English icon English

Prosiect 'trawsnewidiol' yn cadw teuluoedd gyda'i gilydd yn y Gorllewin

‘Transformative’ project keeping families together in West Wales

Mae teuluoedd sy'n agored i niwed yn y Gorllewin yn cael cymorth hanfodol drwy brosiect Camu i’r Adwy Cyn Camu Yn Ôl y Rhwydwaith Maethu, sy'n helpu plant i aros gyda'u rhieni.

Dywedodd y Gweinidog Plant a Gofal Cymdeithasol - Dawn Bowden - fod y prosiect yn 'drawsnewidiol' yn ystod ei hymweliad diweddar â Sir Benfro, lle clywodd yn uniongyrchol gan deuluoedd am ei effaith.

Yn hytrach na thynnu plant oddi wrth rieni, mae gofalwyr maeth sydd wedi'u hyfforddi'n dda ym maes cymorth i deuluoedd yn darparu cefnogaeth ataliol am gyfnod cyfyngedig, ac yn gweithio ochr yn ochr â theuluoedd.

Maent yn mentora teuluoedd ac yn cynnig seibiannau byr i blant, gan greu sefydlogrwydd a rhoi amser i rieni i fynd i'r afael â'u heriau â chymorth.

Gyda chymorth £879,000 o gyllid Llywodraeth Cymru ledled Penfro a Phowys, mae'r prosiect wedi cefnogi 29 o blant i aros gartref, ac yn ddiweddar, wedi helpu un teulu i adennill gofal llwyr o'i merch a oedd gynt dan orchymyn gofal maeth.

Dywedodd y Gweinidog:

"Mae pob plentyn yn haeddu sefydlogrwydd a'r cyfle i gadw mewn cysylltiad â'i deulu pan mae'n ddiogel gwneud hynny.

"Mae Camu i'r Adwy Cyn Camu yn Ôl yn brosiect trawsnewidiol sy'n cyd-fynd â'n gweledigaeth i greu newid sylfaenol i wasanaethau plant yng Nghymru. Mae'n golygu bod llai o blant yn cyrraedd y system ofal ac yn sicrhau bod y rhai sy'n cael cymorth yn aros mor agos at gartref â phosibl.

"Drwy weithio ochr yn ochr â rhieni, mae'r prosiect yn gwella canlyniadau i blant, gan helpu teuluoedd i aros gyda'i gilydd.

Gall gofalwyr maeth 'gamu i'r adwy' pan fydd teuluoedd angen mwy o help a 'chamu yn ôl' pan fydd rhieni mewn lle gwell i gefnogi eu plant.”

Dywedodd y gofalwyr maeth Lindsey ac Alistair:

"Rydyn ni wedi bod yn maethu ers blynyddoedd ac wedi gweld y gall diwedd cyfnod maethu fod yn brofiad braf pan fydd cysylltiad da wedi'i wneud gyda'r teulu. Mae Camu i’r Adwy Cyn Camu Yn Ôl yn gadael i ni feithrin y cysylltiad hwnnw am ychydig yn hirach.

"Rydyn ni'n hoffi helpu pobl i ddod drwy gyfnodau anodd, eu helpu i sylweddoli eu bod nhw'n well am wneud pethau nag y maen nhw'n ei feddwl. Pan mae hynny'n ddiogel, mae cadw teuluoedd gyda'i gilydd yn gallu rhoi gwell dyfodol i blant."