Prif Weinidog Cymru yn lansio ymgyrch ‘Edrych ar ôl ein Gilydd’
First Minister launches Looking Out for Each Other campaign in Wales
Canmol pobl ym mhob cwr o’r wlad am helpu ei gilydd yn ddiogel
Heddiw, (dydd Sul 22 Mawrth 2020) bydd Prif Weinidog Cymru, Mark Drakeford yn lansio ymgyrch newydd am sut i helpu pobl sy’n aros adref oherwydd y coronafeirws.
Mae’r ymgyrch Edrych ar ôl ein Gilydd yn canolbwyntio ar y pethau bychain y gallwn ni i gyd eu gwneud i helpu ein gilydd yn ystod y pandemig.
Mae’n rhoi canllawiau ymarferol am sut i gadw’n ddiogel wrth wneud tasgau bob dydd, fel mynd ar neges neu gadw mewn cysylltiad â chymdogion, heb ddod i gysylltiad corfforol er mwyn lleihau’r perygl o ddal y coronafeirws. Hefyd, rhoddir gwybodaeth am sut i gadw’r meddwl a’r corff yn brysur.
Bydd tudalen we newydd – llyw.cymru/cymorthdiogel – yn cael ei lansio heddiw. Mae cerdyn ‘help llaw’ ar y wefan, y gellir ei lawrlwytho a’i roi trwy dwll llythyrau cymdogion sy’n hunanynysu fel bod ganndynt rywun i’w helpu gyda’u hangenion bob dydd.
Dywedodd y Prif Weinidog, Mark Drakeford: “Rwyf wedi gweld cymaint o bethau da yn digwydd, o grwpiau côr ar-lein i ddelifro bwyd, wrth i bobl ledled Cymru fynd allan o’u ffordd i helpu eraill gyda'u hanghenion bob dydd.
“Mae cymunedau wedi cydweithio i helpu eu cymdogion yn y cyfnod hwn o angen. Heddiw, rydym yn gofyn i eraill ddilyn yr esiampl ddisglair hon drwy wneud y pethau bychain i helpu, os gallant.
“Mae gan Gymru hanes balch o helpu ein gilydd ar adegau anodd – dyna yw ein natur ni. Os gallwn weithio gyda’n giydd, gallwn ddod drwyddi.”
Yr wythnos hon, bydd Llywodraeth Cymru’n ysgrifennu at y bobl sydd mewn perygl uchel iawn o ddablygu salwch difrifol os cânt eu heintio gan y coronafeirws. Byddant yn cael cynghorion penodol am sut i amddiffyn eu hunain.
Ychwanegodd y Prif Weinidog: “Rydym yn gwybod bod hwn yn gyfnod ofnadwy o bryderus i bawb, yn enwedig y rhai sydd mewn mwy o berygl o fynd yn ddifrifol wael os ydynt yn dal y coronafeirws.
“Rydym yn gwneud popeth yn ein gallu i gadw Cymru’n ddiogel, ond hefyd i gadw’r grwpiau hyn yn ddiogel o’r feirws. Ac mae cefnogaeth y cyhoedd i’r ymdrechion hyn yn gwbl hanfodol.”
Beth allwn ni ei wneud i edrych ar ôl ein gilydd
Os ydych chi’n rhydd o symptomau, ddim mewn grŵp risg uchel ac yn gallu helpu pobl sy’n aros adref, mae 5 peth syml y gallwch ei wneud i helpu – ond cofiwch fynd ati’n ddiogel:
- Helpu gyda siopa bwyd. Gallwch wneud hyn eich hunan a’i adael ar y stepen drws neu helpu pobl i siopa ar-lein.
- Mynd ar neges. Bydd angen help ar rai pobl i gasglu moddion. Ac efallai bydd angen cymorth ar bobl eraill i’w harchebu fel nad ydyn nhw’n rhedeg allan.
- Cadw mewn cysylltiad. Mae aros adref am amser hir yn gallu bod yn brofiad unig. Mae dweud helo a chadw mewn cysylltiad dros y ffôn neu ar-lein yn bwysig.
- Annog pobl i gadw’r meddwl a’r corff yn brysur. Beth am gyfnewid syniadau ar sut i gadw’n brysur a heini.
- Ymuno â chymunedau ar-lein lleol. Anogwch bobl i ymuno â fforymau a grwpiau Facebook lleol fel bod modd iddyn nhw gadw mewn cysylltiad â’u cymuned a gweld bod nhw ddim ar eu pen eu hunain.
Ewch i llyw.cymru/cymorthdiogel am syniadau syml a chyngor ar sut i fynd ati’n ddiogel i helpu rhywun sy’n gorfod aros adref oherwydd y coronafeirws (COVID-19). Boed yn ffrind, aelod o’r teulu, cymydog neu rywun arall yn eich cymuned.
Lawrlwythwch y cerdyn ‘Help Llaw’, llenwch o i mewn a rhannwch ef gyda’ch cymuned er mwyn i’r rhai sydd mewn angen wybod at bwy i droi.
Aros adref
- Darllenwch y canllawiau ar aros adref ar llyw.cymru os ydych mewn perygl, yn dangos symptomau’r coronafeirws (COVID-19) neu’n byw gyda rhywun sydd â symptomau.
- Lawrlwythwch y cerdyn ‘Help Llaw’ llenwch eich manylion a gosodwch ef tu allan i’ch drws.
Nodiadau i olygyddion
Sut alla i helpu?
Bydd y feirws COVID-19 yn effeithio ar bob rhan o’r wlad a phob cymuned, felly mae gan bawb ran i’w chwarae.
Gallwch chi helpu os ydych yn gallu ateb pob un o’r amodau isod:
- eich bod yn holliach a heb unrhyw symptomau fel peswch neu dymheredd uchel, a bod hynny’n wir am bawb yn eich cartref
- eich bod o dan 70 oed
- nad ydych yn feichiog
- nad oes gennych unrhyw gyflyrau iechyd sy’n golygu bod risg uwch o fod yn ddifrifol sâl oherwydd COVID-19