Prifysgol Abertawe yn helpu i ymladd yn erbyn y coronafeirws drwy gael ambiwlansys yn ôl ar yr heol yn gyflym
Swansea University helping fight coronavirus by getting ambulances back on the road in rapid time
Mae Prifysgol Abertawe wedi llwyddo i ennill cyllid i leihau’r cyfnod o amser sydd ei angen i ddiheintio ambiwlansys ar ôl iddynt gludo claf yr amheuir ei fod yn dioddef o covid-19.
Mae myfyrwyr y brifysgol yn helpu i gwtogi’r amser sydd ei angen i lanhau ambiwlans o 45 munud i lai na 20 munud.
Dan arweiniad Canolfan Ragoriaeth y Fenter Ymchwil Busnesau Bach (SBRI) a Gwasanaeth Ambiwlans Cymru, yr her oedd cwtogi’r amser sydd ei angen i lanhau cerbyd yn drylwyr a’i gael yn ôl ar yr heol.
Wedi’i dyfeisio a’i datblygu mewn llai na phythefnos, roedd diddordeb aruthrol yn yr her, gyda dros 200 o systemau yn cael eu cynnig o bob cwr o’r DU. Roedd Prifysgol Abertawe ymysg y deuddeg cais ar y brig i ennill cyllid a chymorth, sy’n brawf o’r dyfeisgarwch a’r mentergarwch sy’n codi o’r argyfwng.
Bydd system Prifysgol Abertawe yn profi triniaeth newydd i ryddhau nwy yn sydyn i ddiheintio ambiwlansys, a allai gael gwared â covid-19 o’r arwynebeddau a’r awyr mewn llai nag ugain munud, heb angen i berson orfod wneud y gwaith o lanhau.
Darparwyd cymorth i’r her gan DASA (Defence and Security Accelerator) a gwyddonwyr y Llywodraeth yn Porton Down.
Os bydd y profion yn llwyddiannus, gellid cyflwyno’r system i wasanaethau golau glas eraill, trafnidiaeth gyhoeddus a wardiau ysbyty.
Dywedodd Kirsty Williams, y Gweinidog Addysg: “Mae’n prifysgolion a’n colegau wedi bod ar flaen y gad yn y frwydr yn erbyn y coronafeirws, gan anfon doctoriaid a nyrsys i reng flaen y Gwasanaeth Iechyd Gwladol ac ymuno â’r frwydr ryngwladol i ddod o hyd i wellhad.
“Fel Llywodraeth, rydyn ni’n edrych ar sawl llwybr i guro’r coronafeirws. Gan weithio gyda’n partneriaid yng Nghymru a’r Deyrnas Unedig, mae’r gystadleuaeth hon yn dangos bod modd ymateb yn arloesol i sefyllfaoedd o argyfwng.
“Rwy’n falch bod prifysgol o Gymru wedi cyrraedd cam cyllido’r gystadleuaeth, gan ddangos sut gall ein prifysgolion roi eu harbenigedd academaidd ar waith wrth wynebu’r heriau mwyaf sydd o’n blaen.”
Dywedodd y Gweinidog ar gyfer yr Economi, Trafnidiaeth a Gogledd Cymru, Ken Skates: “Rydyn ni i gyd yn chwarae rhan mewn helpu i arafu lledaeniad y coronafeirws ac rydyn ni wedi gweld esiamplau ledled Cymru o bobl yn dod at ei gilydd i wynebu’r heriau mae’r feirws yma’n parhau i’w creu bob dydd.
"Nid yw ein busnesau a’n prifysgolion ni’n wahanol o ran wynebu’r heriau yma ar y cyd ac rydw i’n ddiolchgar i bawb sy’n rhan o’r cydweithredu arloesol yma am ba mor gyflym maen nhw wedi gallu ymateb.”
Dywedodd Dr Chedly Tizaoui, peiriannydd cemegol a Phrif Ymchwilydd y prosiect: “Mae Prifysgol Abertawe yn hynod o falch o gael gweithio gyda chymorth Gwasanaeth Ambiwlans Cymru, Llywodraeth Cymru a Chanolfan Ragoriaeth SBRI i ddarparu ateb cyflym posib ar gyfer glanhau ambiwlansys. Mae’n gyfle gwych i ni helpu gwasanaethau rheng flaen a’n cydweithwyr Iechyd yn y frwydr yn erbyn Covid-19.”
Fel y prif ymchwilydd, bydd Dr. Tizaoui yn gweithio ar y prosiect gyda’i gydweithwyr yr Athro Dave Worsley a’r Athro Peter Holliman.