Prosiectau i helpu i wneud yr economi gylchol yn realiti i Gymru wedi'u cyhoeddi
New scheme to help people in Wales build their own home
Mae peiriant gwerthu i'r gwrthwyneb ym Mhrifysgol Abertawe, sy’n bwriadu cynyddu nifer y poteli plastig sy'n cael eu hailgylchu drwy ddefnyddio cymhellion, ymhlith y prosiectau newydd a ariennir gan Lywodraeth Cymru a fydd yn helpu Cymru i arwain y byd o ran ailgylchu.
Mae'r 34 o brosiectau sy'n cael eu datgan heddiw gan y Dirprwy Weinidog dros Dai a Llywodraeth Leol, Hannah Blythyn, yn rhan o ymdrechion Llywodraeth Cymru i symud Cymru tuag at economi gylchol.
I helpu i wireddu'r weledigaeth honno, mae Llywodraeth Cymru wedi creu 'Cronfa'r Economi Gylchol' gwerth £6.5 miliwn ar gyfer awdurdodau lleol a chyrff cyhoeddus.
Mae'r gronfa yn rhan o gamau gweithredu Llywodraeth Cymru i sicrhau bod Cymru ar flaen y gad o ran ailgylchu gan sicrhau gwastraff sero net erbyn 2050; fel y nodwyd yn Mwy nag Ailgylchu, y strategaeth newydd ar yr economi gylchol.
Nod y gronfa yw helpu i gael gwared yn raddol ar blastig untro, gwneud casgliadau gwastraff yn wyrddach, osgoi gwastraff bwyd, blaenoriaethu'r defnydd o bren ac ail-wneud neu ailgylchu mwy.
Enghreifftiau o brosiectau a gefnogir drwy rownd gyntaf y gronfa yw:
- 14 o ysgolion yng Ngheredigion a fydd yn gosod peiriannau llaeth a chwpanau y gellir eu hailddefnyddio yn lle defnyddio poteli llaeth a gwellt plastig, mewn ymgais i weld 1,979 yn llai o boteli a gwellt plastig yn cael eu defnyddio bob dydd, neu 376,010 ar gyfer pob blwyddyn ysgol;
- Bydd Canolfan Ailddylunio, Ailweithgynhyrchu ac Ailddefnyddio Prifysgol Caerdydd yn cefnogi ac yn hyrwyddo ailweithgynhyrchu drwy addysgu unigolion a chwmnïau am ailweithgynhyrchu yng Nghymru, a sut y gallant adfywio cynhyrchion i'w defnyddio eto;
- Ardaloedd Gwastraff Cynaliadwy ar draws Gwasanaeth Ambiwlans Cymru, i leihau allyriadau carbon a gwastraff rhag mynd i safleoedd tirlenwi drwy gynyddu'r ardaloedd storio allanol ar gyfer biniau;
- Ynys Môn Lân a Gwyrdd i wella cyfleusterau mewn safleoedd ailgylchu i'w gwneud yn haws ac yn ddiogelach i'r cyhoedd, yn ogystal â buddsoddi mewn mwy o fagiau gwastraff bwyd;
- Menter Ailgylchu Mannau Agored Cyngor Bwrdeistref Sirol Castell-nedd Port Talbot i gynyddu nifer y biniau ailgylchu yng nghanol trefi ac ardaloedd eraill sy'n cael nifer uchel o ymwelwyr;
- Peiriant byrnio ychwanegol yng Ngorsaf Trosglwyddo Aberhonddu i wella effeithlonrwydd y safle ac i gynnal y gwasanaeth yn y tymor hir; a
- Gwneud casgliadau gwastraff yn Sir Benfro yn wyrddach drwy ariannu peiriant byrnio newydd a gwell cyfleusterau ar gyfer gwastraff gardd.
Dywedodd Hannah Blythyn, y Dirprwy Weinidog Tai a Llywodraeth Leol:
"Dros y ddegawd diwethaf, mae Cymru wedi gwneud cynnydd arwyddocaol ac wedi arwain y ffordd o ran rheoli gwastraff a defnyddio adnoddau’n effeithlon. Fodd bynnag, i fynd i'r afael â'r newid yn yr hinsawdd ac i achub ar y cyfleoedd economaidd i greu Cymru fwy gwyrdd, cyfartal a ffyniannus, mae angen inni symud tuag at economi fwy cylchol. Mae hynny'n golygu bod angen inni wneud mwy nag ailgylchu.
"Os ydym am gyflawni hyn, mae'n bwysig ein bod yn cefnogi cyrff cyhoeddus fel awdurdodau lleol, ysgolion, ysbytai a phrifysgolion i'w galluogi i addasu a throsglwyddo i economi gylchol.
"Bydd y 30 prosiect newydd a mwy yr ydym yn eu hariannu nid yn unig yn cefnogi camau gweithredu ar lawr gwlad, ond hefyd yn arwain at arferion da a dysgu y gallwn eu defnyddio ar draws Cymru."
Mae Rownd 1 cyllideb 2019/2020 wedi'i chynnal gyda £3,694,584 wedi'i ddyrannu. Bwriedir lansio Rownd 2 ym mis Ebrill 2020 i ddyrannu cyllideb 2020/21.
DIWEDD