English icon English

Prif Weinidog Cymru yn bwriadu amlinellu cynlluniau i lacio’r cyfyngiadau

First Minister of Wales to set out plans to ease restrictions

Yfory (dydd Gwener), bydd y Prif Weinidog yn nodi sut y mae Cymru yn bwriadu symud yn ôl i lefel rhybudd sero os bydd y sefyllfa iechyd cyhoeddus yn parhau i wella.

Yn ei gynhadledd i'r wasg, bydd Mark Drakeford yn amlinellu cynllun dros gyfnod o bythefnos i lacio’r cyfyngiadau lefel rhybudd dau sydd wedi bod ar waith ers Gŵyl San Steffan.

Mae Llywodraeth Cymru yn gallu dechrau codi’r mesurau diogelu a roddwyd ar waith mewn ymateb i'r don omicron, diolch i gefnogaeth pobl ym mhob cwr o Gymru a'r ymgyrch atgyfnerthu lwyddiannus – mae dros 1.75 miliwn o bobl wedi cael y dos atgyfnerthu ychwanegol.

Bydd y newid i lefel rhybudd sero yn cael ei gyflwyno'n raddol, gyda chyfyngiadau ar weithgareddau awyr agored yn cael eu dileu yn gyntaf.

Nodiadau i olygyddion

Bydd y Prif Weinidog yn cynnal cynhadledd i’r wasg am 12.15pm ddydd Gwener.