Rhagflas o’r gyllideb
Budget Overnight Trail
- Bydd Cyllideb Ddrafft Llywodraeth Cymru 2026-27, a fydd yn cael ei chyhoeddi yn nes ymlaen heddiw, yn amlinellu cynlluniau gwariant gwerth mwy na £27 biliwn ar gyfer gwasanaethau cyhoeddus.
- Heddiw yw cam cyntaf y Gyllideb Ddrafft, pan fydd y dyraniadau lefel uchel ar gyfer pob adran yn cael eu cyhoeddi.
- Bydd cam nesaf y Gyllideb Ddrafft, sy’n cynnwys cynlluniau gwariant adrannol manylach, yn cael ei gyhoeddi ar 3 Tachwedd.
- Bydd y Senedd yn pleidleisio ar y Gyllideb Derfynol ym mis Ionawr 2026.
Nodiadau i olygyddion
Amserlen ar gyfer y Gyllideb Ddrafft:
- 14 Hydref 2025 Cyhoeddi'r Gyllideb Ddrafft (cam 1). Amlinellu dyraniadau lefel uchel yn ôl Prif Grwpiau Gwariant (MEG) ar gyfer pob un o adrannau Llywodraeth Cymru.
- 3 Tachwedd 2025 Cyhoeddi'r Gyllideb Ddrafft Manwl (cam 2), nodi cynlluniau gwariant yn ôl llinellau gwariant yn y gyllideb (BEL) ar gyfer pob un o adrannau Llywodraeth Cymru.
- 26 Tachwedd 2025 Cyllideb yr Hydref ar gyfer y DU
- Diwedd Tachwedd 2025 Cyhoeddi'r setliad llywodraeth leol drafft (dyddiad i'w gadarnhau)
- 20 Ionawr 2026 Cyhoeddi'r Gyllideb Derfynol.
Cyhoeddi'r setliad terfynol ar gyfer llywodraeth leol
- 27 Ionawr 2026 Dadl a phleidlais ar y Gyllideb Derfynol
Pleidlais ar gynigion treth
Pleidleisio ar y setliad llywodraeth leol
Yng nghyllideb Llywodraeth Cymru:
Ystyr MEG yw Prif Grŵp Gwariant. Dyma sut mae Llywodraeth Cymru yn categoreiddio ei dyraniadau gwariant ar draws y prif bortffolios fel Iechyd a Gofal Cymdeithasol, Addysg, Trafnidiaeth, a mwy. Mae pob MEG yn cynnwys gwariant ar adnoddau (costau gweithredu o ddydd i ddydd), a gwariant cyfalaf (buddsoddiadau tymor hir fel seilwaith).
Ystyr BEL yw Llinell Wariant yn y Gyllideb. Mae'r rhain yn darparu mwy o fanylion am sut mae arian yn cael ei ddyrannu ar lefel fanwl.