Prif Weinidog Cymru Mark Drakeford a’r Ysgrifennydd Gwladol Simon Hart yn cadeirio’r Uwchgynhadledd Tomenni Glo
First Minister of Wales Mark Drakeford and Secretary of State Simon Hart chair Coal Tips Summit
Ddoe, cynhaliodd Prif Weinidog Cymru Mark Drakeford a’r Ysgrifennydd Gwladol Simon Hart yr ail Uwchgynhadledd Tomenni Glo ers tirlithriad Tylorstown yn ystod llifogydd mis Chwefror eleni.
Roedd yr uwchgynhadledd yn cynnwys Gweinidogion Llywodraeth Cymru, Arweinydd Rhondda Cynon Taf a hefyd cynrychiolwyr o lywodraeth leol, yr Awdurdod Glo a Chyfoeth Naturiol Cymru, i roi sylw i’r tomenni glo gwastraff sy’n parhau fel gwaddol hanes diwydiannol Cymru fel allforiwr glo mwyaf y byd.
Dywedodd Prif Weinidog Cymru Mark Drakeford:
“Mae sicrhau nad yw cymunedau Cymru’n cael eu heffeithio’n annheg gan waddol y pyllau glo – o bersbectif diogelwch ac ariannol – yn fater o gyfiawnder cymdeithasol. Fe glywson ni bod Llywodraeth y DU yn deall arwyddocâd hyn. Rwyf wedi pwysleisio pa mor bwysig yw edrych yn bositif ar sut gall gefnogi costau ar unwaith a thymor hwy y mater hwn sy’n bodoli ymhell cyn datganoli.
"Mae’r cydweithredu rydw i wedi’i weld gydag awdurdodau lleol, yr Awdurdod Glo a Chyfoeth Naturiol Cymru, ochr yn ochr â Llywodraethau Cymru a’r DU, wedi bod yn rhagorol. Maen nhw i gyd wedi gweithio’n galed i sicrhau bod y camau gweithredu ymarferol wedi bod yn bosib, er gwaethaf heriau’r coronafeirws.
“Rhaid i ni symud yn gyflym i gwblhau’r gwaith fel bod ein cymunedau ni sy’n byw yn eu cysgod yn teimlo’n ddiogel heb boeni.”
Dywedodd Ysgrifennydd Gwladol Cymru Simon Hart:
“Mae Llywodraeth y DU wedi ymrwymo’n llwyr o hyd i weithio’n agos gyda Llywodraeth Cymru, yr Awdurdod Glo a phartneriaid eraill i sicrhau bod tomenni glo Cymru’n cael eu rheoli’n briodol a bod y cyhoedd yn cael gwybod am eu diogelwch.
“Cadarnhaodd yr uwchgynhadledd yr angen am i bob parti gyfrannu’n weithredol ac yn effeithiol at y gwaith hwn, sydd wedi parhau drwy argyfwng y coronafeirws, fel bod cymunedau ein pyllau glo ni’n cael eu cadw’n ddiogel.”
Nodiadau i olygyddion
Yn bresennol
- Y Gwir Anrhydeddus Mark Drakeford AS – Prif Weinidog Cymru
- Lesley Griffiths AS – Y Gweinidog ar gyfer yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig
- Julie James AS – Y Gweinidog ar gyfer Tai a Llywodraeth Leol
- Hannah Blythyn AS – Y Gweinidog ar gyfer Tai a Llywodraeth Leol
- Y Gwir Anrhydeddus Simon Hart – Ysgrifennydd Gwladol Cymru
- Andrew Morgan – Arweinydd Rhondda Cynon Taf
- Chris Llewelyn – Prif Weithredwr Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru
- Mike Evans – Pennaeth Gweithrediadau Canolbarth De Cymru CNC
- Lisa Penny - Yr Awdurdod Glo
- Carl Banton – Yr Awdurdod Glo