English icon English

Prif Weinidog Cymru a’r  gwasanaethau cyhoeddus yn galw ar bobl Cymru i aros gartref y achub bywydau y Pasg hwn

First Minister and Wales’ emergency services call on people of Wales to stay home to save lives this Easter

Mae llythyr digynsail oddi wrth Brif Weinidog Cymru Mark Drakeford wedi’i gyd-lofnodi gan y gwasanaethau argyfwng ac iechyd ac arweinwyr cynghorau Cymru, yn galw ar bawb yn y wlad i aros gartref dros benwythnos y Pasg er mwyn achub bywydau.

Mae Gweinidog Iechyd Cymru Vaughan Gething a’r Prif Swyddog Meddygol Frank Atherton ynghyd â’r Gwasanaeth Iechyd, yr heddlu, y gwasanaeth tân ac achub a’r gwasanaeth ambiwlans yn ogystal ag elusennau a mudiadau gwirfoddol  wedi llofnodi’r llythyr er mwyn helpu i atal lledaeniad y coronafeirws.

LLYTHYR AT BOBL CYMRU

Wrth i benwythnos y Pasg agosáu, rydym am i bawb wneud un peth pwysig. Aros gartref ac achub bywydau.

Mae ein gwasanaethau cyhoeddus yn gweithio ddydd a nos i ofalu am bobl a’u cadw’n ddiogel yn ystod pandemig y coronafeirws. Mae ein gweithwyr rheng flaen yn rhoi ein hiechyd a’n gofal ni gyntaf, bob dydd.

Rhaid i ninnau barhau i wneud popeth y gallwn i’w cefnogi nhw; i ddiogelu’r Gwasanaeth Iechyd ac i achub bywydau.

Arhoswch gartref a helpwch i atal y feirws.

Rydym yn gwybod nad yw hyn yn hawdd. Diolch i chi am gadw at y rheolau. Er bod ambell arwydd positif cychwynnol, mae gennym ffordd bell i fynd eto. Rydym yn gwybod bod aros gartref am gyfnodau hir yn anodd, a bod teuluoedd ledled Cymru’n gwneud aberth bob dydd.

Mae’r rhan fwyaf ohonom yn gwneud yr hyn sydd raid. Ond mae’n rhwystredig iawn gweld rhai pobl yn anwybyddu’r rheolau a rhoi bywydau eraill mewn perygl.

Rydym yn gweithredu i rwystro hyn. Mae’r rheolau yno i’ch diogelu chi, eich teulu a’ch ffrindiau. I’r rhan fwyaf o bobl, salwch ysgafn fydd y coronafeirws yn ei achosi, ond gall nifer fawr o bobl eraill - plant, oedolion, henoed - fynd yn ddifrifol wael os ydynt yn dal yr haint.

Yn drist iawn, mae llawer o bobl eisoes wedi marw ar ôl dal y coronafeirws. Mae teuluoedd ym mhob cwr o Gymru wedi colli rhywun i’r salwch hwn. Os na wnawn ni weithredu nawr, bydd mwy o bobl yn marw.

Bydd ein gweithredoedd a’n penderfyniadau ni dros benwythnos y Pasg a’r wythnosau a misoedd nesaf yn effeithio ar ein cenedl am flynyddoedd i ddod.

Rydym yn erfyn arnoch – arhoswch gartref i achub bywydau.

 

Mark Drakeford AM, First Minister of Wales

Vaughan Gething AM, Minister for Health and Social Services

Frank Atherton, Chief Medical Officer for Wales

Andrew Goodall, NHS Wales Chief Executive

Tracey Cooper Public Health Wales Chief Executive

Carl Foulkes Chief Constable, North Wales Police

Mark Collins Chief Constable, Dyfed-Powys Police

Matt Jukes Chief Constable, South Wales Police

Pam Kelly Chief Constable, Gwent Police

Andrew Morgan WLGA Leader, on behalf of all Welsh Local Authorities

Arfon Jones, Police and Crime Commissioner for North Wales

Dafydd Llywelyn, Police and Crime Commissioner for Dyfed-Powys

Alun Michael, Police and Crime Commissioner for South Wales

Jeff Cuthbert, Police and Crime Commissioner for Gwent

Jason Killens, Chief Executive, Welsh Ambulance Services NHS Trust

Ruth Marks, Wales Council for Voluntary Action Chief Executive

Simon Smith, Chief Fire Officer North Wales Fire and Rescue Service

Chris Davies, Chief Fire Officer Mid and West Wales Fire and Rescue Service

Huw Jakeway, Chief Fire Officer South Wales Fire and Rescue Service

Tegryn Jones, Chief Executive, Pembrokeshire Coast National Park Authority

Emyr Williams, Chief Executive, Snowdonia National Park Authority