English icon English
Volunteers with Radnorshire Wildlife Trust removing non-native trees as part of the Black Grouse Recovery Project-2

Prosiectau sy’n hybu bioamrywiaeth, sy’n gweddnewid mannau gwyrdd ac sy’n lleihau gwastraff yn elwa ar gyllid dan y cynllun cymunedau tirlenwi

Projects boosting biodiversity, transforming green spaces and reducing waste benefit from landfill community scheme funding

Gwella’r fioamrywiaeth ar hen domen wastraff, creu parc natur ac uwchgylchu beiciau nad oes eu heisiau yw rhai o’r prosiectau a fydd yn elwa ar fwy na £700,000 o gyllid oddi wrth Lywodraeth Cymru.

Gwella’r fioamrywiaeth ar hen domen wastraff, creu parc natur ac uwchgylchu beiciau nad oes eu heisiau yw rhai o’r prosiectau a fydd yn elwa ar fwy na £700,000 o gyllid oddi wrth Lywodraeth Cymru.

Dewiswyd cyfanswm o 16 o brosiectau ym mhob cwr o Gymru yn y trydydd cylch cyllido dan Gynllun Cymunedau y Dreth Gwarediadau Tirlenwi  (LDTCS).

Mae’r cynllun, sy’n cael ei reoli gan Gyngor Gwasanaethau Gwirfoddol Cymru   (CGGC), yn darparu cyllid ar gyfer prosiectau lleol sy’n werth rhwng £5,000 a £50,000.

Sefydlwyd y cynllun er mwyn helpu gyda phrosiectau cymunedol ac amgylcheddol lleol mewn ardaloedd yr effeithir arnynt gan waith gwaredu sbwriel mewn safleoedd tirlenwi, gan wneud iawn am rai o’r effeithiau negyddol sy’n gysylltiedig â byw ger safle tirlenwi. Mae’nc ae lei ariannu gan y Dreth ar Warediadau Tirlenwi yng Nghymru, a gyflwynwyd yn lle Treth Dirlenwi’r DU ym mis Ebrill 2018. 

Treth ar waredu gwastraff mewn safleoedd tirlenwi yw’r Dreth Gwarediadau Tirlenwi sy’n cael ei chodi yn ôl pwysau.

Bydd prosiectau llwyddiannus a fydd yn canolbwyntio ar wella’r amgylchedd, bioamrywiaeth a bywyd gwyllt, a hefyd ar leihau ac ailddefnyddio gwastraff, yn cael hyd at £50,000 yr un.  

Dyma rai o’r prosiectau a fydd yn elwa ar y cyllid:

  • Bydd Groundwork Gogledd Cymru yn cael £49,800 i wella’r fioamrywiaeth ar fan agored cyhoeddus a grëwyd o’r hen domen sbwriel yng Nglofa Plas Power ger Wrecsam.
  • Bydd Innovate Trust yn cael £49,000 i helpu oedolion ag anableddau dysgu i gymryd rhan mewn gweithgareddau awyr agored a fydd yn gwella’r fioamrywiaeth ar fannau gwyrdd ar draws Caerdydd a Bro Morgannwg.
  • Bydd Cadwch Gymru’n Daclus yn cael £32,000 i wella rhan o Gomin Merthyr a Gelli-gaer sydd wedi dioddef cryn dipyn oherwydd effeithiau tipio anghyfreithlon ac ymddygiad gwrthgymdeithasol.
  • Bydd Llyn Parc Mawr yn elwa ar £46,700 er mwyn creu parc natur at ddibenion bioamrywiaeth a llesiant ar Ynys Môn.
  • Bydd Refurbs Sur y Fflint yn cael bron £50,000 er mwyn achub ac anewyddu beiciau nad oes eu heisiau ac a fyddai, fel arall, yn cael eu gwaredu fel gwastraff, fel y bo modd eu gwerthu am bris y gall pobl ei fforddio.

Gellir cyflwyno ceisiadau dan Gynllun Cymunedau’r Dreth Gwarediadau Tirlenwi (LDTCS) yn ystod dau gyfnod cyllido bob blwyddyn, a bydd modd cyflwyno ceisiadau dan y pedwerydd cylch cyllido tan 13 Ionawr. Bydd pumed cylch cyllido yn dechrau yn y gwanwyn.

Dywedodd Gweinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig, Lesley Griffiths:

“Bydd y prosiectau a fydd yn llwyddo i gael cyllid yn dod â budd i gymunedau ledled Cymru. Byddan nhw nid yn unig yn hybu bioamrywiaeth ac yn gwella’r amgylchedd lleol, ond byddan nhw hefyd yn helpu grwpiau lleol i fwynhau’r awyr agroed a lleihau gwastraff a fyddai, fel arall, yn mynd i safleoedd tirlenwi. ”  

Dywedodd y Gweinidog Cyllid a’r Trefnydd, Rebecca Evans: “Rwy’n falch i weld Treth Gwarediadau Tirlenwi yn cefnogi mwy o brosiectau ardderchog. Bydd manteision y cynllun hwn yn cael eu profi am genedlaethau i ddod a hoffwn i annog pobl eraill sy’n gymwys i wneud cais am gyllid cyn i’r cylch cyllido ddod i ben yn ddiweddarach yn y mis.”

Dywedodd Catherine Miller, Rheolwyr Cronfeydd Grant CLlLC:

“Mae prosiectau a gafodd gyllid yn 2018-19 eisoes wedi gwneud cyfraniadau enfawr i’r amgylchedd ar draws Cymru. Rydyn ni’n edrych ’mlaen yn fawr i weld yr hyn a fydd yn cael ei gyflawni drwy’r gweithgarwch cymunedol a fydd yn digwydd, diolch i’r cylch diweddara’ hwn o ddyfarniadau, ac yn edrych ’mlaen hefyd at weld yr effaith gadarnhaol bydd y grantiau hyn yn ei chael ar yr amgylchedd.”

Nodiadau i olygyddion

Please find attached a picture of Volunteers with Radnorshire Wildlife Trust removing non-native trees as part of the Black Grouse Recovery Project. 

Successful projects gaining funding in the third round of the scheme include:

Dyfarniadau Grant – Rownd 3 2019-20

 

Sefydliad

Thema

Lleoliad

Disgrifiad o’r prosiect

Grant a Ddyfarnwyd

Ymddiriedolaeth Chardon

Gwelliannau Amgylchedd Ehangach

Conwy

Gardd bioamrywiaeth sydd â phwll a phlanhigion cynhenid gan greu ystafell ddosbarth y tu allan a man gwyrdd cymunedol i ymgysylltu gwirfoddolwyr, ysgolion, ymwelwyr a’r gymuned. Gweithgareddau: Dylunio, garddio, creu Llyfr Nodiadau Maes, gweithdai bywyd gwyllt, sefydlu gwyddoniaeth dinasyddion yn y diwylliant dysgu, cynnig gweithgareddau addysgol a therapiwtig ac yn safle i hyrwyddo lles.                                                          

£38,595

Clwb Criced Clydach

Gwelliannau Amgylchedd Ehangach

Abertawe

Y bwriad yw moderneiddio, gwella ac ymestyn maint y clwb cymunedol, creu amgylchedd diogel, croesawgar a chymdeithasol sy’n effeithlon o ran ynni a gwastraff.           

           

£25,000

Cyngor Sir y Fflint

Gwelliannau Amgylchedd Ehangach

Sir y Fflint

Parc cyhoeddus yw Bailey Hill sydd wedi’i leoli yn nhref farchnad hanesyddol Yr Wyddgrug, Sir y Fflint.  Gellir gweld adfeilion Mwnt Normanaidd a Chastell Bailey yn y canol. Nod ein prosiect yw adnewyddu ac uwchraddio’r parc er mwyn creu man hygyrch, diogel a hyfyw; gan ddatgelu ei hanes rhyfeddol.

£49,600

Green Squirrel

Gwelliannau Amgylchedd Ehangach

Caerdydd

Hyb cymunedol a man gwyrdd yw Common Ground gan drigolion ac ar gyfer trigolion y Sblot ac Adamsdown, sy’n trawsnewid hen safle er mwyn i drigolion lleol allu dysgu sgiliau newydd, tyfu bwyd, cysylltu â’r gymuned a’r amgylchedd naturiol, a dod o hyd i atebion cadarnhaol i faterion lleol.                      

                                   

£49,999

Groundwork Gogledd Cymru

Bioamrywiaeth / Gwelliannau Amgylchedd Ehangach

Wrecsam

Bydd ein prosiect yn gwella man agored cyhoeddus ymhellach a grëwyd ar hen domen rwbel Pwll Glo Plas Power ger Wrecsam. Bydd hyn o gymorth gyda bioamrywiaeth, deall cynefinoedd a rhywogaethau, a darparu gwell cyfleoedd i bobl o bob oedran ddysgu, defnyddio a mwynhau.

£49,816

Canolfan Hamdden Harlech ac Ardudwy

Gwelliannau Amgylchedd Ehangach

Gwynedd

Cynorthwyo’r ganolfan hamdden sy’n cael ei rhedeg gan y gymuned i gyfrannu ac ymgysylltu â’r gymuned leol drwy wella’r mannau gwyrdd y tu allan ac effeithlonrwydd ynni yr adeilad. Cyflenwi gweithgareddau addysgol a rhannu gwybodaeth er mwyn cynorthwyo ac annog mwy o ymwybyddiaeth amgylcheddol.

£49,722

Innovate Trust

Bioamrywiaeth

Caerdydd

Cynorthwyo oedolion ag anableddau dysgu, problemau iechyd meddwl ac oedolion ar y sbectrwm awtistiaeth i gymryd rhan mewn gweithgareddau awyr agored sy’n gwella bioamrywiaeth mewn mannau gwyrdd ledled Caerdydd a Bro Morgannwg. Bydd hyn yn gwella lles unigolion a byddant yn dod i ddeall gwerth y byd naturiol.

£49,038

Cadwch Gymru’n Daclus

Gwelliannau Amgylchedd Ehangach

Merthyr Tudful

Bydd y prosiect hwn yn gwella rhan o Gytir Merthyr a Gelligaer sy’n bwysig o ran treftadaeth a mannau gwyrdd. Caiff yr ardal hon ei heffeithio’n arw gan dipio anghyfreithlon ac ymddygiad gwrthgymdeithasol a bydd y prosiect yn mynd i’r afael â’r materion hynny drwy addysg, atal cerbydau anghyfreithlon, treftadaeth ac adfer cynefin.                     

£32,019

Llyn Parc Mawr

Bioamrywiaeth /

Gwelliannau Amgylchedd Ehangach

Ynys Môn

Mae’r prosiect yn cynnwys y gymuned i greu parc natur hardd at ddibenion bioamrywiaeth a lles gan ddarparu ystod o gyfleoedd gwirfoddoli ac addysg i bob oedran. Bydd y prosiect yn trawsnewid rhan o goetir 4 hectar a gynaeafwyd yn ddiweddar drwy blannu coed a chreu llwybr coetir a mannau dysgu newydd.                      

           

£46,742

Adran Cefn Gwlad Cyngor Bwrdeistref Sirol Merthyr Tudful

Bioamrywiaeth / Gwelliannau Amgylchedd Ehangach

Merthyr Tudful

Adfer treftadaeth ddiwylliannol a naturiol ym mharciau cyhoeddus Merthyr Tudful a diogelu eu dyfodol ac felly’n eu cyfoethogi er budd cymdeithasol, amgylcheddol ac economaidd.

£49,995

Plwyf Aberdâr –

Prosiect Treftadaeth Gymunedol Sant Elvan

Gwelliannau Amgylchedd Ehangach

Rhondda Cynon Taf

Cyfleuster croesawgar yng nghanol Aberdâr yw Prosiect Treftadaeth Gymunedol Sant Elvan. Darperir profiad o dreftadaeth i ymwelwyr yn yr eglwys gofrestredig Gradd II* a cheir Caffi/Toiledau yn yr Hyb cymunedol. Bydd hefyd yn ganolfan i grwpiau o ymwelwyr, digwyddiadau cymunedol, gweithgareddau diwylliannol, a mynediad at ddysgu a gwirfoddoli.

£34,000

Play Radnor

Gwelliannau Amgylchedd Ehangach

Powys

Ein nod yw ehangu a gwella’r adeilad cymunedol hwn a’r man y tu allan i gyd-fynd ag anghenion y gymuned leol yn well, gan roi gwell mynediad i’r rhai ag anableddau. Bydd y gwelliannau hyn yn cynyddu cynaliadwyedd yr adeilad, yn gwella effeithlonrwydd ynni, ac yn darparu man cymunedol croesawgar i bawb.                       

           

£49,999

Refurbs Sir y Fflint

Lleihau Gwastraff

Mwy nag un Sir

Bydd ein prosiect yn adfer ac yn adnewyddu beiciau diangen a fyddai’n cael eu taflu fel gwastraff, i’w gwerthu am bris fforddiadwy.  Byddwn hefyd yn ymgysylltu â’r gymuned drwy gynnal digwyddiadau i ddysgu sgiliau atgyweirio/cynnal a chadw beiciau sylfaenol, a gweithdai celf a dylunio er mwyn gwneud eitemau unigryw o wahanol rannau o feic sydd wedi torri.                                                  

£49,996

South Riverside Community Development Centre Limited

Bioamrywiaeth

Caerdydd

Bydd y Weirglodd yn creu ffynhonnell fwyd bwysig ar gyfer pryfed peillio ac yn creu un o gonglfeini prosiect hirdymor i greu traffordd bioamrywiol rhwng Parc Bute a Choed Lecwydd ac fe fydd yn darparu llwybr mynediad ‘a gynlluniwyd’ rhwng Canol Sir Caerdydd a Bro Morgannwg.

£48,096

Elfennau Gwyllt CBC

Bioamrywiaeth / Lleihau Gwastraff / Gwelliannau Amgylchedd Ehangach

Gwynedd

Drwy’r Clwb Garddio Lles, Pryfed Peillio, Pobl a Llefydd gellir:

·       Ymestyn cyfleusterau hamdden a dysgu cymunedol

·       Darparu profiad gwaith a hyfforddiant achrededig

·       Ymestyn cynefinoedd i gynyddu bioamrywiaeth

·       Cynyddu’r broses o ymgysylltu â’r cyhoedd a deall pryfed peillio, bioamrywiaeth a’r amgylchedd

·       Cynyddu’r broses o ymgysylltu â Chanolfan Fotaneg Treborth ac Elfennau Gwyllt                                      

£47,099

Tir Gwyllt

Bioamrywiaeth / Gwelliannau Amgylchedd Ehangach

Wrecsam                 

Ceir cymysgedd o ddigwyddiadau gwirfoddoli, cymunedol, diwrnodau hyfforddi a gweithgareddau sy’n ymwneud â bywyd gwyllt mewn tair gwarchodfa natur yn Johnstown fel rhan o’r prosiect ‘Wild About Johnstown’. Bydd hyn yn sicrhau bod ymweld â’r safleoedd yn fwy pleserus, yn gwella cynefinoedd bywyd gwyllt, ac yn rhoi cyfle i bob aelod o’r gymuned gymryd rhan.                                                 

£49,958