English icon English
Cwtch Mawr 3-2

Prosiect partneriaeth yn darparu dros 62,000 o eitemau hanfodol i bobl mewn angen

Partnership project provides over 62,000 essential items to people in need

Cwtch Mawr yw'r banc bob dim cyntaf yng Nghymru, ac mae'n helpu teuluoedd sy'n ei chael hi'n anodd cael deupen llinyn ynghyd yn Abertawe.

Mae'r busnesau yn rhoi eitemau sydd ganddynt dros ben i'r banc bob dim, ac mae'r rheini yn eu tro yn cael eu rhoi yn rhad ac am ddim i bobl na allant eu fforddio. Mae hyn yn cynnwys cynhyrchion glanhau, eitemau cartref, nwyddau ymolchi a dodrefn.

Yn ystod y ddau fis cyntaf ers lansio Cwtch Mawr, cefnogwyd dros 15,000 o bobl, ac fe gynhaliwyd digwyddiadau cymunedol, cyrsiau coginio, digwyddiadau galw heibio a digwyddiadau dathlu fel Diwrnod Rhyngwladol y Menywod.

Bellach mae gan Cwtch Mawr rwydwaith cryf o 60 o bartneriaid cofrestredig sy'n casglu eitemau a roddwyd er mwyn eu dosbarthu i'r bobl sydd eu hangen. Gall gweithwyr cymdeithasol, gweithwyr iechyd proffesiynol, athrawon ac elusennau gyfeirio pobl i’r banc bob dim i gael cymorth.

Mae Cwtch Mawr yn cael ei redeg gan elusen Faith in Families o Abertawe, gyda chefnogaeth Gordon Brown ac Amazon a sefydlodd y fenter banc bob dim ar y cyd. Mae Llywodraeth Cymru yn darparu £125,000 ar gyfer sefydlu'r prosiect, gyda phartneriaid lleol fel Cyngor Abertawe, Cymdeithas Tai Pobl, Sefydliad Moondance  a Bwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe yn cyfrannu at y prosiect hefyd.

Dywedodd Ysgrifennydd y Cabinet dros Ddiwylliant a Chyfiawnder Cymdeithasol, Lesley Griffiths: "Mae llawer o bobl yn cael trafferth fforddio eitemau hanfodol yn ystod yr argyfwng costau byw, ac mae'n dda gweld sut mae Cwtch Mawr yn gallu helpu pobl drwy ddarparu llawer o hanfodion gwahanol, a hynny o dan un to. 

"Mae hon yn enghraifft wych o wahanol sectorau yn cydweithio i gefnogi pobl yn eu cymunedau. Trwy roi eitemau sydd heb eu gwerthu i'r banc bob dim, gall manwerthwyr gefnogi'r economi gylchol a lleihau eu heffaith ar yr amgylchedd, a helpu pobl leol ar yr un pryd."

Dywedodd Prif Weithredwr Faith in Families, Cherrie Bija: "Nid argyfwng yw costau byw bellach. Mae wedi dod yn normal ac yn ffordd o fyw i filoedd o bobl yn ein cymunedau. Mae plant nid yn unig yn colli cyfle i gael 'rhywbeth bach neis' nawr ac yn y man, ond hefyd yn mynd heb bethau hanfodol fel dillad, esgidiau, teganau a bwyd iach. Gresyn bod hyn yn digwydd yn Abertawe yn 2024. Mae cymaint yn colli eu plentyndod.

"Mae Faith in Families - Cwtch Mawr yn camu i'r adwy gan ddarparu hanfodion o ansawdd, a hynny ar unwaith, er mwyn helpu teuluoedd i ddygymod â’u sefyllfa a ffynnu gobeithio, a hynny mewn partneriaeth unigryw gydag Amazon. Mae cymaint mwy o waith i'w wneud, ond mae'r cydweithio hwn yn digwydd ar raddfa enfawr ac yn ein galluogi i ddod ynghyd â channoedd o bartneriaid elusennol ar draws y rhanbarth i sefyll ysgwydd wrth ysgwydd i roi – cymorth nid cardod."