"Rhaid i Lywodraeth y Deyrnas Unedig parchu datganoli” – Cymru a'r Alban
“UK Government must respect devolution” - Wales & Scotland
Heddiw, mae Gweinidogion o Gymru a'r Alban wedi mynnu bod rhaid i Lywodraeth y Deyrnas Unedig wneud y peth iawn, parchu datganoli a chadw at ei hymrwymiad i ddarparu union yr un faint o gyllid yn lle cyllid yr UE.
Wrth siarad cyn Adolygiad o Wariant Llywodraeth y DU, mynegodd Jeremy Miles ac Kate Forbes eu rhwystredigaeth nad yw Llywodraeth y DU wedi gwneud unrhyw drefniadau ymarferol ar gyfer y Gronfa Ffyniant Gyffredin, er y bydd cyllid yr UE yn dechrau dirwyn i ben ddiwedd y flwyddyn.
Ar y llaw arall, wythnos diwethaf cyhoeddodd Llywodraeth Cymru a Llywodraeth yr Alban ill dwy eu cynigion ar gyfer y Gronfa. Gwnaethant hynny ar ôl cydweithio ac ymgynghori'n helaeth ag awdurdodau lleol, y sector preifat, prifysgolion a cholegau, a'r trydydd sector yn y ddwy wlad.
Dywedodd Jeremy Miles, y Cwnsler Cyffredinol a'r Gweinidog Pontio Ewropeaidd:
“Rhaid i Lywodraeth y DU wireddu addewidion a wnaed droeon na fyddai Brexit yn arwain at golli unrhyw gyllid ac y byddai'r setliad datganoli yn cael ei barchu.
"Mae ein cynigion wedi'u datblygu dros dair blynedd gyda rhanddeiliaid o lywodraeth leol, Addysg Uwch ac Addysg Bellach, y sector preifat a'r trydydd sector. Cawsant eu llunio gyda chyngor arbenigol gan y Sefydliad ar gyfer Cydweithrediad a Datblygiad Economaidd ac maent wedi bod yn destun ymgynghoriad cyhoeddus helaeth.
"O ganlyniad, mae gennym Fframwaith i ailddechrau rhaglenni buddsoddi yn gynnar y flwyddyn nesaf – cyhyd â bod Gweinidogion y DU yn cadw at eu hymrwymiadau.
"Rhaid i'r diffyg tryloywder a chydweithio gan Lywodraeth y DU hyd yma ddod i ben nawr, fel y bydd Cymru yn cael yr eglurder sydd ei angen arni a'r ymrwymiad i weithio drwy Lywodraeth Cymru, yn unol â’r setliad datganoli."
Dywedodd Ysgrifennydd Cyllid Llywodraeth yr Alban Kate Forbes:
“Rwyf wedi’i gwneud yn glir i Lywodraeth y DU fy mod yn pryderu’n fawr nad wyf eto wedi gweld unrhyw dystiolaeth o’i hymrwymiad i ddarparu’r un faint o gyllid yn lle cyllid yr UE nac i ymgysylltu’n ystyrlon â’r gwledydd datganoledig ar draws sawl rhaglen gan gynnwys pysgodfeydd, cronfeydd strwythurol a rhaglenni cystadleuol megis Erasmus+ a Horizon Ewrop.
“Wythnos diwethaf, gwnaethom gyhoeddi cynigion ar gyfer Cronfa Ffyniant Gyffredin i’r Alban. Lluniwyd y cynigion hyn ar ôl 12 mis o ymgynghori a chyda chymorth Grŵp Llywio arbenigol. Rydym nawr yn gweithio i ddatblygu’r gronfa gyda phartneriaid allweddol, yn enwedig awdurdodau lleol, i sicrhau bod anghenion a blaenoriaethau unigryw’r Alban yn cael eu bodloni.
“Mae Llywodraeth y DU wedi ymrwymo o’r blaen i ddarparu union yr un faint o gyllid yn lle cyllid yr UE ac mae Llywodraeth yr Alban yn disgwyl cadw rheolaeth lawn dros y cyllid hwn. Byddwn yn parhau i wrthsefyll yn gadarn unrhyw ymdrechion gan Lywodraeth y DU i danseilio’r setliad datganoli mewn perthynas â phwerau a chyllid.”