Prosiectau arloesol sy'n helpu pobl i addasu eu bywydau oherwydd y coronafeirws
Innovative projects helping people adapt their lives around coronavirus
Mae cyfres newydd o apiau yn helpu oedolion ac unigolion bregus sydd ag anghenion addysgol arbennig ac anableddau i addasu eu bywydau i ymateb i’r heriau sy'n gysylltiedig â’r coronafeirws.
Gyda chefnogaeth Llywodraeth Cymru, mae'r apiau 'COVID-19: Cadw'n Ddiogel' wedi'u creu i helpu oedolion â gofynion ychwanegol i ddod yn gyfarwydd â gorchuddion wyneb, ymbellhau cymdeithasol a iechyd a lles fel y gallant fyw'n annibynnol mewn amgylchedd mwy diogel.
Mae'r apiau, sy'n unigryw o ran gallu cael eu haddasu ar gyfer anghenion pob defnyddiwr unigol, wedi'u creu gan Starfish Labs, sy'n gwmni technoleg newydd, sydd wedi'i leoli yn ArloesiAber, y Ganolfan Arloesi a gefnogir gan Lywodraeth Cymru ym Mhrifysgol Aberystwyth.
Mae Llywodraeth Cymru wedi darparu mwy na £60,000 tuag at ddatblygu'r apiau drwy ei chynllun ymchwil datblygu ac arloesi ymateb cyflym i Covid-19.
Meddai Neil Bevan, cyfarwyddwr Starfish Labs: "Nid yw'r rhan fwyaf y canllawiau ar y pandemig mewn fformat hygyrch i bobl ag anawsterau dysgu. Mae'r newidiadau parhaus yn y rheolau a'r canllawiau cloi yn ddryslyd i lawer o bobl. Mae'r apiau'n caniatáu i ofalwyr ddefnyddio lluniau a fideos o fasgiau, basn ymolchi, hylif diheintio dwylo ac amgylchedd lleol y defnyddiwr ei hun i wneud y rheolau'n llawer mwy perthnasol a dealladwy i'r defnyddiwr.
"Rydyn ni’n falch o fod yn datblygu'r apiau yn y Gymraeg, yn ogystal â’r Saesneg, i helpu pobl sy'n agored i niwed yn ein cymunedau yn eu hiaith eu hunain."
Mae'r apiau 'COVID-19: Cadw'n Ddiogel' yn rhan o nifer o brosiectau arloesol y mae Llywodraeth Cymru wedi bod yn eu cyd-ariannu i helpu pobl i ymaddasu i'r heriau sy'n gysylltiedig â’r coronafeirws.
Mae busnesau Cymru wedi ymateb yn rhyfeddol i alwadau i helpu i gadw Cymru'n ddiogel ac, mewn partneriaeth â Llywodraeth Cymru, mae eu hymdrechion wedi gweld nifer o gynhyrchion a gwasanaethau'n cael eu cyflwyno.
Mae'r cwmni technoleg feddygol o Gwmbrân, Airquee Ltd wedi derbyn cymorth gan Lywodraeth Cymru i addasu a chynyddu'r gwaith o gynhyrchu dyfais AerosolShield.
Gellir defnyddio'r babell amddiffynnol mewn eiliadau i orchuddio pen ac ysgwyddau claf, ac mae eisoes yn helpu i amddiffyn staff a gofalwyr GIG Cymru rhag Covid-19 a heintiau eraill.
Mae Celtic Wellbeing Ltd yng Nghonwy hefyd wedi datblygu sebon solet gwrthfacterol naturiol fel dewis amgen mwy ecogyfeillgar i naill ai jeliau neu sebon hylifol sydd angen deunydd pacio plastig.
Gyda mwy na £23,000 o gymorth gan Lywodraeth Cymru, mae Celtic Wellbeing yn defnyddio olew a darnau o blanhigion gyda rhinweddau gwrthfeirysol hysbys i hybu effeithiolrwydd.
Mae'r tri prosiect hwn yn rhan o nifer o gynhyrchion a gwasanaethau arloesol y mae Llywodraeth Cymru yn cael cymorth gyda gwerth £5m o gymorth ariannol.
Dywedodd Ken Skates, Gweinidog yr Economi, Trafnidiaeth a Gogledd Cymru: "Mae'r prosiectau hyn yn hanfodol i helpu ein pobl i ddelio â coronafeirws ac rwy'n falch bod Llywodraeth Cymru wedi gallu eu cefnogi.
"Mae busnesau ledled Cymru wedi bod o gymorth mawr ers dechrau'r pandemig ac mae'r prosiectau hyn yn dangos hynny'n glir.
"Rydym wedi ymrwymo i gadw Cymru'n ddiogel a’r cynhyrchion a’r gwasanaethau gwych hyn yw rhai o'r pethau sy'n cael eu datblygu i sicrhau hynny.
"Hoffwn ddiolch i'r gymuned fusnes gyfan yng Nghymru am y ffordd y mae wedi addasu a'r gwydnwch y mae wedi'i ddangos yn ystod y flwyddyn hynod anodd hon."