English icon English
Money-2

Rhaid i Gyllideb y DU fynd i’r afael o’r diwedd â’r addewidion sydd wedi’u torri

UK Budget must finally address broken promises

Mae Llywodraeth Cymru yn annog Llywodraeth y DU i gymryd camau pendant i roi terfyn ar galedi a darparu buddsoddiad cynaliadwy, hirdymor ar gyfer ein gwasanaethau cyhoeddus hanfodol, wrth iddi baratoi ar gyfer Cyllideb hir-ddisgwyliedig y DU. 

Mewn llythyr at y Canghellor newydd, mae Rebecca Evans, y Gweinidog Cyllid, yn nodi blaenoriaethau Cymru cyn Cyllideb y DU ddydd Mercher 11 Mawrth 2020.

Mae'r Gweinidog Cyllid yn annog Llywodraeth y DU i wneud cyfres o ymrwymiadau i Gymru, gan gynnwys:

  • mynd i’r afael ag anghydraddoldeb rhanbarthol
  • ymateb i'r argyfwng hinsawdd
  • cyflawni ei ymrwymiad i gyllido ar ôl gadael yr UE 
  • darparu cyllid ar gyfer heriau deuol llifogydd ar raddfa fawr a’r Coronafeirws

Wrth siarad cyn cyhoeddiad Cyllideb y DU yr wythnos nesaf, dywedodd Rebecca Evans, y Gweinidog Cyllid:

"Er bod y farchnad lafur yng Nghymru yn perfformio'n gryf mewn termau hanesyddol, er gwaethaf degawd coll lle nad yw cynhyrchiant y DU a chyflogau gwirioneddol wedi codi bron.

"Dylai Llywodraeth y DU ymateb i'r ansicrwydd hwn drwy fanteisio ar gyfraddau llog hanesyddol o isel, rhoi terfyn ar galedi a chanolbwyntio ar helpu'r rhai sy'n wynebu'r risg fwyaf. Mae hyn yn golygu buddsoddiad parhaus mewn gwasanaethau cyhoeddus a gwrthdroi diwygiadau lles a thoriadau atchweliadol. Fel rhan o hyn, rhaid i Lywodraeth y DU adolygu ei dull o weithredu er mwyn sicrhau system drethu decach.

"Os yw Llywodraeth y DU o ddifrif am lefelu nawr yw'r amser i sicrhau buddsoddiad mawr, hir-ddisgwyliedig yng Nghymru. Yn dilyn degawdau o danfuddsoddi, yr wyf wedi galw ar Lywodraeth y DU i wneud iawn am ei hymrwymiadau blaenorol i sicrhau bod Cymru'n cael ei chyfran deg o fuddsoddiad yn ei rheilffyrdd ac i hybu gwariant ar ymchwil a datblygu, sydd mor bwysig i'n heconomi.”

Fe wnaeth y Gweinidog Cyllid annog y Canghellor hefyd i ddefnyddio'r ysgogiadau i ymateb i her yr argyfwng hinsawdd.

Dywedodd Rebecca Evans:

"Mae angen i ni weld cefnogaeth bendant i ymchwil a datblygu ar gyfer datgarboneiddio diwydiannol a buddsoddiad pellach yn y system ynni. Rwy'n croesawu sylwadau diweddar Ysgrifennydd Gwladol Cymru bod potensial trawsnewidiol morlyn llanw Bae Abertawe yn dal i gael ei drafod ac rwy'n annog Llywodraeth y DU i gymryd camau i wireddu'r prosiect hwn.”

Wrth i'r DU baratoi i adael yr UE, galwodd y Gweinidog Cyllid ar y Canghellor i barchu setliad datganoli Cymru, i dderbyn rôl allweddol Llywodraeth Cymru a'r bartneriaeth eang y mae'n ei chynnull wrth reoli a chydlynu'r cyllid cyfnewid ar gyfer y Cronfeydd Strwythurol. Roedd hi’n croesawu’r cadarnhad y bydd Llywodraeth y DU yn darparu cyllid llawn i gymryd lle holl raglenni'r UE y mae Cymru wedi elwa arnynt yn y gorffennol ac mae hi wedi ceisio gwarantau diamwys yn y gyllideb hon.

Ychwanegodd:

"Rydym hefyd yn disgwyl i'r gyllideb gael ei theilwra i gefnogi proses drosglwyddo esmwyth wrth i'r DU adael yr UE, gan helpu busnesau a sectorau wrth iddynt baratoi i symud i amgylchedd masnachu newydd.”

Yn y llythyr, ymdriniodd y Gweinidog â'r heriau cyffredin yr ydym oll yn eu hwynebu wrth ariannu ein system gofal cymdeithasol yn y dyfodol, a chroesawyd gwell ymgysylltiad rhwng y Trysorlys a Llywodraeth Cymru i drafod dewisiadau ar gyfer ariannu yn y dyfodol. 

Yn olaf, gan droi at y dinistr a achoswyd gan y llifogydd diweddar, ailadroddodd y Gweinidog Cyllid yr angen am gyllid ychwanegol i ddelio â'r effaith anghymesur y mae'r stormydd wedi'i chael ar Gymru.

Gwnaeth y Gweinidog Cyllid hi'n glir hefyd ei bod yn debygol y bydd angen arian ychwanegol ar gyfer pob rhan o'r DU er mwyn cynllunio'n effeithiol ar gyfer Coronafeirws.