English icon English

Rhaid cael system fudo sy'n gweithio i Gymru

We need a migration system that works for Wales

Mae Llywodraeth Cymru wedi ymuno â GIG Cymru, sefydliadau busnes, llywodraeth leol, prifysgolion, y sector gwirfoddol a'r Undebau Llafur i alw ar Lywodraeth y DU i gyflwyno system fudo sy'n gweithio i Gymru.

Mae Llywodraeth Cymru wedi ymuno â GIG Cymru, sefydliadau busnes, llywodraeth leol, prifysgolion, y sector gwirfoddol a'r Undebau Llafur i alw ar Lywodraeth y DU i gyflwyno system fudo sy'n gweithio i Gymru.

Mae amrywiaeth o sefydliadau o wahanol sectorau ledled Cymru wedi llofnodi’r papur safbwynt. Mewn llythyr at Priti Patel, yr Ysgrifennydd Cartref, mae'r Cwnsler Cyffredinol a'r Gweinidog Pontio Ewropeaidd wedi galw am newidiadau i gynlluniau Llywodraeth y DU.

Mae papur safbwynt Cymru ynghylch mudo yn galw am y canlynol:

  • Dileu neu ostwng y trothwy cyflog o £25,600
  • Dylai cost unrhyw system fudo newydd fod yn isel ac ni ddylai ychwanegu at y baich gweinyddu
  • Llwybr ar gyfer mudo heb ei noddi, sy'n gyson â system yn seiliedig ar bwyntiau
  • Dylai'r polisi newydd gydnabod yr her ddemograffig sy'n wynebu Cymru
  • Digon o amser i gyflwyno system newydd
  • Dylai Llywodraeth y DU sicrhau bod mudwyr yn ymwybodol o'u hawliau a bod yr hawliau hynny'n cael eu cynnal.

Dywedodd Jeremy Miles, y Cwnsler Cyffredinol a'r Gweinidog Pontio Ewropeaidd: 

"Mae polisi mudo'r DU yn y dyfodol yn bwysig iawn i Gymru. Bydd yn effeithio'n sylweddol ar ein dyfodol, ein heconomi, ein cymunedau a'n diwylliant. Rhaid i unrhyw ddiwygio ystyried anghenion Cymru.

"Gyda'n gilydd, rydyn ni'n anfon neges glir iawn. Mae angen system fudo sy'n gweithio i Gymru, sy'n gweithio i'n busnesau, ein hysgolion a'n Prifysgolion, ein cartrefi gofal a'n hysbytai, fel bod y sgiliau a'r bobl sydd eu hangen arnom yn parhau i fod gennym.

"Dydy'r hyn y mae Llywodraeth y DU yn ei gynnig ddim yn gweithio i Gymru.

"Mae'r ffaith bod amrywiaeth mor eang o sefydliadau o'r sector cyhoeddus, preifat a gwirfoddol yng Nghymru wedi cytuno â'r papur hwn yn dweud llawer am gryfder y teimladau yr ydym yn eu mynegi yma. Rydyn ni'n gobeithio y bydd y neges bwerus hon gan Gymru am ein hanghenion mudo yn y dyfodol yn cael ei chlywed o'r diwedd gan Lywodraeth y Du."

Gallwch weld y papur yma:

  • Llofnodwyd y papur gan:
    • Gyngor Celfyddydau Cymru
    • Fforwm Gofal Cymru
    • Y Ffederasiwn Busnesau Bach
    • Bwrdd Diwydiant Bwyd a Diod Cymru
    • Race Council Cymru
    • Coleg Nyrsio Brenhinol Cymru
    • Gofal Cymdeithasol Cymru
    • Siambr Fasnach De Cymru
    • Cyngres yr Undebau Llafur
    • Prifysgolion Cymru
    • Cyngor Gweithredu Gwirfoddol Cymru
    • Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru
    • Conffederasiwn GIG Cymru
    • Cynghrair Twristiaeth Cymru