English icon English
Rhys Locke-2

Rhaglen ‘bontio’ newydd ar gyfer athrawon cynradd sy’n siarad Cymraeg ac yn dymuno addysgu mewn ysgolion uwchradd

New ‘conversion’ programme for Welsh-medium primary teachers who want to teach in secondary schools

Heddiw, mae Llywodraeth Cymru wedi lansio rhaglen newydd i roi cyfleoedd i athrawon oedran cynradd sy’n siarad Cymraeg ac yn dymuno addysgu mewn ysgolion uwchradd.

Nod y rhaglen beilot yw cynyddu nifer yr athrawon sydd â’r gallu i addysgu trwy gyfrwng y Gymraeg ar lefel uwchradd, a hynny heb gael effaith niweidiol ar y capasiti i wneud hynny yn y sector cynradd. Gwelwyd cynnydd yn y galw am athrawon uwchradd sy’n gallu addysgu drwy gyfrwng y Gymraeg dros y blynyddoedd diwethaf, ac mae data yn dangos bod gennym ychydig yn fwy na’r gofyn o athrawon cynradd sy’n gallu gwneud hynny.

Mae tystiolaeth anecdotaidd yn awgrymu bod llawer o athrawon cynradd cyfrwng Cymraeg sydd newydd gymhwyso yn chwilio am swyddi addysgu parhaol, ond eu bod yn wynebu anawsterau yn cael swydd barhaol. Mae data hefyd yn awgrymu bod gan nifer sylweddol o athrawon sy’n hyfforddi i addysgu yn y sector cynradd raddau eraill sy’n addas ar gyfer addysgu yn y sector uwchradd.

Bydd y rhaglen yn darparu dewisiadau ychwanegol o ran gyrfa a datblygiad proffesiynol i’r athrawon hynny.

Bydd y rhaglen yn agored i’r holl athrawon cynradd â statws Athro Cymwysedig sy’n siarad Cymraeg ac a fyddent yn ystyried addysgu drwy gyfrwng y Gymraeg mewn ysgolion uwchradd.

Bydd y rhaglen yn cynnig lleoliad cyflogedig i hyfforddi mewn ysgol uwchradd, gan roi hyfforddiant ychwanegol iddynt ar lefel uwchradd mewn pynciau fel rheoli’r ystafell ddosbarth, cynllunio gwersi a chefnogaeth pynciau arbenigol.

Bydd ysgolion uwchradd Cymraeg a dwyieithog yn cael eu gwahodd i gymryd rhan yn y rhaglen drwy gynnig lleoliadau cyflogedig ar gyfer aelodau’r rhaglen drosi.

Dywedodd Kirsty Williams, y Gweinidog Addysg:

Bob wythnos rydw i’n ymweld ag ysgolion ledled Cymru ac yn aml rydw i’n cyfarfod ag athrawon cynradd sydd newydd gymhwyso ac sy’n chwilio am swyddi addysgu parhaol. Ac i’r gwrthwyneb, rydw i hefyd yn cyfarfod penaethiaid ysgolion uwchradd sydd wedi ei chael yn anodd recriwtio athrawon ar gyfer swyddi addysgu allweddol, yn enwedig ar gyfer rolau addysgu drwy gyfrwng y Gymraeg.

Dyma enghraifft o’r dulliau arloesol rydyn ni’n eu defnyddio i gefnogi dilyniant a datblygiad ein hathrawon, yn enwedig ar ddechrau eu gyrfaoedd, ac i sicrhau, ar yr un pryd, bod gan ein hysgolion yr adnoddau y mae arnynt eu hangen i fodloni anghenion tirwedd addysgol sy’n newid.

Mae hwn yn un ymhlith amryw o gamau rydyn ni’n eu cymryd i gadw rhagor o athrawon yn y proffesiwn ac i sicrhau bod ein hysgolion yn barod ar gyfer cyflwyno’r Cwricwlwm newydd o 2022 ymlaen.

Dywedodd Rhys Locke, athro drama yn Ysgol Gymraeg Ystalyfera Bro Dur, a oedd yn dysgu ar lefel gynradd yn flaenorol:

Roedd symud o ysgol gynradd i ysgol uwchradd yn eithaf hawdd o ran yr hyfforddiant. Fe wnes i arsylwi am rai wythnosau ac yna’n raddol fe ddechreues i addysgu, gyda chymorth cyson gan fy nghydweithwyr.

Roedd yna heriau – mae’r naid o’r cyfnod sylfaen i addysg uwchradd yn sylweddol – ond mae’r heriau hynny wedi fy ngwneud yn well athro yn y pen draw. Nawr, gallaf ganolbwyntio ar fy mhwnc, sef Drama – pwnc dw i’n hollol angerddol amdano.

Os oes gennych chi angerdd am bwnc penodol ac eisiau canolbwyntio ar hynny, gan wneud hynny yn Gymraeg hefyd, yna fy nghyngor i fyddai... ewch amdani! Wnewch chi ddim difaru - mae’n brofiad newydd gwerthfawr, un a fydd yn aros gyda chi am weddill eich oes.