Prosiect 'gwirioneddol arwyddocaol' i wella adnoddau addysg pobl dduon, Asiaidd a lleiafrifoedd ethnig yng Nghymru
‘Truly significant’ project will improve Black, Asian and minority ethnic education resources in Wales
Heddiw, ar ddechrau Mis Hanes Pobl Dduon, mae’r Gweinidog Addysg, Kirsty Williams wedi rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf am brosiect 'gwirioneddol arwyddocaol' sy'n ceisio gwella'r ffordd y caiff themâu yn ymwneud â chymunedau a phrofiadau pobl dduon, Asiaidd a lleiafrifoedd ethnig eu haddysgu ar draws pob rhan o'r cwricwlwm ysgol.
Ym mis Gorffennaf, cadarnhaodd y Gweinidog Addysg fod yr Athro Charlotte Williams OBE wedi derbyn gwahoddiad i arwain gweithgor newydd - Cymunedau, Cyfraniadau a Chynefin pobl dduon, Asiaidd a Lleiafrifoedd Ethnig (BAME) yn y cwricwlwm newydd.
Heddiw, mae'r Gweinidog wedi cadarnhau aelodaeth y gweithgor ac wedi nodi amcanion a cherrig milltir allweddol y grŵp.
Mae'r grŵp yn cynnwys:
- Abu-Bakr Madden Al-Shabazz, Canolfan Dysgu Gydol Oes Prifysgol Caerdydd
- Angela Heald, pennaeth Ysgol Gynradd Cadeirlan San Joseff, Abertawe
- Clara Seery, Rheolwr Gyfarwyddwr Consortiwm Canolbarth y De
- Humie Webbe, Ffederasiwn Hyfforddiant Cenedlaethol Cymru
- Dr Marian Gwyn o Brifysgol Bangor
- Yr Athro Martin Johnes o Brifysgol Abertawe
- Nia Williams o Ysgol y Preseli
- Nicky Hagendyk, Arweinydd y Dyniaethau, Consortia EAS
- Rajvi Glasbrook Griffiths, dirprwy bennaeth Ysgol Gynradd High Cross, Tŷ-du
- Dr Shehla Khan, darlithydd ym Mhrifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant
Mae'r cylch gorchwyl a gyhoeddwyd heddiw yn nodi nodau ac amcanion y grŵp.
Bydd y grŵp yn adolygu'r adnoddau dysgu sydd ar gael ar hyn o bryd ar themâu sy'n ymwneud â chymunedau BAME, eu cyfraniadau a'u profiadau; cynghori ar gomisiynu adnoddau dysgu newydd; ac adolygu ac adrodd ar ddatblygiad proffesiynol i gefnogi addysgu yn y meysydd dysgu hyn.
Dywedodd y Gweinidog Addysg, Kirsty Williams: "Mae'n bleser gen i gyhoeddi’r Cylch Gorchwyl ar gyfer y Gweithgor Cymunedau, Cyfraniadau a Chynefin pobl dduon, Asiaidd a lleiafrifoedd ethnig yn y Cwricwlwm Newydd.
"Bydd y grŵp yn gweithio yn ysbryd canllawiau’r Cwricwlwm i Gymru, gan ystyried yr egwyddorion a'r cyfeiriad strategol ac eang sydd eu hangen a sicrhau'r hyn sy'n bwysig o ran darparu addysg eang a chytbwys ar draws pob un o'r meysydd dysgu a phrofiad.
"Rwy'n disgwyl i'r grŵp adrodd ar eu canfyddiadau cychwynnol, gan gynnwys argymhellion am adnoddau newydd ar gyfer y flwyddyn academaidd sydd i ddod, erbyn canol yr hydref, gydag adroddiad terfynol yn cael ei gyflwyno yng ngwanwyn 2021.
"Rwyf hefyd yn falch o nodi bod aelodau'r Gweithgor, dan gadeiryddiaeth yr Athro Charlotte Williams OBE, yn adlewyrchu ystod eang o brofiadau ac arbenigeddau.
"Mae'r Grŵp mewn sefyllfa dda i roi ystyriaeth lawn i hanes, cyfraniadau a phrofiadau cymunedau BAME yn eu gwaith, ac i gyflwyno argymhellion a fydd yn arwain at gomisiynu adnoddau dysgu cadarn ac ystyrlon a chymorth adeiladol i ymarferwyr addysgu gynyddu eu sgiliau yn y maes dysgu pwysig iawn hwn."
Ychwanegodd yr Athro Charlotte Williams: "Mae hwn yn brosiect gwirioneddol arwyddocaol.
"Ein gweledigaeth yw y dylai pob disgybl, fel dinasyddion egwyddorol a gwybodus yng Nghymru a'r byd, archwilio profiadau a chyfraniadau amrywiol pobl dduon, Asiaidd a lleiafrifoedd ethnig yng Nghymru, yn y gorffennol a'r presennol.
"Byddai ein gweledigaeth yn golygu bod pob athro yng Nghymru, ym mhob maes dysgu a phrofiad, yn meddu ar y gallu a’r adnoddau i fodloni'r disgwyliadau hyn wrth gynllunio eu cwricwlwm ac wrth addysgu."