English icon English

Rhaglen beilot i fesur lefelau coronafeirws mewn gwaith trin dŵr gwastraff

Pilot programme to measure coronavirus prevalence in waste water treatment plants

Mae’r Gweinidog Iechyd Vaughan Gething wedi cadarnhau bod bron i hanner miliwn o bunnau wedi’i roi i raglen beilot a fydd yn tynnu sylw at arwyddion cynnar o’r coronafeirws yng Nghymunedau Cymru drwy fonitro’r systemau carthffosiaeth.

Gall monitro lefelau coronafeirws yn rheolaidd mewn gwaith trin dŵr gwastraff roi awgrym o’r gyfradd heintio yn y gymuned a rhoi arwydd cynnar bod coronafeirws yn bresennol.

Mae Sefydliad Iechyd y Byd wedi nodi’n glir nad oes unrhyw dystiolaeth ar hyn o bryd bod coronafeirws wedi cael ei drosglwyddo drwy’r system garthffosiaeth.

Mae Llywodraeth Cymru wedi rhoi’r cyllid i gonsortiwm dan arweiniad Prifysgol Bangor, gyda Phrifysgol Caerdydd, Iechyd Cyhoeddus Cymru a Dŵr Cymru.

Byddant yn datblygu rhaglen fonitro a all fesur y lefelau o’r feirws SARS-CoV-2 sy’n bresennol mewn dŵr gwastraff. Mae presenoldeb SARS-CoV-2 mewn gwastraff dynol yn gyffredin yn bron bob achos o coronafeirws a gadarnhawyd.

Bydd y rhaglen beilot yn cael ei hariannu am chwe mis i ddechrau, a bydd gwaith samplo yn dechrau bron yn syth mewn nifer fach o leoliadau gwaith trin dŵr, gan ehangu yn gyflym i hyd at 20 o leoliadau sy’n gwasanaethu tua 75% o boblogaeth Cymru.

Wrth fonitro ar gyfer coronafeirws, bydd y systemau hefyd yn gallu canfod a oes mathau eraill o feirysau anadlol hefyd yn bresennol, a bydd hyn o gymorth i fonitro iechyd y cyhoedd.

Dywedodd y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, Vaughan Gething: “I atal lledaeniad coronafeirws mae angen inni ei fesur yn ein cymunedau a monitro newidiadau. Bydd y rhaglen beilot hon yn ein galluogi i ddatblygu system rhybudd cynnar i’n hysbysu am y lefelau o haint coronafeirws yn y gymuned. Bydd hyn yn ategu ein rhaglenni iechyd y cyhoedd ehangach, gan gynnwys profion.

“Mae’r cyllid yn rhoi cyfle i adeiladu ar y cryfderau a’r partneriaethau sydd gennym ar hyn o bryd yng Nghymru ym maes gwyddorau’r amgylchedd, gwyliadwriaeth ar glefydau, a genomeg pathogenau. Mae’n bleser gennyf fod yn gweithio gyda phartneriaid ar draws Cymru.”

Dywedodd yr Athro Iwan Davies, Is-Ganghellor Prifysgol Bangor:

“Rwy’n falch y bydd y gwaith monitro amgylcheddol arloesol hwn, sy’n cyfuno gwahanol feysydd arbenigedd yn ein Coleg Gwyddorau’r Amgylchedd a Pheirianneg, yn cyfrannu at waith hollbwysig y wlad i ddiogelu cymunedau rhag COVID-19 ac achosion pellach o goronafeirws a feirysau heintus eraill.”

Dywedodd Steve Wilson, Rheolwr Gyfarwyddwr Gwasanaethau Dŵr Gwastraff Dŵr Cymru: “Rydym yn falch iawn o fod yn rhan o’r rhaglen beilot hon a fydd yn chwarae rôl mor bwysig wrth helpu i ganfod presenoldeb coronafeirws mewn ardaloedd yn y dyfodol. Bydd hyn yn adeiladu ar y bartneriaeth lwyddiannus sydd gennym eisoes â Phrifysgol Bangor ar yr ymchwil a wnaeth y Brifysgol i bresenoldeb olion o’r feirws mewn dŵr gwastraff. Bydd hyn hefyd yn adeiladu ar y berthynas waith gadarn sydd gennym eisoes â Phrifysgol Caerdydd.”

Dywedodd yr Athro Andrew Weightman, Pennaeth Is-adran Organebau a’r Amgylchedd yn Ysgol y Biowyddorau Prifysgol Caerdydd: “Mae cael gwybodaeth ynghylch sut mae’r feirws hwn yn lledaenu yn y gymuned yn hanfodol er mwyn gallu atal hynny, yn enwedig wrth i’r cyfyngiadau gael eu llacio. Mae monitro Sars-CoV-2 mewn dŵr gwastraff yn cynnig dull gweithredu amgen. Mae’n ffordd syml inni allu pennu lefel yr haint mewn cymuned fawr.

“Mae gwaith ymchwil yn awgrymu bod y feirws i’w ganfod mewn ysgarthion hyd at tua phythefnos cyn i bobl ddechrau cael symptomau. Felly, gellid defnyddio’r dull hwn fel system rhybuddio’n gynnar i ddangos pan fydd lefelau’r feirws yn cynyddu yn y gymuned. Bydd hyn yn ein helpu i ragweld pan fydd achosion posibl o COVID-19 yn ailymddangos ac, yn y pen draw, yn ein helpu i ddiogelu cymunedau ledled Cymru.”