English icon English

Profiadau disgyblion i lywio argymhellion ar gyfer cymwysterau flwyddyn nesaf

Pupils’ experiences to inform recommendations for next year’s qualifications

Mae arolwg newydd wedi'i lansio heddiw i glywed barn dysgwyr, athrawon a rhanddeiliaid eraill am y ffordd yr aseswyd TGAU, Safon Uwch a chymwysterau galwedigaethol eleni a'u barn am y trefniadau ar gyfer 2021.

Mae'r arolwg yn rhan o'r Adolygiad Annibynnol o Drefniadau Haf 2020 i ddyfarnu graddau, a fydd hefyd yn darparu argymhellion ar gyfer sut y caiff cymwysterau eu hasesu yn 2021.

Louise Casella, Cyfarwyddwr y Brifysgol Agored yng Nghymru, sy'n arwain yr adolygiad, fydd yn hel safbwyntiau ystod eang o randdeiliaid i sicrhau bod gwersi'n cael eu dysgu eleni. 

Bydd yr adolygiad yn blaenoriaethu barn dysgwyr, ysgolion a phobl eraill sy'n ymwneud â chyflwyno a chefnogi addysg. Yn ogystal â'r arolwg ar-lein, cynhelir cyfarfodydd gyda dysgwyr a chynrychiolwyr ysgolion a cholegau o bob rhanbarth yng Nghymru, gan gynnwys llywodraethwyr.

Bydd yr adroddiad interim ar ganfyddiadau allweddol yn cael ei rannu â'r Gweinidog Addysg, Kirsty Williams, ym mis Hydref, cyn i'r Gweinidog wneud datganiad ar asesiadau'r flwyddyn nesaf cyn diwedd hanner tymor.   

Bydd Cymwysterau Cymru, sy'n gyfrifol am reoleiddio cymwysterau cyffredinol a galwedigaethol yng Nghymru, hefyd yn rhoi cyngor pellach i'r Gweinidog ynghylch sut y dylid cwblhau asesiadau yn 2021, yng nghyd-destun parhad Covid-19.

Dywedodd Kirsty Williams:

"Rwy'n gwybod bod y ffordd y caiff cymwysterau eu hasesu eleni, a'r trefniadau ar gyfer arholiadau'r haf nesaf, yn peri pryder arbennig i lawer o bobl, yn enwedig i ddysgwyr a'u teuluoedd.

"I ddysgwyr mewn blynyddoedd arholiad, fy mhrif flaenoriaeth yw sicrhau bod ganddynt y wybodaeth, sgiliau a'r hyder i symud ymlaen i gam nesaf eu haddysg, eu hyfforddiant neu eu cyflogaeth.

"Rydym ni fel Llywodraeth wedi rhoi trefniadau newydd ar waith yn ein dull gweithredu, gan sicrhau eu bod yn gadarn a bod tegwch yn flaenoriaethau.  

"Rwy'n disgwyl gwneud datganiad ar ein dull o ymdrin â chymwysterau, gan gynnwys cymwysterau galwedigaethol, cyn yr hanner tymor nesaf."

Dywedodd Louise Casella:

"Mae'n bwysig iawn ein bod ni fel Panel Adolygu yn gwrando'n ofalus ar leisiau dysgwyr, rhieni, athrawon, darlithwyr a phawb sy'n ymwneud ag addysg yng Nghymru wrth lunio ein hargymhellion. Rydym yn gwneud hynny mewn amrywiaeth o gyfarfodydd ar hyn o bryd ond rydym am glywed yn ehangach, felly defnyddiwch yr arolwg i rannu eich profiadau a'ch barn ar yr hyn sy'n digwydd nesaf."

Daw'r arolwg i ben ar 18 Hydref 2020 ac mae ar gael yma:

https://www.smartsurvey.co.uk/s/4VS1YM/?lang=508941

Nodiadau i olygyddion