English icon English
Senedd outside-2

Rhannu ffyniant? A fydd Prif Weinidog y DU yn cadw’i addewid i barchu datganoli?

Shared prosperity? PM faces test on devolution pledge

Llywodraeth Cymru yn galw ar Lywodraeth y DU i gefnogi cynlluniau buddsoddi rhanbarthol unigryw i sicrhau bod penderfyniadau cyllid y dyfodol yn agosach at y bobl.

'Dim ceiniog yn llai, heb golli unrhyw bwerau' – heddiw fe wnaeth Jeremy Miles, y Cwnsler Cyffredinol, atgoffa’r DU o’i haddewid. Gwnaeth hynny wrth i Lywodraeth Cymru gyhoeddi ei chynigion ar drefniadau buddsoddi rhanbarthol y dyfodol yng Nghymru, a fydd yn disodli cronfeydd yr Undeb Ewropeaidd.

Ymhen 10 mis, bydd cyllid presennol yr UE, sy'n werth £375 miliwn y flwyddyn, yn dod i ben yn raddol. Felly, mae Llywodraeth Cymru wedi bod yn gweithio’n agos gyda phartneriaid yng Nghymru i lunio trefniadau newydd ar gyfer buddsoddi rhanbarthol yn y dyfodol.

Mae ein cynigion newydd, a gyhoeddir heddiw, yn cefnogi twf a chynhwysiant ledled Cymru, ac yn rhoi blaenoriaeth i bedwar maes buddsoddi – cymunedau iachach a mwy cynaliadwy, yr economi ddi-garbon, cynhyrchiant a chystadleurwydd busnesau, a lleihau anghydraddoldebau incwm i bobl.

Dywedodd Jeremy Miles, "Ers dros 20 mlynedd, mae'r Cronfeydd Strwythurol a Buddsoddi Ewropeaidd a ddarperir gan Lywodraeth Cymru, gyda'i phartneriaid, wedi creu manteision sylweddol i Gymru, gan helpu i greu swyddi newydd gwell a rhoi'r sgiliau i bobl eu gwneud.

"Ers i Lywodraeth y DU gyhoeddi, dros ddwy flynedd a hanner yn ôl, y bydd y Gronfa Ffyniant Gyffredin yn disodli cronfeydd yr UE, nid yw hi wedi cadw ei haddewidion i ymgysylltu ac ymgynghori â ni ar y model newydd. Mae'n anodd credu ein bod yn dal i ddisgwyl manylion ynghylch sut y bydd y cyllid hwn yn dod i Gymru. Rydym hefyd yn disgwyl cadarnhad y bydd Llywodraeth Cymru yn cadw’r hawl, yn unol â'n setliad datganoli, i benderfynu sut y bydd y cronfeydd hyn yn cael eu gwario yng Nghymru.

"Os yw Prif Weinidog y DU o ddifrif ynghylch cynnal a chryfhau'r Undeb, yna parchu datganoli, rhywbeth y mae pobl Cymru wedi pleidleisio ddwywaith o’i blaid, fydd un o brofion cyntaf ei Lywodraeth."

Dywedodd Rebecca Evans, y Gweinidog Cyllid: "Gyda chymorth cyllid yr UE, rydym wedi gweld cynnydd sylweddol o ran sgiliau, swyddi newydd, ynni adnewyddadwy, a buddsoddi mewn ymchwil ac arloesedd. Mae hyn wedi cael ei gyflawni drwy bartneriaethau gonest a chadarn gyda busnesau, prifysgolion, awdurdodau lleol, y trydydd sector a'r sector cyhoeddus ehangach yng Nghymru.

"Mae cyfle go iawn yma i adeiladu ar y gwaith hwn gyda'n partneriaid, a sicrhau ffyniant ym mhob rhan o Gymru drwy fuddsoddi rhanbarthol parhaus o dan reolaeth Llywodraeth Cymru, nid San Steffan.” 

"Mae ein hymgynghoriad yn trafod cyfres o gynigion ar gyfer buddsoddi'r cyllid newydd hwn gan Lywodraeth y DU, a hynny er mwyn adeiladu ar waddol llwyddiannus cyllid yr UE a reolir gan Gymru. Mae hefyd yn cydnabod ein bod yn camu i'r dyfodol gyda mwy o greadigrwydd ac uchelgais i fanteisio i'r eithaf ar gyfleoedd newydd a chyffrous yng Nghymru, yn y DU ac yn fyd-eang."

Dyma rai o gynigion yr ymgynghoriad:

  • grymuso rhanbarthau ac ardaloedd lleol i ddatblygu eu cyfleoedd a'u cryfderau unigryw eu hunain, fel y gallant arloesi a chysylltu llefydd a buddsoddiadau mewn ffyrdd newydd a chreadigol
  • cael rhagor o hyblygrwydd er mwyn cyfuno cyllid a phrosiectau â buddsoddiadau ehangach gan gynnwys cyllid gan y DU, y sector preifat a'r sector cyhoeddus ehangach
  • sicrhau bod Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol wrth galon ein cynlluniau er mwyn i gamau gweithredu y byddwn yn eu cymryd gael effaith gadarnhaol barhaus ar ein pobl a'n cymunedau am ddegawdau i ddod
  • sicrhau bod cydraddoldeb a chynaliadwyedd yn rhan allweddol o'n hymrwymiadau buddsoddi.