Rhaglen £90 miliwn i drawsnewid trefi yng Nghymru
£90m programme to transform Wales’ towns
Bydd trefi yng Nghymru yn cael gwerth £90 miliwn o fuddsoddiad ychwanegol fel rhan o ddull gweithredu newydd ar ran Llywodraeth Cymru er mwyn trawsnewid canol trefi ledled y wlad, cyhoeddodd y Dirprwy Weinidog Tai a Llywodraeth Leol, Hannah Blythyn, heddiw.
Mae’r pecyn Trawsnewid Trefi a gyhoeddir heddiw yn cynnwys mesurau i gynyddu nifer yr ymwelwyr i ganol trefi drwy sicrhau bod y sector cyhoeddus yn lleoli gwasanaethau mewn lleoliadau canolog ynddynt, i fynd i’r afael ag eiddo gwag a thir diffaith a gwneud defnydd ohonynt unwaith eto, ac i wyrddu canol ein trefi.
Mae trefi yn hollbwysig i lesiant amgylcheddol, economaidd, cymdeithasol a diwylliannol yng Nghymru – mae tua 40% o’n poblogaeth yn byw mewn trefi bach â phoblogaeth o lai nag 20,000 ond mae bron pawb ohonom yn uniaethu yn emosiynol â thref - neu ddinas - mewn rhyw fodd neu’i gilydd. Mae llawer o drefi yn dioddef yn sgil cwymp yn y gwerthiant mewn siopau ac mae’r ffordd rydym yn defnyddio canol ein trefi wedi newid.
I helpu i adfywio canol ein trefi, heddiw mae Llywodraeth Cymru yn dadlennu dull newydd ‘Canol Trefi’n Gyntaf’ o weithredu, sy’n golygu lleoli gwasanaethau ac adeiladau yng nghanol ein trefi ym mhobman y gellir gwneud hynny. Fel rhan o’r polisi hwn, bydd pob adran o Lywodraeth Cymru yn ystyried lles a llewyrch canol ein trefi fel man cychwyn ar gyfer gwneud penderfyniad wrth ddewis lleoliadau.
Gan ddefnyddio’r egwyddor hon, mae’r sector cyhoeddus hefyd yn cael ei annog i gefnogi trefi drwy leoli swyddfeydd, cyfleusterau a gwasanaethau ynddynt er mwyn cynyddu nifer yr ymwelwyr iddynt ac i’w gwneud yn fwy bywiog, neu i gynnal eu llewyrch.
I gefnogi’r dull gweithredu newydd hwn, mae Llywodraeth Cymru yn cyhoeddi gwerth £90 miliwn o fuddsoddiadau i drawsnewid canol trefi yng Nghymru. Mae’r buddsoddiadau’n cynnwys:
- £36 miliwn i brosiectau ar gyfer adfywio canol trefi, gan ymestyn ein rhaglen gyfalaf bresennol am flwyddyn ychwanegol. Rydym yn rhagweld cyfanswm o bron i £58 miliwn o fuddsoddiad rhwng popeth;
- £13.6 miliwn i fynd i’r afael ag adeiladau gwag a rhai sydd wedi mynd â’u pen iddynt, a thir diffaith. Bydd hyn yn ei gwneud yn bosibl i awdurdodau lleol gymryd camau i orfodi gwneud defnydd o adeiladau a thir gwag drachefn;
- £2 miliwn i drefi’r arfordiri gefnogi prosiectau â gwerth disgwyliedig o £3 miliwn a fydd yn cyfrannu at adfywio canol tref / stryd fawr;
- £10 miliwn o gyllid ychwanegol i’r cynllun benthyciadau canol trefi, i roi cyfanswm o £41.6 miliwn i’r cynllun sy’n helpu i wneud defnydd newydd o adeiladau gwag, neu rai sy’n cael eu tanddefnyddio, yng nghanol trefi;
- £5 miliwn o gyllid ar gyfer Seilwaith Gwyrdd a bioamrywiaeth yng nghanol trefi. Bydd hwn yn helpu prosiectau gwyrddu a fydd o fudd i’r amgylchedd ac yn gwneud canol trefi’n lleoedd mwy deniadol i ymweld â nhw.
Mae’r pecyn Trawsnewid Trefi gwerth £90 miliwn yn ategu buddsoddiadau gwerth £800 miliwn yn ein trefi diolch i fuddsoddiadau sylweddol gan Lywodraeth Cymru ers 2014.
Gwnaeth y Dirprwy Weinidog y cyhoeddiad yn adeilad Marchnad y Frenhines yn y Rhyl, sydd wedi cael cyllid gwerth £5 miliwn gan Lywodraeth Cymru. Mae hyn yn rhan o gyfanswm o £16.5 miliwn a fuddsoddwyd yng nghanol y dref o ganlyniad i gynlluniau adfywio.
Wrth gyhoeddi’r dull newydd o weithredu yn ystod ymweliad â’r Rhyl, dywedodd Hannah Blythyn, y Dirprwy Weinidog Tai a Llywodraeth Leol:
“Mae trefi’n hynod bwysig i bobl a lleoedd Cymru, ac maen nhw’n hynod bwysig i mi, yn bersonol. Mae gennym drefi gwych yng Nghymru – trefi â hanes rhyfeddol a manteision unigryw. Ond rydyn ni eisiau i’n trefi gael dyfodol gwych yn ogystal â gorffennol gwych, ac rydyn ni’n gwybod bod rhai o’n trefi’n wynebu heriau.
“Mae’r sector manwerthu wedi crebachu’n ddramatig, ac mae’n edrych yn debygol y bydd y duedd hon yn parhau. Dyma pam y mae angen inni hoelio’n sylw eto ar ganol trefi, gan eu trawsnewid yn lleoedd sy’n addas i’r 21ain ganrif. Bydd y pecyn Trawsnewid Trefi dw i’n ei gyhoeddi heddiw yn helpu trefi i wneud hynny – gan roi hwb iddynt y mae arnynt wir ei angen.
“Fel rhan o’r pecyn hwn, rydyn ni’n cymryd camau i ailddefnyddio eiddo gwag neu ddiffaith yng nghanol ein trefi a bydd yr egwyddor Canol Trefi’n Gyntaf yn helpu i ddenu rhagor o ymwelwyr iddynt ac i’w bywiogi.
“Gyda’i gilydd, bydd y mesurau hyn yn gwneud cyfraniad sylweddol at lesiant canol ein trefi. Mae’n dangos bod y Llywodraeth hon o ddifrif ynghylch trawsnewid trefi o Fôn i Fynwy.”
Dywedodd y Cynghorydd Rob Stewart (Abertawe), Llefarydd CLlLC ar Adfywio:
“Mae canol trefi’n chwarae rôl hanfodol yng Nghymru, ac maent wedi bod yn ganolbwynt bywyd dydd i ddydd ers canrifoedd. Serch hynny, dyw hi ddim yn gyfrinach eu bod wedi wynebu anawsterau anferth dros y blynyddoedd diwethaf yn sgil siopau’n cau, siopa ar-lein, toriadau yn y sector cyhoeddus a diffyg buddsoddiad parhaus.
“Dw i’n croesawu dull gweithredu Canol Trefi’n Gyntaf. Bydd yn sicrhau bod eu pwysigrwydd strategol yn cael ei ystyried mewn unrhyw benderfyniadau newydd ynghylch buddsoddi neu gynllunio. Mae awdurdodau lleol yn cydnabod gwerth canol trefi i gymunedau cyfan, a dyma pam y mae llawer o gynghorau wedi penderfynu agor swyddfeydd dinesig newydd, swyddfeydd sector cyhoeddus, siopau un stop neu ysgolion yng nghanol eu trefi lleol.
“Er na fydd lleoliad yng nghanol tref yn addas ar gyfer pob gwasanaeth neu gyfleuster, bydd y dull hwn o weithredu yn sicrhau bod y lleoliadau hyn yn cael eu hystyried yn gyntaf, a bod rhaid dangos tystiolaeth ar gyfer unrhyw benderfyniad i ddefnyddio lleoliad arall.”