English icon English

“Cofiwch bacio’ch prawf Covid os byddwch yn dod ar wyliau i Gymru”

“Don’t forget to pack your Covid test, if you’re holidaying in Wales”

Mae ymwelwyr yn cael eu hannog i bacio profion llif unffordd os byddant yn dod ar wyliau i Gymru o ardaloedd yn y Deyrnas Unedig sydd â chyfraddau uwch o’r coronafeirws.

Heddiw, gofynnodd Prif Weinidog Cymru i bob ymwelydd o’r ardaloedd hynny, gan gynnwys rhannau o Loegr sydd â lefelau uchel o amrywiolyn India sy’n peri pryder, i gymryd camau ychwanegol i helpu i ddiogelu Cymru.

Mae Llywodraeth y DU yn gofyn i bobl sy’n byw mewn wyth ardal yn Lloegr lle mae nifer yr achosion o amrywiolyn India yn uchel – Bolton, Blackburn, Kirklees, Bedford, Burnley, Caerlŷr, Hounslow a Gogledd Tyneside – i deithio cyn lleied â phosibl allan o’r ardal.

Ond nid yw’r cyngor yn gwahardd teithio y tu hwnt i’r ardaloedd hyn.

Wrth i sector twristiaeth Cymru baratoi ar gyfer penwythnos gŵyl banc y Gwanwyn a dechrau tymor yr haf, mae’r Prif Weinidog wedi annog teithwyr o bob rhan o’r DU, yn enwedig yr wyth ardal dan sylw yn Lloegr, i ddefnyddio a phacio pecynnau profion llif unffordd os byddant yn dod i Gymru.

Dywedodd y Prif Weinidog Mark Drakeford:

“Bydd ein busnesau twristiaeth yn edrych ymlaen at wythnos brysur a dechrau tymor yr haf.

“Rwy’n annog unrhyw un sy’n bwriadu dod ar wyliau i Gymru o ardal sydd â chyfraddau uwch o’r coronafeirws i brofi eu hunain yn rheolaidd, gan ddefnyddio’r profion llif unffordd am ddim, cyn iddynt deithio. Dim ond y rhai sy’n cael canlyniad prawf negatif ac sydd heb symptomau’r coronafeirws ddylai deithio.

“Dylai pawb sy’n dod i Gymru o ardal sydd â chyfraddau uwch o’r coronafeirws ddod â phecynnau profion llif unffordd gyda nhw i barhau i brofi eu hunain yn rheolaidd tra byddant ar wyliau. Mae hyn yn gam ychwanegol i helpu i ddiogelu Cymru. Mae pecynnau profion llif unffordd hefyd ar gael yn lleol ledled Cymru.”   

Mae’r ffigurau diweddaraf yn dangos bod dros 3,200 o achosion o amrywiolyn India sy’n peri pryder wedi’u nodi yn Lloegr. Mae 57 o achosion yng Nghymru.

Ychwanegodd y Prif Weinidog:

“Drwy gydol y pandemig, mae patrwm clir a chyson yn lledaeniad y coronafeirws ar hyd coridorau teithio wedi dod i’r amlwg. Mae hyn yn wir o fewn Cymru; ar draws y DU ac yn rhyngwladol. Mae’r feirws yn symud gyda phobl, ac mae pobl yn dod â’r feirws i ardaloedd newydd wrth iddynt symud o gwmpas.

“Ein rhaglen frechu lwyddiannus yw’n llwybr gorau allan o’r pandemig hwn. Rwy’n annog pawb i barhau i fod yr un mor ofalus ac i fabwysiadu’r un ymddygiadau diogelu ag rydym wedi’u gwneud drwy gydol y pandemig, wrth inni barhau i frechu gweddill y boblogaeth sy’n gymwys yng Nghymru.”