i gynnal llesiant pob gweithiwr allweddol
  • Argymhelliad 7 – sy’n gofyn inni barhau i ganolbwyntio ar anghydraddoldebau sy’n gysylltiedig ag iechyd yn ein holl bolisïau
  • Argymhelliad 8 – sy’n cynnig bod angen ymchwil barhaus i effeithiau COVID-19 yn y tymor hir

Croesawodd Vaughan Gething, y Gweinidog Iechyd, yr adroddiad.

Dywedodd: “Nid yw’r pandemig hwn y tu cefn inni eto. Mae ffordd bell i fynd ond rydyn ni wedi dysgu llawer o’r don gyntaf ac rydyn ni’n dal i ddod i ddeall mwy wrth i amser fynd heibio. Bydd yr adroddiad hwn yn adnodd gwerthfawr ar gyfer gwneud penderfyniadau a llunio polisi yn y dyfodol.”

Nodiadau i olygyddion

Bydd yr adroddiad yn cael ei cyhoeddi ar wefan Llywodraeth Cymru am 12.00 Dydd Sadwrn 30 Ionawr.

https://llyw.cymru/adroddiad-blynyddol-arbennig-prif-swyddog-meddygol-cymru-2019-i-2020-diogelu-ein-hiechyd

Os hoffech copi dan embargo neu cyfweliad gyda Dr Atheron cysylltwch a Matthew.Pritchard@gov.wales 078149 73937