English icon English

Prosiectau ail-ddefnyddio ac atgyweirio ym Mhowys yn helpu Cymru i ddod yn ailgylchwr orau’r byd

Mae prosiectau ail-ddefnyddio ac atgyweirio ym Mhowys yn helpu cais Llywodraeth Cymru i wneud Cymru yn arweinydd byd-gyfan yn yr Economi Gylchol.

Cadw nwyddau ac eitemau mewn defnydd am mor hir ag sy’n bosib yw nod yr Economi Gylchol - ac osgoi gwastraff trwy ailgylchu defnydd i greu cynnyrch newydd, neu drwsio nwyddau yn hytrach na phrynu nwyddau newydd.

Dros y flwyddyn ddiwethaf, mae Llywodraeth Cymru eisoes wedi cynyddu'r cyllid ar gyfer prosiectau economi gylchol yn gyflym o £6.5 miliwn i £43 miliwn. Mae hyn wedi cefnogi 180 o fentrau ym mhob rhan o Gymru, gan ddod â chymunedau at ei gilydd i drwsio eu nwyddau sydd wedi torri, ailddosbarthu bwyd iachus a fyddai fel arall wedi cael ei daflu, neu ail-bwrpasu potiau a phlastigau i wneud dodrefn ar gyfer y cartref.

Cymru eisoes yw’r drydedd wlad orau ar gyfer ailgylchu yn y byd - nod y strategaeth newydd yw gwneud Cymru'r gyntaf yn y byd.

Mae’r strategaeth “Mwy Nag Ailgylchu” - a’i cyhoeddwyd heddiw - yn nodi sut y gallwn adeiladu ar lwyddiant Cymru fel gwlad ailgylchu yn ein hymateb i heriau parhaus pandemig COVID-19 a'r argyfwng hinsawdd.

Mae hyn yn cynnwys ymrwymiad i hyrwyddo newid sylweddol ym maes caffael yn y sector cyhoeddus, gwerth £6.7 biliwn y flwyddyn yng Nghymru, gyda busnesau carbon isel sy'n defnyddio adnoddau mewn modd effeithlon yn cael blaenoriaeth ar gyfer tendrau sy'n defnyddio arian cyhoeddus.

Dywedodd Lesley Griffiths, Gweinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig:

"Drwy ein helpu i reoli ein hadnoddau, bydd y camau a nodir yn y strategaeth 'Mwy nag Ailgylchu' yn ein helpu i hyrwyddo ein hadferiad gwyrdd o bandemig y coronafeirws, Brexit ac effaith yr argyfwng hinsawdd - yn ogystal â chwarae rhan hanfodol ac angenrheidiol yn ein taith tuag at ddod yn genedl carbon sero-net erbyn 2050.

"Ond yn ogystal â'n helpu i wynebu'r heriau hynny, mae'r strategaeth hefyd yn nodi sut mae hyn yn gyfle gwych i Gymru.

"Gall ein Heconomi Gylchol arwain y byd, a helpu busnesau nid yn unig i wella’r ffordd rydym yn defnyddio adnoddau yn y wlad hon, ond hefyd i gystadlu'n rhyngwladol.

"Mae gwaith gwych eisoes yn cael ei wneud ledled Cymru lle mae'n chwarae rhan allweddol yn ein hadferiad gwyrdd o'r pandemig. Mae gennym sector busnes gwyrdd sy'n tyfu ac sy'n helpu i hybu ein cadernid economaidd, a mentrau cymdeithasol ac elusennau sy'n helpu cymunedau i gadw eitemau a’u defnyddio cynifer o weithiau ag y bo modd, a chefnogi aelwydydd sy'n wynebu cyllidebau tyn.

"Mae'r economi fyd-eang yn ystyried potensial yr Economi Gylchol, ond yma yng Nghymru rydym mewn sefyllfa wych i arwain. Rwy’n falch i weld prosiectau ym Mhowys yn ein helpu ni tuag at ein gôl”

Diwedd