Prif Weinidog yn sefydlu cynllun rhyddhad cyllid brys
First Minister establishes emergency funding relief scheme
Heddiw, cyhoeddodd y Prif Weinidog Mark Drakeford gronfa argyfwng gwerth miliynau o bunnoedd i ddelio ag effaith uniongyrchol Storm Dennis a Storm Ciara.
Mae Llywodraeth Cymru yn gweithio gyda chynghorau i gael darlun clir o raddfa'r difrod, a fydd yn pennu cyfanswm yr arian ychwanegol sydd ei angen. Bydd hyd at £10 miliwn ar gael ar gyfer yr ymateb cychwynnol.
Bydd y cynllun rhyddhad llifogydd brys yn cael ei sefydlu o fewn y saith niwrnod nesaf i sicrhau bod pobl sydd wedi eu heffeithio yn cael cymorth ariannol cyn gynted â phosibl. Bydd yr arian refeniw yn cefnogi:
- Pobl a thai sydd wedi eu difrodi oherwydd y stormydd. Bydd cyllid ar gael ar frys i leddfu'r pwysau ar bobl;
- Cefnogi busnesau a strydoedd sydd wedi eu heffeithio;
- Awdurdodau lleol sy'n delio â chostau glanhau;
- Atgyweirio isadeiledd ar frys - er enghraifft, trwsio ffyrdd a phontydd sydd wedi'u difrodi.
Bydd y Prif Weinidog yn cynnal uwchgynhadledd frys yfory gan ddod â gwasanaethau rheng flaen allweddol, cynghorau ac arweinwyr busnes ynghyd i asesu maint y difrod ledled Cymru a chydlynu’r ymateb.
Dywedodd y Prif Weinidog Mark Drakeford:
“Yn ystod y dyddiau diwethaf, mae Gweinidogion y Cabinet a minnau wedi bod i Wrecsam, Ffynnon Taf, Llanrwst, Caerfyrddin, Pontypridd a Tylorstown, i gwrdd â phobl sydd wedi eu heffeithio gan y stormydd diweddar. Mae'n dorcalonnus gweld y dinistr llwyr a achoswyd gan y stormydd a fy neges i bawb yr wyf wedi cwrdd â yw ein bod yn gwneud popeth o fewn ein gallu i helpu'r rhai sydd fwyaf angen cymorth. Byddwn yn sicrhau bod cymorth ariannol brys ar gael i bobl sydd wedi a chartrefi wedi eu dinistrio oherwydd y llifogydd ac, yn benodol, yn helpu teuluoedd sydd heb yswiriant.
“Yfory, byddaf yn dod â phartneriaid allweddol o ledled Cymru i benderfynu sut y gallwn ryddhau arian yn gyflym, a sut y gellir ei ddefnyddio yn fwyaf effeithiol. Byddwn hefyd yn edrych i mewn i’r gefnogaeth tymor hir sydd ei hangen i fynd i'r afael â'r difrod strwythurol yn yr eiddo sydd wedi eu heffeithio."