‘Rhagnodi’ cwrs preswyl meddygol tri diwrnod i ddarpar feddygon
Budding medics ‘prescribed’ a three-day medical residential
Cafodd 70 o ddarpar feddygon a deintyddion gyfle yr wythnos hon i ennill profiad ymarferol drwy fynychu profiad astudio unigryw am dri diwrnod yn nhrydydd cwrs meddygol preswyl Academi Seren gyda Phrifysgol Caerdydd.
Nod y cwrs preswyl yw rhoi cyfle i ddysgwyr Seren blwyddyn 12 o bob cwr o Gymru gael profiad ymarferol o sut beth yw astudio meddygaeth neu ddeintyddiaeth yn y brifysgol, mynychu sesiynau clinigol ymarferol a darlithoedd rhyngweithiol, dysgu gan feddygon/deintyddion ymarferol ac arbenigwyr yn y maes, a byw ar y campws fel myfyriwr israddedig go iawn.
Nod Seren yw tanio chwilfrydedd a chymhelliant y dysgwyr disgleiriaf am eu dysgu, eu grymuso i wneud dewisiadau gwybodus am eu llwybrau addysgol yn y dyfodol, a hybu eu gallu i gyrraedd eu potensial drwy ddarparu'r cymorth cywir i fynd i'r prifysgolion gorau.
Mae'r “Ysbyty Gobaith” ffuglennol yn uchafbwynt i lawer o ddysgwyr wrth iddynt ennill profiad ymarferol o gymryd hanes clinigol i gynorthwyo diagnosis a chael profiadau ymarferol o driniaethau, sy'n cynnwys cynorthwyo George y claf robotig.
Bydd 13 o lysgenhadon myfyrwyr meddygol a deintyddol presennol yn arwain grwpiau bach o amgylch y sesiynau, gan rannu cipolwg ar eu taith academaidd. Mae llawer o'r llysgenhadon myfyrwyr hyn yn gyn-fyfyrwyr Academi Seren.
Dywedodd Louisa, myfyrwraig feddygol amser llawn ym Mhrifysgol Caerdydd a chyn-fyfyriwr Seren “Roeddwn i wastad eisiau astudio meddygaeth yn Rhydychen, ond ar ôl mynychu preswylfa Seren yno, sylweddolais nad oedd yn addas i mi. Drwy fy nhaith gyda Seren, darganfyddais Brifysgol Caerdydd, a oedd â'r cyfleusterau a'r rhaglen academaidd o'r radd flaenaf yr oeddwn yn chwilio amdanynt. Yr hyn a wnaeth fy nenu i astudio yng Nghaerdydd yn hytrach nag mewn ysgolion meddygol eraill oedd bod eu dulliau dysgu yn gweddu imi, yn ogystal â'r cyfle i gael cyswllt clinigol cynnar mewn lleoliadau ym mhob rhan o Gymru, ac nid mewn un ddinas yn unig.
"Rhoddodd Seren yr wybodaeth, y profiadau a'r cyfleoedd imi wneud penderfyniad gwybodus am fy ngyrfa addysg uwch, a hefyd fe wnaeth fy helpu i ddatblygu'r sgiliau y mae eu hangen i fordwyo proses ymgeisio gystadleuol.”
Dywedodd y Gweinidog Addysg Bellach ac Uwch, Vikki Howells: “Wrth inni ddathlu deng mlynedd ers i Seren gael ei sefydlu, mae'r rhaglen flaenllaw hon yn tynnu sylw at sut y gall partneriaeth â phrifysgol gyflawni effaith wirioneddol. Aeth 82% o'r garfan gyntaf a fynychodd y cwrs preswyl hwn yn 2023, ymlaen i wneud cais i Brifysgol Caerdydd.
“Mae'r math hwn o brofiad yn trochi dysgwyr Seren yn y maes pwnc y maen nhw'n ei ystyried ar gyfer eu dyfodol ac yn rhoi blas iddyn nhw ar fywyd prifysgol yma yng Nghaerdydd. Mae'r cyfan yn eu helpu i wneud penderfyniad gwybodus am eu ceisiadau addysg uwch.
“Mae Louisa yn enghraifft wych o sut mae Academi Seren yn helpu i ysbrydoli pobl ifanc i ddilyn eu breuddwydion yma yng Nghymru i astudio sgiliau hanfodol ac achub bywydau, y bydd cymunedau ledled Cymru yn elwa arnynt yn y dyfodol.
“Rwy'n edrych ymlaen at weld prifysgolion eraill yn efelychu'r math hwn o fodel a phartneriaeth gyda Seren i hysbysu ein dysgwyr mwyaf disglair yng Nghymru am eu dewisiadau addysg uwch."