English icon English

Rhaid i’r adolygiad o drafnidiaeth y DU gyfan roi sylw i’r dros £2.4bn o danfuddsoddi yn rheilffyrdd Cymru

UK wide transport review must address £2.4bn+ underinvestment in Welsh rail

Mae Ken Skates wedi dweud y dylai’r ‘Union Connectivity Review’ a gyhoeddwyd yn ddiweddar gael ei ddefnyddio’n gyfle i unioni esgeulustod Llywodraeth y DU mewn perthynas â rheilffyrdd Cymru.

Lansiwyd y Union Connectivity Review gan Lywodraeth y DU i archwilio ffyrdd o wella cysylltiadau rhwng Cymru, Lloegr, yr Alban a Gogledd Iwerddon.

Yn flaenorol mae’r Gweinidog wedi’i gwneud yn glir bod rhaid i’r adolygiad barchu’r setliad datganoli presennol a pheidio ag ymyrryd â materion mae Llywodraeth Cymru yn gyfrifol amdanynt. Cafodd y llinell goch hon mewn perthynas â chyfrifoldebau datganoledig ei hamlinellu ar y cyd â Gweinidogion cyfatebol yn yr Alban a Gogledd Iwerddon.

O dan y cynlluniau gwario presennol mae Llywodraeth Cymru wedi cyfrifo bod y tanwariant ar reilffyrdd Cymru rhwng 2001 a 2029 tua £2.4bn. Mae hynny’n amcangyfrif ceidwadol, a gallai’r ffigur fod mor uchel â £5.1bn.

Mae dogfen yn amlinellu’r cyfrifiadau wedi cael ei chyhoeddi heddiw. Mae adroddiad arall sy’n amlinellu sut y byddai’r prif linellau yn y Gogledd a’r De yn elwa ar fuddsoddiadau (fel rhan o’r systemau Metro) wedi cael ei gyhoeddi hefyd.

Yr wythnos diwethaf cyhoeddwyd Llwybr Newydd, strategaeth drafnidiaeth ddrafft sy’n ymrwymo i leihau allyriadau carbon o sector trafnidiaeth Cymru yn sylweddol. Roedd yn cynnwys hierarchaeth drafnidiaeth gynaliadwy newydd a fyddai’n rhoi blaenoriaeth i drafnidiaeth gyhoeddus. Mae’r angen i annog pobl i gefnu ar eu ceir a dechrau defnyddio bysiau, trenau a dulliau trafnidiaeth cynaliadwy yn rhan allweddol o weledigaeth Llywodraeth Cymru ar gyfer trafnidiaeth.

Dywedodd Ken Skates, Gweinidog yr Economi, Trafnidiaeth a Gogledd Cymru:

 “Rhaid i Llywodraeth y DU ddangos ei bod o ddifri o ran sicrhau tegwch ar gyfer ein gwlad, drwy unioni ei methiant i fuddsoddi yn deg yng nghysylltiadau rheilffyrdd, band eang a hedfanaeth Cymru. Mae wedi gwrthod datganoli’r pwerau’r a’r cyllid hwn, wrth hefyd fethu ystyried ein cysylltiadau o ddifri. Mae’r Union Connectivity Review yn gyfle i Lywodraeth y DU ystyried y tanfuddsoddi yn y gorffennol a chanolbwyntio ar weithio i wella”